Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon fel rhan o adran Cyfnod Sylfaen a hyfforddiant Mudiad Meithrin. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rhaid i’r person a benodir fod â sgiliau rhyngbersonol da iawn, gan arddangos hyder i gyfathrebu â rhanddeiliaid ac eirioli ar ran y sector yn effeithiol. Mae’r gallu i gydlynu prosiectau yn drefnus a llwyddiannus yn hanfodol. Bydd angen i’r person a benodir fod â gwybodaeth am y blynyddoedd cynnar a dealltwriaeth o waith Mudiad Meithrin. Mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm hefyd yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i’r blynyddoedd cynnar ac mae’r swydd hon yn gyfle i ddylanwadu ar ansawdd y gofal a’r addysg drwy gydweithio â staff y Mudiad, aelodau ac ymarferwyr a hynny oddi mewn i adran sydd yn datblygu yn gyson.
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Hyfforddiant, Datblygu a Dysgu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Darparu cymorth i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd (lleoliadau nas cynhelir)
· gweithio mewn partneriaeth ag Arweinydd Cwricwlwm i Gymru Cyfnod Sylfaen oddi mewn i adran hyfforddiant y Mudiad
· darparu cyngor amserol a chywir i leoliadau ar ddarpariaeth addysg gynnar o safon, gan ystyried y cwricwlwm perthnasol a'r trefniadau asesu
· rhoi cyngor a chymorth i leoliadau i roi’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir ar waith yn llwyddiannus
· adnabod anghenion hyfforddi ymarferwyr a chydlynu hyfforddiant mewn partneriaeth ag Academi Mudiad Meithrin
· gweithio gydag Awdurdodau Lleol (ALl) a sefydliadau eraill i drefnu cymorth a hyfforddiant i ymarferwyr
· sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar arferion da
· cydweithio â Swyddogion Cefnogi y Mudiad er mwyn cefnogi darpariaethau (e.e. Cylchoedd Ti a Fi, Dechrau’n Deg) gyda threfniadau pontio rhwng lleoliadau acysgolion
· gweithio gydag ymarferwyr Cylchoedd Meithrin i ddatblygu adnoddau e.e. astudiaethau achos neu ddatblygiadau ECEC sy'n hyrwyddo arferion rhagorol i'w rhannu ag eraill a’u cyhoeddi ar Hwb
· darparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd ac effaith y gwaith yn ôl y galw
Datblygu polisi
Bydd disgwyl i'r Prif Swyddog hefyd weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chymryd rhan mewn datblygiadau polisi pwysig gan gynnwys
· gweithredu'r cwricwlwm drwy gydweithio â’r Arweinydd Cwricwlwm
· datblygu trefniadau asesu priodol ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm ac ymarferwyr Cylchoedd Meithrin
· datblygu a gweithredu y cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer y sector nas cynhelir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm a’r Rheolwr Datblygu Adnoddau
Cyflog
💰 £29,614 - £32,375
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.