Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Darlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.
Y cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.
Cyflog
💰 £42,155 - £47,423
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.