Mae Adra yn edrych am Gynorthwyydd Tîm Tai Cefnogol (De Gwynedd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cynorthwyo’r tîm i sicrhau bod tenantiaid yn byw yn eu cymuned leol mor normal â phosibl.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn:
• Gwella ansawdd eu bywyd, eu hiechyd a'u lles
• Hyrwyddo eu Diogelwch personol a chymunedol
• Hyrwyddo eu hannibyniaeth a rheolaeth
• Hyrwyddo eu cynnydd economaidd a rheolaeth ariannol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.