Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Tiwtor Cysylltiol Cymraeg i Oedolion yn uned Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA), o fewn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae cyfle i benodi hyd at bump unigolyn. Darperir cytundeb hyd at 31 Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Disgrifiad:
Gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith, a hefyd hybu astudio’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant cysylltiedig fel disgyblaeth academaidd benodol. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd hyd at 31 Gorffennaf 2023. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtoriaid fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial. Bydd angen i ymgeiswyr amlygu’r gallu i gyd-weithio’n adeiladol a rhagweithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
Cyflog
💰 £28.72 - £31.48 yr awr
Lleoliad
📍 Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.