Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Marchnata
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n dda efo geiriau, yn hyderus efo’ch hiwmor ac yn angerddol am ardal Caernarfon a gogledd orllewin Cymru?
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Marchnata i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni.
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am berson deinamig i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni. Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Creu a gweithredu strategaeth farchnata ar gyfer Galeri a Cei Llechi
• Creu a dogfennu ymgyrchoedd marchnata a chydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd apersonnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd a hyrwyddiadau marchnata digidol
• Cydlynu cyllideb marchnata’r cwmni
• Cysylltu â chwmnïau sy'n ymweld â'r ganolfan / dosbarthwyr ffilm / artistiaid parthed eu gofynion nhw o ran cyhoeddusrwydd a marchnata
• Gweithredu systemau cyfathrebu mewnol effeithiol gyda chyd-weithwyr, y bwrdd a chwmniau preswyl
• Arwain ar y gwaith o weithdredu systemau cyfathrebu allanol gyda chwsmeriaid
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddil y Tîm Creadigol ar brosiectau creadigol a masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd cyfredol a newydd, a thargedu cynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau penodol
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol wrth ysgrifennu copi dwyieithog, golygu a phrwffio ar gyfer amryw o blatfformau, yn cynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol Galeri a Cei Llechi, datganiadau i’r wasg a phecynnau gwybodaeth
• Cydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i gynhyrchu deunydd print a chyhoeddusrwydd
• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen Creu, monitro ac ymateb i adroddiadau ariannwyr gan gydweithio efo’r Cyfarwyddwr Creadigol, y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus
• Ysgrifennu ceisiadau am wobrau
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio adroddiadau, creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau ac ymgyrchoedd
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Rhaglen Greadigol
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Rhaglen Greadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau?
Oes gennych chi syniadau am ddigwyddiadau byw sydd angen eu clywed?
Mae GALERI, Caernarfon yn chwilio am Gydlynydd Rhaglen Greadigol i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i gydlynu a chyflwyno rhaglen artistig amrywiol a byrlymus.
Disgrifiad:
Mae hi’n gyfnod gyffrous yn hanes y cwmni, ac rydym yn edrych i ddatblygu cyfleoedd newydd a lledaenu’n cyrhaeddiad. Ein bwriad felly yw i ehangu’r Tîm Creadigol i gynyddu ein hallbynnau a gwneud y mwyaf o bob cyfle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau byw - boed yn gerddoriaeth, drama, sgyrsiau, dawns neu unrhyw beth arall, rydym yn awyddus i glywed gennych!
Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda’r Tîm Creadigol a Phenaethiaid Adrannau i gynnal a chefnogi systemau gweinyddol gan gynnwys casglu gwybodaeth cytundebu, cyllido, cyd-arwain prosiectau a chyfathrebu mewnol sy'n drawsadrannol
• Cydlynu trawsadrannol gan gynnwys cynnal cyfarfodydd, rheoli dyddiadur a chydweithio gyda’r Tîm Creadigol i greu adroddiadau adrannol
• Cefnogi'r Cyfarwyddwr Creadigol trwy gynnal systemau gweinyddol a darparu cymorth megis ymchwil, prawfddarllen, nodiadau briffio, trefnu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol a datblygu cyflwyniadau
• Casglu gwybodaeth am gynigion prosiectau a mentrau creadigol a anfonwyd at y Cyfarwyddwr Creadigol, cadw ar ben tueddiadau cyfredol ac ymgymryd â thasgau penodol wrth gwmpasu prosiectau a gynhwysir yn y rhaglen megis ymweliadau safle, teithiau, gweithdai, coladu gwybodaeth dechnegol, casglu adborth a chwmpasu cyllidebau
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Marchnata i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Ymateb i ymholiadau am y rhaglen yn ôl yr angen a mynychu digwyddiadau allweddol yn yr ardal ar ran y Tîm Creadigol, gan gynrychioli Galeri
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol i raglennu’r sinema
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Cyd-ddatblygu prosiectau masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd, megis cynllun cyfeillion
• Helpu i sefydlu Galeri fel ychwanegiad dymunol at y gylchdaith ar gyfer darparwyr a pherfformwyr perthnasol
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr / Prif Weithredwraig
Mae Galeri Caernarfon yn edrych am Brif Weithredwr / Prif Weithredwraig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn un o brif fentrau cymdeithasol Cymru, mae’r sefydliad yn amlwg iawn yn ardal Caernarfon a thu hwnt oherwydd y gwaith mae’r cwmni wedi ei gyflawni ers 1992. Mae gwaith y cwmni hyd yma yn cynnwys:
- Adfwyio adeiladau yn y dref gaerog (trawsnewid ac ailwampio dros 20 o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref)
- Adeiladu a rheoli canolfan mentrau creadigol Galeri (un o brif ganolfanau celfyddydol Cymru)
- Cynnig cyfleoedd/prosiectau drwy’r celfyddydau
- Prosiect adfywio Cei Llechi
Mae ein Prif Weithredwr presennol, Gwyn Roberts, wedi bod yn allweddol yn arwain y cwmni ers y decharu, gan ddatblygu ein gweledigaeth a chreu prosiectau i dyfu’r sefydliad mewn ffyrdd cydweithredol ac arloesol, sydd hefyd yn ychwanegu gwerth economaidd yn lleol. Bydd Gwyn yn parhau mewn rôl newydd hefo Galeri, gan ganolbwyntio ar ddatblygu prosiectau newydd, o fis Ebrill 2023.
Rydym yn chwilio am berson gweithgar i yrru ein cenhadaeth ymlaen gan adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan y Cwmni dros y blynyddoedd, mewn cyfnod a fydd yn heriol i'r sectorau diwylliannol a mentrau cymdeithasol.
Y Prif Weithredwr sydd, mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, yn gosod cyfeiriad strategol i holl waith Galeri Caernarfon Cyf ac sy’n gweithredu fel llysgennad yn y gymuned leol a thu hwnt. Dyma gyfle arbennig i unigolyn sydd a gweledigaeth i arwain tîm brwdfrydig a menter gymdeithasol hollbwysig mewn canolfan greadigol unigryw.
Mae’r gallu i weithio yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Sut i Ymgeisio -
Os teimlwch fod gennych y cyfuniad cywir o sgiliau a brwdfrydedd i gyrraedd gofynion y swydd yma, dylwch ymgeisio drwy yrru y dogfennau isod i [email protected]
- CV cyfredol
- Datganiad cefnogol o ddim mwy na 2 ochr A4, yn amlinellu eich profiad perthnasol.
Cyflog
💰 £60,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Derbynnydd
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref
Disgrifiad:
Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM
Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn.
Cyflog: £9.50 yr awr
Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon.
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Dyletswyddau
Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.
Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.
Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.
Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.
Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.
Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan.
Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen
Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.
Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.
· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.
Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr. Manyldeb personol
Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).
· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.
Dymunol
profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol. Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol. Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg :
Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk)
Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes.
Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen.
Gwarchod Data
· Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau
· Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai.
Cyflog
💰 £9.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Goruchwylydd Bwyd a Diod
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn edrych am Oruchwylydd Bwyd a Diod
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dyddiad Cau: 30 Medi erbyn 5:00yh
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan. Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £19,876 - £24,202
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.