Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Prif Weithredwr
Mae Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y ‘Times a Sunday Times Good University Guide 2022’ ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod parhaol.
- Y RÔL -
Y Prif Weithredwr sydd yn rheoli pob agwedd ar waith y sefydliad ac yn atebol am ei berfformiad. Mae prif gyfrifoldebau’r Prif Weithredwr yn cynnwys:
· arwain pob agwedd ar waith y Ganolfan.
· datblygu a gwireddu gweledigaeth, gwerthoedd a chyfeiriad strategol y Ganolfan gan gynnig arweiniad cadarn i staff, partneriaid a budd-ddeiliaid allweddol;
· sicrhau bod strategaethau corfforaethol y Ganolfan yn cael eu trosi’n allbynnau clir a mesuradwy ar gyfer cynyddu nifer yr unigolion sy’n dysgu Cymraeg ac yn cyrraedd rhuglder bob blwyddyn.
Bydd cymwyseddau craidd y rôl yn cynnwys:
· gweithio’n effeithiol ar lefel genedlaethol gan ddatblygu partneriaethau effeithiol;
· cynnal perthynas effeithiol gydag aelodau’r Bwrdd Cwmni, Darparwyr Dysgu Cymraeg a Llywodraeth Cymru;
· sefydlu perthynas gyda’r wasg er mwyn cynnal proffil addas a chadarnhaol i’r Ganolfan;
· sicrhau bod gweledigaeth y Ganolfan yn perthnasu i nodau strategol Llywodraeth Cymru;
· creu diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformiad uwch, arloesedd a darpariaeth sy’n gweddu’n union i anghenion dysgwyr y Gymraeg;
· cynnal gwelliant parhaus ym mhob agwedd ar waith y Ganolfan;
· arwain tîm staff y Ganolfan a goruchwylio rheoli prosiectau a chyllid yn llwyddiannus.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol
- Profiad o hygrededd cydnabyddedig fel rheolwr/rheolwraig, reoli newid yn y gweithle, arwain strategaeth sefydliadol neu genedlaethol, weithio ar lefel genedlaethol, weithio o dan amgylchiadau heriol, ddatblygu partneriaethau effeithiol a ddelio â’r wasg a’r cyfryngau.
- Meddu ar y gallu i yrru gweledigaeth strategol a chymwyseddau llywodraethiant, i reoli disgwyliadau a chynnydd yn erbyn amcanion tymor byr, canolig a hirdymor, y gallu i arwain rheoli perfformiad, y gallu i reoli cyllidebau sylweddol gan sicrhau gwerth am arian, y gallu i arwain tîm ar lefel genedlaethol gan sicrhau cyfranogiad llawn gan gydweithwyr a’r gallu i greu diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformiad uwch.
- Ysfa i lwyddo ar lefel genedlaethol Meddu ar frwdfrydedd, egni ac ymrwymiad i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
- Agwedd broffesiynol tuag at waith a chydweithwyr
- Cydnabod pwysigrwydd ffurfio perthnasau gwaith cadarn
- Gallu i gydweithio’n effeithiol â staff proffesiynol eraill
- Y gallu i weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith, gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio’ch blaengaredd eich hun
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol ac yn dangos hynny
- Meddu ar y gallu i drawsnewid meysydd sy’n tanberfformio
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ysbrydoli cydweithwyr
- Meddu ar y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Meddu ar sgiliau cyflwyno effeithiol
- Meddu ar sgiliau gweinyddol a threfnu effeithiol
- Yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio’r pecynnau cyfrifiadurol diweddaraf
- Tystiolaeth o gymhelliad personol
- Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg
- Parodrwydd i deithio i fannau eraill yng Nghymru yn rheolaidd
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i lefel benodol.
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Gradd uwch
- Ymwybyddiaeth gadarn o faes Dysgu Cymraeg
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 14 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Campws Caerfyrddin, Llanbed, Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Y Gegin
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Y Gegin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Rheolwr Y Gegin i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Cyfrifoldeb Rheolwr Y Gegin fydd cadw'r amgylchedd yn lân a thaclus gyda o leiaf lefel 4 o Radd Hylendid Bwyd. Disgwylir i’r Rheolwr osod arferion a gweithdrefnau cadw tŷ o’r safon uchaf sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol gan gadw cofnodion a sicrhau bod canllawiau yn cael eu dilyn mewn modd amserol. Ar hyn o bryd gellir eistedd 46 yng ngofod y caffi ei hun, 20 ychwanegol ar ochr y dderbynfa a 18 tu fas a bydd gofyn i'r Rheolwr ystyried ffyrdd o ddatblygu’r wasanaeth ymhellach.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Rheolwr Y Gegin, bydd arnoch angen y canlynol:
- HND neu Radd mewn maes perthnasol NEU brofiad cyfatebol.
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 3.
- Profiad blaenorol mewn rôl rheoli gwasanaeth cwsmeriaid.
- Gwybodaeth ragorol am safonau bwyd a gwasanaeth y diwydiant.
- Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth bwyd gyfredol (HACCAP, alergenau, ac ati).
- Profiad blaenorol o gynllunio a darparu bwydlenni a bwyd o safon (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad)
- Profiad blaenorol o reoli cyllidebau (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad).
- Profiad blaenorol o reoli adnoddau mewn modd cost effeithiol ac effeithlon.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel.
- Sgiliau TG rhagorol a defnydd o Microsoft office, gyda gwybodaeth dda o gyfryngau cymdeithasol.
- Profiad blaenorol o oruchwylio tîm helaeth a'r gallu i gymryd perchnogaeth a rheolaeth.
- Profiad o ymdrin â chwsmeriaid heriol ac ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn effeithiol.
- Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a chynadleddau, i'r safonau uchaf.
- Profiad o ddatblygu tîm i gwrdd ag anghenion dyrys y busnes sy'n aml-sgil ac yn llawn cymhelliant.
- Profiad blaenorol o ddatblygu perthynas waith dda gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Gallu dangos creadigrwydd a sylw i fanylion, sgiliau trefnu a rheoli amser.
- Profiad blaenorol o gadw cofnodion, data a dogfennaeth yr adran.
- Yn dangos lefelau uchel o hunan-gymhelliant.
- Profiad o weithio gyda therfynau amser tynn ac yn gallu ymateb yn unol â hynny.
- Profiad blaenorol o gysoni arian parod a til. Deiliad trwydded DPS (neu wedi’i chwblhau o fewn y 3 mis cyntaf o gyflogaeth).
- Y gallu a’r parodrwydd i weithio’n hyblyg o ran dyletswyddau a phatrymau shifftiau er mwyn ymateb i anghenion busnes.
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau cynadledda a phreswyl o ansawdd uchel.
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau.
- Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol.
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu.
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl.
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau.
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela.
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau.
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Rheolwr Y Gegin, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Campws Caerfyrddin, Campws Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyffredinol Yr Egin
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Cyffredinol Yr Egin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Rheolwr Cyffredinol i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod parhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Ers agor yn 2018 mae statws Yr Egin fel adnodd gwerthfawr i Gaerfyrddin, Sir Gâr ac i Gymru wedi’i sefydlu. Rôl y Rheolwr Cyffredinol bydd cynorthwyo i ddatblygu’r ganolfan ymhellach gan fod yn gyfrifol am y busnes yn ddyddiol megis staffio, cytundebau â chontractwyr a thenantiaid, iechyd a diogelwch, er mwyn sicrhau bod y weledigaeth gyffrous yn cael ei gyflawni i’w lawn botensial. Bydd disgwyl i’r Rheolwr Cyffredinol gadw llygad manwl ar ffynhonellau incwm y ganolfan a rhoi systemau yn eu lle i gynorthwyo gyda twf y ganolfan.
Bydd gofyn i’r Rheolwr Cyffredinol gyfrannu cyngor a darparu arweiniaid er mwyn gwireddu gweledigaeth pellgyrhaeddol y ganolfan sy’n canolbwyntio ar bedair prif elfen : y diwydiannau creadigol, yr iaith Gymraeg, y gymuned a’r economi. Disgwylir i’r Rheolwr Cyffredinol gyfrannu’n effeithiol at dwf Yr Egin fel clwstwr creadigol llwyddiannus gan weithredu’r weledigaeth gyffrous a osodwyd gan y Brifysgol ar gyfer creu manteision yng Nghaerfyrddin a Dinas-ranbarth Bae Abertawe a thu hwnt.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth yn y diwydiannau creadigol, celfyddydol neu ddigidol
- Profiad mewn rôl arweiniol / uwch dîm rheoli yn y diwydiannau creadigol / sector ddiwylliannol
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol a'r gallu i weithio’n annibynol ac o dan bwysau
- Gallu blaenoriaethu gwaith, gan wneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio eich ysgogiad eich hun
- Profiad o ddatblygu a rheoli perthnasau mewn amrywiol gyd-destunau gyda rhanddeiliad mewnol ac allanol
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i gefnogi ac annog eraill
- Adnabyddiaeth o bolisiau a gofynion Adnoddau Dynol gyda phrofiad helaeth o reoli staff, staff llawrydd a gwirfoddolwyr
- Profiad masnachol yn datblygu ffynhonellau ariannol – gall hyn fod wedi deillio o gefndir nid er elw neu academaidd
- Gallu gosod cyllidebau a dangosyddion perfformiad allweddol a gweithredu o’u mewn gan gyflawni targedau ariannol
- Profiad o gyflwyno adroddiadau misol yn cynnig dadansoddiad ariannol a strategol
- Gwybodaeth arbenigol am Bolisïau Iechyd a Diogelwch, ym maes diwydiannau creadigol
- Profiad helaeth o baratoi asesiadau risg cymleth ar gyfer digwyddiadau sydd a nifer o rhanddeiliaid sydd hefyd yn cynnwys ymateb i covid
- Profiad a thystiolaeth o gynhyrchu a rheoli digwyddiadau byw neu brosiect creadigol uchelgeisiol gan roi gweithdrefnau priodol yn eu lle
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol - Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg* a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Gradd uwch
- Cymhwysterau Iechyd a Diogelwch ym maes creadigol
- Profiad o raglennu artistig – naill ai rhaglennu gŵyl, neu leoliad celfyddydau, neu raglennu ardal ddigidol, ac wedi cael profiad felly o fodelau cynhyrchu gwahanol
- Profiad o gydweithio ag undebau megis BECTU, Equity ayb
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Rheolwr Cyffredinol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 20 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £37,474 - £43,414
Lleoliad
📍 Campws Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.