Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Clerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol
Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn edrych am Glerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Clerc y Cyngor / Swyddog Ariannol Cyfrifol yn gyfrifol am wasanaethau a chyfleusterau'r Cyngor o ddydd i ddydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth ardderchog a fyddai’n ei galluogi i weithio mewn partneriaeth a staff, Cynghorwyr, partneriaid allanol ar gymuned leol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda dealltwriaeth gyffredinol o lywodraeth leol gyda record ragorol mewn gweinyddiaeth, polisi a chyfathrebu. Bydd sgiliau TG uchel yn angenrheidiol ac fe fydd presenoldeb yng nghyfarfodydd nos y Cyngor yn orfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus Tystysgrif “Local Council Administration (CiLCA) neu yn barod i weithio tuag at y cymhwyster o fewn 12 mis o gychwyn y swydd.
Bydd y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol.
**DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL **
1. Llywodraethu a Gweinyddu
1.1 Gweinyddiaeth gyffredinol ar faterion y Cyngor Tref.
1.2 Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor Tref yn cael eu cynnal mewn perthynas â gweinyddiaeth ar faterion y Cyngor Tref.
1.3 Datblygu llywodraethu corfforaethol o fewn y Cyngor Tref.
1.4 Gweinyddiaeth y Cyngor, Pwyllgor a chyfarfodydd eraill gan gynnwys paratoi agendâu a chofnodion gan gynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd gyda’r nos sydd fel arfer yn cael eu cynnal ar yr 2il a 3ydd Nos Iau o bob mis ac eithrio mis Awst pan nad oes cyfarfodydd.
1.5 Ymgymryd â phob dyletswydd weinyddol arall i gefnogi gwaith y Cyngor Tref. 2. Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gwybodaeth
2.1 Sicrhau bod gan y Cyngor Tref bolisïau priodol er mwyn bodloni gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth a gofynion cysylltiedig y Comisiynydd Gwybodaeth.
2.2 Sicrhau bod yr holl ffeiliau a chofnodion yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol a bod polisi’r Cyngor Tref ar gadw dogfennau yn cael ei weithredu’n llawn.
2.3 Sicrhau bod trefniadau effeithiol ac effeithlon wedi’u sefydlu i ddelio gyda diogelwch gwybodaeth a data a bod y cyngor yn cydymffurfio â chynllun adfer busnes. **3. Rheoli Ystadau a Chyfleusterau **
3.1 Rheoli, datblygu, gweinyddu a chynnal tir ac adeiladau sydd o dan reolaeth y Cyngor Tref gan gynnwys meysydd chwarae, Y Parc, llochesi bws, camerâu cylch cyfun a swyddfeydd a Siambr y Cyngor.
3.2 Trefnu ar gyfer rheoli a gweinyddu archebion ar gyfer eiddo o dan reolaeth y Cyngor.
4. Cyfathrebu
4.1 Paratoi datganiadau i’r wasg, Cylchlythyron a dogfennau cyhoeddusrwydd eraill.
4.2 Paratoi ymgyrchoedd marchnata fel sy’n ofynnol gan y Cyngor Tref sy’n cynnwys ffyrdd arloesol newydd o gyfathrebu negeseuon allweddol i randdeiliaid.
4.3 Gweithredu pob digwyddiad (gan gynnwys digwyddiadau dinesig, digwyddiadau trefeillio a mentrau ymgysylltu â’r gymuned) a gymeradwyir gan y Cyngor Tref gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflenwi o fewn cyllideb ac o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.
4.4 Sicrhau bod gwefan y Cyngor Trefyn cael ei gweinyddu mewn ffordd arloesol
**5. Iechyd a Diogelwch **
5.1 Sicrhau bod rhwymedigaethau statudol y Cyngor Tref ar gyfer rheolaeth effeithiol ar iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni a bod polisi iechyd a diogelwch a phrosesau a gweithdrefnau ategol yn cael eu hadolygu ar gyfnodau priodol
5.2 Paratoi asesiadau risg mewn perthynas â’r holl wasanaethau, eiddo a digwyddiadau.
5.3 Gofalu am eich iechyd a diogelwch eich hun
6. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
6.1 Cefnogi’r Cyngor Tref wrth sicrhau bod darpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hadlewyrchu ym mhob agwedd ar ei waith.
**7. Rheoli Pobl **
7.1 Cymryd cyfrifoldebau rheoli pobl
**8. Datblygiad Personol **
8.1 Cyflawni, o fewn cyfnod a bennir mewn ymgynghoriad â’r Cyngor, cymhwyster Tystysgrif mewn Gweinyddu Cyngor Lleol (CiLCA Wales) (Ariennir hyn gan y Cyngor).
8.2 Datblygu’n broffesiynol trwy gadw’ch gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau yn gyfredol i sicrhau rheolaeth effeithlon ar faterion y Cyngor Tref.
8.3 Dod yn aelod o Gymdeithas Clercod Cyngor Lleol (Ffi flynyddol i’w hariannu gan y Cyngor Tref).
9. Arall
9.1 Ymgymryd â dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n gymesur â lefel a gradd y swydd.
Cyflog
💰 £24,982 - £35,745
Lleoliad
📍 Ffestiniog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.