Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Tiwtor Cymraeg i Oedolion
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Diwtor Cymraeg i Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain ar ddatblygiad a thwf darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd ar draws y Brifysgol.
I gefnogi amcanion y Brifysgol o gynyddu darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, mae Uned yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ystod o raglenni dysgu a datblygu sgiliau Cymraeg (o ddechreuwyr i hyfedredd) i staff a myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni Cymraeg i Oedolion i fyfyrwyr a staff Met Caerdydd ar draws campysau Met Caerdydd ac ar-lein.
Cyflog
💰 £26,396 - £31,411
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Uned Iaith Gymraeg yn arwain datblygiad a thwf darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ledled y Brifysgol. Rydym yn sicrhau hyn trwy weithio'n agos gyda Choleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, a chymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru ac mewn cydweithrediad â'n hysgolion academaidd a'n gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol.
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am unigolyn i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o Saesneg i’r Gymraeg/Cymraeg i’r Saesneg i Met Caerdydd yn ogystal â chymorth gweinyddol achlysurol i’r Uned Gymraeg.
Fe fyddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg rhagorol, yn ysgrifenedig, ac ar lafar.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Cyfieithu a phrawfddarllen amrediad eang o ddogfennau i safon uchel iawn i ddiwallu gofynion y Safonau Cymraeg a'n harddull ysgrifennu mewnol.
Cysylltu â chyfieithwyr allanol i gaffael cyfieithiadau yn ôl y galw. Sicrhau ansawdd digonol y gwasanaeth allanol, gan fonitro ar gyfer cysondeb a glynu at arddull mewnol.
Blaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn rheoli llwyth gwaith, ceisiadau niferus a dyddiadau cau heriol.
Darparu canllawiau cyson i bob aelod o staff ynghylch y ddyletswydd sydd ar y Brifysgol o dan y ddeddfwriaeth bresennol drwy lunio a diweddaru Canllawiau Cyfieithu. Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Sgiliau Cymraeg a Saesneg rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Gwybodaeth ddigonol o Microsoft Office
Sylw rhagorol i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol
Ymrwymiad i’r iaith Gymraeg Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Gradd anrhydedd neu brofiad cyfatebol. Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education UK a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide. Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig wrth ein gilydd, yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn (pro-rata os yn gweithio rhan amser).
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau ardderchog sy'n addas i'r teulu.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
Mynediad teuluol am ddim i'n darparwr cymorth lles arbenigol ndependentHealth Assured.
Cyflog
💰 £26,386 - £31,411
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.
Y cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.
Cyflog
💰 £42,155 - £47,423
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.