Swyddi Cymraeg
7 swydd yn cyfateb
Swyddog Systemau a Chyfathrebu
Mae GwE yn edrych am Swyddog Systemau a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r gwasanaeth wrth iddo wireddu ei gynllun busnes gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
· Brandio a chyhoeddiadau consortiwm
· Y bwletin ysgolion wythnosol
· Dylunio graffeg a chysodi · Reprograffeg
· Nwyddau ac arwyddion
· Trawsnewid digidol a systemau
· Cynnwys digidol, yn cynnwys y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 10 Tachwedd 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Rheon Larsen, Rheolwr Gwybodaeth GwE.
01286 679147 / 07554439306
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ewch i www.gwynedd.gov.uk ‘Swyddi a Gyrfaoedd' neu ffonio 01286 679076.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Caernarfon, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Mae S4C yn edrych am Brentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae' NS4C yn wasanaeth newyddion digidol Cymraeg gafodd ei lawnsio yn Ebrill 2021. Mae swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn chwilio am ddau brentis fyddai'n gallu ymuno a'r tîm wrth i'r gwasanaeth dyfu.
Bydd prentisiaeth newyddion digidol yn S4C yn rhoi cyfle i chi:
• Fod yn rhan o'r tîm newyddion digidol yn S4C.
• Gweithio gyda'r tîm i becynnu cynnwys newyddion.
• Ymchwilio a datblygu syniadau am straeon.
• Ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan ac App newyddion a phenawdau bachog ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
• Ffilmio a golygu deunydd digidol ar gyfer platfformau fel Instagram, Facebook, Twitter yn ogystal a'r App Newyddion.
• Creu graffeg ar gyfer platfformau digidol.
• Gweithio gyda phartneriaid ac adrannau eraill o fewn S4C i rhoi llwyfan i'n cynnwys.
• Helpu S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Manylion Eraill
Dyddiad Cychwyn: Canol/diwedd Medi 2022
Lleoliad: Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon
Cyflog: £15,000 y flwyddyn
Pensiwn: Mi fydd S4C yn cyfrannu 3% a disgwylir i chi cyfrannu 4%. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfanswm cyflog.
Cytundeb: 18 mis
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio patrwm sifft yn unol â'r gwasanaeth sydd ar draws 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Nifer o brentisiaeth ar gael: 2
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 4 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.
Cyflog
💰 £15,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.
Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.
Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.
Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.
Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.
Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr. Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar.
Gofynion yr unigolyn
Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.
Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Oriau Gwaith
14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith.
Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
**Rhaglen waith **
Cyd-destun
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol
Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Cynllun marchnata
Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
· rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.
· datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom.
· datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau.
· llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol.
· darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.
· argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.
Creu asedau a thempledau digidol
Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd.
Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.
Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu.
Hanfodol
Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.
Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol. Sgiliau TG sylfaenol.
Manteisiol
Trwydded yrru lawn.
Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynnwys
Mae Rondo yn edrych am Gynhyrchydd Cynnwys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n edrych am Gynhyrchydd profiadol i ymuno â thîm chwaraeon Rondo.
Byddai’r rôl yn berffaith i unigolyn creadigol ac egniol sy’n deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau digidol a llinol.
Bydd gan y Cynhyrchydd Cynnwys gyfrifoldeb dros ddatblygu, cynllunio a chyfleu cynnwys dan frand Sgorio, arlein ac ar deledu llinol, gan ysbrydoli tîm cynhyrchu bywiog i wireddu’r weledigaeth.
Bydd hefyd yn datblygu syniadau newydd i ennill comisiynau nodwedd a dogfen ar deledu ac arlein.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a blaengar gael creu cynnwys cyffrous ac atyniadol, gan ymuno ag adran lwyddiannus.
**Hanfodol **
Ymwybyddiaeth o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth glir o sut i greu cynnwys sy’n gweithio ar bob platfform.
Profiad o greu a chyfleu syniadau creadigol newydd sy’n arwain at gomisiynau yng Nghymru a thu hwnt, o syniadau dogfen llinol i brosiectau uchelgeisiol arlein.
Profiad o amserlennu, a chreu cynnwys, gan sicrhau bod y deunydd yn cael ei gyfleu i safon uchel golygyddol, ar amser ac o fewn cyllideb.
Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Manteisiol **
Dealltwriaeth dechnegol o’r ffyrdd cyfoes o greu a chyfleu cynnwys Sgiliau hunansaethu.
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i drefnu tîm i ymateb i straeon a chyfleu cynnwys ar fyr rybudd.
Diddordeb mewn chwaraeon a phêl-droed. **Nodweddion Personol **
Y gal_lu i ysbrydoli ac ysgogi tîm i fod yn greadigol a beiddgar_
Y gal_lu i fod yn fywiog yn greadigol ac yn finiog yn olygyddol_
Y ga_llu i weithio dan bwysau a heb oruchwyliaeth i safon uchel Y gallu i weithio o fewn tîm a bod yn hyderus i arwain _
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.