Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Derbynnydd
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref
Disgrifiad:
Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM
Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn.
Cyflog: £9.50 yr awr
Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon.
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Dyletswyddau
Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.
Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.
Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.
Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.
Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.
Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan.
Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen
Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.
Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.
· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.
Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr. Manyldeb personol
Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).
· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.
Dymunol
profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol. Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol. Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg :
Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk)
Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes.
Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen.
Gwarchod Data
· Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau
· Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai.
Cyflog
💰 £9.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd Traffig (Cymru)
Mae Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn edrych am Gomisiynydd Traffig (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar?
A oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol â'r gallu i greu perthnasoedd effeithiol ag uwch ddeiliaid swyddi a rhanddeiliaid?
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno ag a helpu i adeiladu tîm bach yn Swyddfa'r Comisiynydd Traffig. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i'r Comisiynydd Traffig i'w alluogi i ymgymryd â’u dyletswyddau statudol ar gyfer gofynion trwyddedu cerbydau yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys prosesu gwaith achos a gwneud trefniadau ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus.
Cyfrifoldebau
Fel aelod o'r tîm bydd rhai o gyfrifoldebau allweddol eich rôl yn cynnwys:
• llunio a drafftio cyflwyniadau cywir a llawn i'r Comisiynydd Traffig yn argymell camau gweithredu a phrosesu'r achos yn ôl yr angen
• darparu gwasanaeth ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad ymddygiad gyrwyr a gwrandawiad powndio o ansawdd uchel i’r Comisiynydd Traffig
• cydgysylltu pan fo angen gyda DVSA, yr heddlu ac Asiantaethau ac Adrannau eraill y Llywodraeth a mynychu cyfarfodydd ar ran y Comisiynydd Traffig
• drafftio ymatebion i ohebiaeth gan ASau, cymdeithasau masnach ac awdurdodau lleol ar ran y Comisiynydd Traffig
• monitro perfformiad y swyddfa a gweithredu yn ôl yr angen
• delio ag ymholiadau dros y ffôn a’r rhai ysgrifenedig
Amdanat ti
Rydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Gallwch weithio'n effeithiol o fewn tîm neu’n annibynnol ar eich menter eich hun. Mae gennych y gallu i ddeall a dehongli deddfwriaeth gymhleth â sgiliau rhagorol ym meysydd dadansoddi a datrys problemau.
Mae gennych wybodaeth ymarferol dda o becynnau Microsoft gan gynnwys Excel a Word.
Wrth symud ymlaen, rydym wedi’n hymrwymo i annog a galluogi ein staff i ddatblygu yn uwch na'u rôl a byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â chyfleoedd/cymwysterau datblygu pellach.
Cyflog
💰 £26,126
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.