Swyddi Cymraeg — Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
5 swydd yn cyfateb
Cynorthwy-ydd Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cynorthwy-ydd CymwysterauCasnewydd, Cymru Amdanom ni Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Cymwysterau i ymuno â’n tîm yn barhaol, llawn amser gan weithio 37 awr yr wythnos. Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio hyblyg, rhan-amser ac yn ystod y tymor. Y Manteision
- Cyflog o £26,900 - £30,610 y flwyddyn- 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)- Trefniadau gweithio hyblyg- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil Y Rôl Fel Cynorthwyydd Cymwysterau, byddwch yn cefnogi un o'n tri thîm cymwysterau i sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr. Gan gefnogi rheolwyr a swyddogion, byddwch yn gweithredu amserlenni rheoli prosiect, yn adolygu tystiolaeth yn erbyn meini prawf ac yn hwyluso gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gan ddarparu cymorth gweinyddol rhagorol, byddwch yn cadw cofnodion cywir, yn goruchwylio trefniadau cytundebol gyda chyflenwyr ac yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i gyfarfodydd. Amdanat ti I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Cymwysterau, bydd angen:
- Profiad o gynhyrchu a chadw cofnodion electronig effeithiol- Profiad o weithio i amserlenni y cytunwyd arnynt- Profiad o weithio'n effeithiol fel aelod o dîm- Y gallu i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn lleoliad gweinyddol- Y gallu i ddrafftio dogfennau- Y gallu i drefnu a threfnu cyfarfodydd yn effeithiol- Sgiliau ardderchog o ran cymryd nodiadau a chofnodi- Sgiliau cyfathrebu cryf Byddai profiad o weithio yn y sector addysg yn fuddiol iawn, yn ogystal â phrofiad o weithio ar brosiect strwythuredig, gan gynnwys cadw cofnodion rheoli prosiect. Byddai gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru yn fanteisiol, yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 6 Medi 2023. Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr Prosiect, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gweinyddwr, Gweinyddwr Addysg, Gweinyddwr L&D, Cydlynydd Prosiect, Swyddog Cefnogi Prosiect, Gweithiwr Prosiect Cynorthwyol, neu Gynorthwyydd Cefnogi Prosiect. Felly, os ydych chi am gymryd eich cam nesaf fel Cynorthwyydd Cymwysterau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £26,900 - £30,610 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyrsiau
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Rheolwr Cyrsiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Teitl y Swydd: Rheolwr Cyrsiau Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) Graddfa: Gweithredol 6 - £34,866 - £40,685 y flwyddyn Lleoliad: Gwersyll Llangrannog Amdanom ni Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol. Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd Croesawir dros 23,000 o blant a phobol ifanc i Wersyll yr Urdd Llangrannog yn flynyddol. Bydd y swydd yn gyfrifol am drefnu rhaglen ac amserlenni wythnosol a phenwythnos grwpiau sydd yn ymweld ar Gwersyll, gan sicrhau lefel uchel o ofal cwsmer. Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones (Cyfarwyddwr Gwersyll) ar 01239 652140 neu [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 8 Medi 2023 Dyddiad Cyfweld – 21 Medi 2023 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Swydd Ddisgrifiad
Cyflog
💰 £34,866 - £40,685 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mentor Cynhwysiant
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Mentor Cynhwysiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Gweithio'n agos gyda Chydlynwyr Cefnogi Dysgu i adnabod anghenion cymorth, a pharatoi/diweddaru proffiliau un dudalen.Gweithio ar y cyd â Chydlynwyr Cefnogi Dysgu a staff i fonitro cynnydd a chynhwysiant dysgwyr ADY;Cynorthwyo gyda phontio a chynefino gan gynnwys ymweliadau ar gyfer dysgwyr newydd i'r coleg.Cynorthwyo gyda goruchwylio dysgwyr y tu allan i oriau gwersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl y coleg ac amser cinio lle bo angen.Cynorthwyo Nyrs y Coleg, a'r Cydlynwyr Cefnogi Dysgu i fonitro ac adolygu cynlluniau cymorth meddygol;Darparu amser/gweithle tawel dan oruchwyliaeth y tu allan i'r dosbarth mewn Canolfannau Astudio o fewn Llyfrgell+ i ddysgwyr a nodwyd;Darparu cymorth Gofal Personol lle bo angen;Darparu cymorth i ddysgwyr mewn meysydd dysgu mwy arbenigol; Cyfathrebu a Rhyngweithio, Corfforol / Meddygol, Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol a / neu, Anghenion Synhwyraidd;Darparu sesiwn cymorth astudio galw heibio ychwanegol i ddysgwyr lle bo angen;Goruchwylio dosbarthiadau yn y tymor byr – mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio a sefyllfaoedd annisgwyl nad ydynt wedi’u hamserlennu.Darparu cymorth Technoleg Gynorthwyol i ddysgwyr, i hyrwyddo a chefnogi dysgu annibynnol;Gweithio ar y cyd â staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill a darparu gwybodaeth am ddisgyblion fel y bo’n briodol;Cyfrannu at gyfarfodydd gyda rhiant (rhieni) / gwarcheidwad (gwarcheidwaid) i roi adborth adeiladol e.e. cynnydd/cyflawniad dysgwyr; Cysylltu â chyrff allanol yn ôl y galw;Unrhyw waith arall sy'n gymesur â'r raddfa gyflog, yn ogystal â sgiliau a galluoedd deiliad y swydd;Dylid nodi bod y Swydd Ddisgrifiad hwn yn cynnwys crynodeb o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd a bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Gall hyn arwain at newidiadau yn sgil gofynion gweithredol y Grŵp.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description / Person Specification
Cyflog
💰 £10,593 - £11,219
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Maes: Dylunio
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Arweinydd Maes: Dylunio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Arweinydd Maes: Dylunio Hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r maes cyhoeddi yng Nghymru? Allwch chi helpu i gynnal a gwella safonau? Allwch chi fentora a datblygu sgiliau at y dyfodol? Beth am ymuno â thîm y Cyngor Llyfrau? Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â’r profiad a’r weledigaeth i arwain gwaith strategol y Cyngor yn y maes dylunio. Bydd gennych sgiliau dylunio o’r radd flaenaf a/neu brofiad cynhyrchu mewn cyd-destun cyhoeddi, yn ogystal â dealltwriaeth trylwyr o anghenion dylunio llyfrau a chylchgronau. Hyd at 37 awr yr wythnos £39,493 y flwyddyn Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas ar eich cyfer chi, mae rhagor o fanylion ar www.llyfrau.cymru neu drwy e-bostio [email protected] Dyddiad cau: 11 Medi 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £39,493 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwyr (x2)
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cyngor Llyfrau Cymru: Ymddiriedolwyr Ydych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen? Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg? Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n awyddus i benodi hyd at ddau o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r un ar ddeg presennol fel aelodau o’i Fwrdd i sicrhau bod gan y Cyngor drefn rheoli sy’n briodol ar gyfer gofynion y presennol a’r dyfodol. Rydym yn sefydliad sy’n credu mewn amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd â gweithlu, bwrdd o ymddiriedolwyr a deunydd cyhoeddedig sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyfan. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau a lefelau profiad, sydd â diddordeb byw ym myd llyfrau, ac sy’n credu y gallant helpu i gefnogi’n gwaith a’n hamcanion strategol i gyflawni’r Gymru gynhwysol rydym wedi ymrwymo iddi fel sefydliad. Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn. Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, ond ad-delir unrhyw dreuliau rhesymol. Am ragor o fanylion ac i wneud cais – www.llyfrau.cymru, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd, ddydd Llun, 11 Medi 2023.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Ymddiriedolwyr
Cyflog
💰 Mae swydd Ymddiriedolwr yn ddi-dâl. Fodd bynnag, bydd pob cost resymol a achoswyd gan fusnes yr elusen yn cael ei had-dalu yn unol â’n polisi treuliau.
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.