Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelwch ac Ystadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am redeg yr Ystafell system teledu cylch cyfyng (CCTV) o ddydd i ddydd, ynghyd a gofal diogelwch yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio’r staff diogelwch sy’n gweithio ar system sifft/rota.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
SWYDDOG CYDYMFFURFIAETH DIOGELWCH AC YSTADAU
Band 3: £24,899 - £28,740
Swydd parhaol. 37 awr yr wythnos.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12.00 o’r gloch 18 Mai 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!