Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Prif Weithredwr
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn chwilio am arweinydd talentog i weithredu fel ei Brif Weithredwr nesaf.
Disgrifiad:
Rhaid i’r sawl a benodir medru rheoli'r hyn sydd yn ein hanfod yn fusnes bach sy’n cynnwys 16 aelod o staff, 75 aelod tribiwnlys a chyllideb flynyddol o £1.1m. Rhaid iddynt fedru gwneud hyn yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, gyda’r holl graffu ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae tact a diplomyddiaeth, doethineb a dawn, treiddgarwch a gweledigaeth oll yn rhinweddau hanfodol. Mae gwybodaeth drwyadl am ardrethu annomestig a’r dreth gyngor yn ddymunol iawn hefyd gan mai’r Prif Weithredwr, yn ôl y gyfraith, yw Clerc y Tribiwnlys - er nad yw ymdrin â’r materion hynny yn weithgaredd o ddydd i ddydd. Byddai sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy o feysydd eraill y gyfraith yn dderbyniol. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl; ond os nad yw bydd rhaid dangos ymrwymiad brwdfrydig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio ym mywyd a busnes dyddiol Tribiwnlys Prisio Cymru.
Bydd y broses benodi yn cynnwys o leiaf un diwrnod asesu, a ddilynir gan gyfweliad ffurfiol ar ddiwrnod arall gerbron Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru Bydd y swydd yn dechrau yng ngwanwyn 2023, yn dilyn ymddeoliad ein Prif Weithredwr presennol, Andrew Shipsides.
Cewch ragor o fanylion a ffurflen gais ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru: www.tribiwnlysprisio.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 hyd at £69,496
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.