Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Aelodaeth a Recriwtio - Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Aelodaeth a Recriwtio - Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar o fis Ebrill ymlaen.
Prif waith y Swyddog Aelodaeth a Recriwtio fydd arwain ar faterion aelodaeth a recriwtio’r Undeb o ddydd i ddydd.
Cyflog cychwyn yn y swydd: £28,370
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach o Swyddfa UCAC ac yma:
Dyddiad cau: Mawrth 13eg, 2023
01970 639950 | [email protected]
Cyflog
💰 £28,370
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ail Hysbyseb - Mae UCAC yn chwilio am berson brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar. Prif waith y Swyddog Cyllid fydd arwain a bod yn gyfrifol am faterion cyllid yr undeb o ddydd i ddydd.
Disgrifiad:
Trosolwg o’r rôl
Mae’r Swyddog Cyllid yn gyfrifol am gynllunio, monitro a gweinyddu materion cyllid yr Undeb
Rheolwr Llinell: Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyllid • Paratoi adroddiadau a rhagamcanion ariannol er mwyn caniatáu monitro a chynllunio ariannol effeithiol
• Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol i gyflwyno gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynghylch materion cyllid
• Paratoi adroddiadau a manylion ariannol ar gyfer yr Archwilwyr erbyn diwedd Ionawr yn flynyddol, a mynychu cyfarfodydd gyda’r Archwilwyr
• Codi anfonebau, derbynebau ac ymdrin â biliau perthnasol gan gynnwys costau teithio
• Gwirio, codio a chofnodi taliadau / symudiadau (transactions) ariannol yr undeb o ddydd i ddydd
• Prosesu a gwirio debyd uniongyrchol / Instruction Run
• Casglu taliadau aelodaeth trwy Debyd Uniongyrchol (BACS) yn fisol, prosesu negeseuon BACS (megis AUDDIS, ADDACS ac ARUDD)
• Talu cyflog a phensiwn staff ar ddiwedd bob mis trwy system BACS a’r meddalwedd perthnasol a chydweithio gyda chwmni allanol sy’n gweinyddu’r gyflogres i ddarparu gwybodaeth berthnasol
• Cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i weinyddu trefniadau yswiriant UCAC trwy ddarparu manylion perthnasol
• Gwneud taliadau achlysurol yn seiliedig ar benderfyniadau’r Gymhorthfa / Cynllun Digolledi
• Talu honoraria yn flynyddol i’r Llywydd Cenedlaethol a’r Trysorydd Cenedlaethol
Cyflog
💰 £28,876 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Polisi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
Disgrifiad:
Prif waith y Swyddog Polisi fydd paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
Hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
Cyflog cychwynnol y swydd: £39,193
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach o’r Brif Swyddfa.
Dyddiad cau: Mehefin 28, 2022
01970 639950 |[email protected] www.ucac.cymru
Cyflog
💰 £39,193
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.