Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mentor Cynhwysiant
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Mentor Cynhwysiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Gweithio'n agos gyda Chydlynwyr Cefnogi Dysgu i adnabod anghenion cymorth, a pharatoi/diweddaru proffiliau un dudalen.Gweithio ar y cyd â Chydlynwyr Cefnogi Dysgu a staff i fonitro cynnydd a chynhwysiant dysgwyr ADY;Cynorthwyo gyda phontio a chynefino gan gynnwys ymweliadau ar gyfer dysgwyr newydd i'r coleg.Cynorthwyo gyda goruchwylio dysgwyr y tu allan i oriau gwersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl y coleg ac amser cinio lle bo angen.Cynorthwyo Nyrs y Coleg, a'r Cydlynwyr Cefnogi Dysgu i fonitro ac adolygu cynlluniau cymorth meddygol;Darparu amser/gweithle tawel dan oruchwyliaeth y tu allan i'r dosbarth mewn Canolfannau Astudio o fewn Llyfrgell+ i ddysgwyr a nodwyd;Darparu cymorth Gofal Personol lle bo angen;Darparu cymorth i ddysgwyr mewn meysydd dysgu mwy arbenigol; Cyfathrebu a Rhyngweithio, Corfforol / Meddygol, Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol a / neu, Anghenion Synhwyraidd;Darparu sesiwn cymorth astudio galw heibio ychwanegol i ddysgwyr lle bo angen;Goruchwylio dosbarthiadau yn y tymor byr – mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio a sefyllfaoedd annisgwyl nad ydynt wedi’u hamserlennu.Darparu cymorth Technoleg Gynorthwyol i ddysgwyr, i hyrwyddo a chefnogi dysgu annibynnol;Gweithio ar y cyd â staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill a darparu gwybodaeth am ddisgyblion fel y bo’n briodol;Cyfrannu at gyfarfodydd gyda rhiant (rhieni) / gwarcheidwad (gwarcheidwaid) i roi adborth adeiladol e.e. cynnydd/cyflawniad dysgwyr; Cysylltu â chyrff allanol yn ôl y galw;Unrhyw waith arall sy'n gymesur â'r raddfa gyflog, yn ogystal â sgiliau a galluoedd deiliad y swydd;Dylid nodi bod y Swydd Ddisgrifiad hwn yn cynnwys crynodeb o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd a bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Gall hyn arwain at newidiadau yn sgil gofynion gweithredol y Grŵp.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description / Person Specification
Cyflog
💰 £10,593 - £11,219
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.