Swyddi Cymraeg — Glangwili
3 swydd yn cyfateb
Dadansoddwr Partneriaethau
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Ddadansoddwr Partneriaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dadansoddydd Partneriaethau.
Diben y swydd yw i gymryd cyfrifoldeb am ddadansoddi data partneriaethau ar draws holl feysydd busnes y Swyddfa, datblygu templedi priodol ar gyfer rheoli ac adrodd ar bartneriaethau'r Swyddfa a datblygu gallu rheoli strategol ar gyfer llywio gwaith craffu, blaengynllunio a gwella sefydliadol. Cymryd cyfarwyddyd gan y Comisiynydd, y Prif Weithredwr ac aelodau eraill o Dîm Gweithredol y Swyddfa.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau a’r angerdd ar gyfer y rôl hon yna cliciwch ar y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (sydd fel arfer i’w cael ar dudalen olaf y proffil rôl).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Dyddiad Cyfweliad: 14/06/22
Cyflog
💰 £26565 - £34326
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Cyfathrebu
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Ymgynghorydd Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Ymgynghorydd Cyfathrebu.
Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu er mwyn sicrhau darpariaeth o ran materion y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol ar ran y Comisiynydd, byddwch yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol gan ddarparu gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus proffesiynol sy'n hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r Comisiynydd, y Swyddfa a'r heddlu. Byddwch yn mynd ati'n rhagweithiol o ran gwaith cyfathrebu, a phob math o ymgyrchoedd er mwyn ennyn hyder y cyhoedd mewn plismona, y Comisiynydd a'r Swyddfa.
Os credwch fod gennych y sgiliau a'r angerdd dros y rôl hon, cliciwch y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (a geir fel arfer ar dudalen olaf proffil y rôl).Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Cynhelir cyfweliadau ar: 16/06/2022
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £31,425 - £34,326
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Gofal Iechyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn edrych am Brentis Gofal Iechyd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych am helpu a gofalu am bobl?
A ydych yn barod am her?
A fyddech yn hoffi bod yn Nyrs Gofrestredig, ond nad ydych yn teimlo'n barod nac y gallwch barhau mewn addysg lawn-amser (ysgol, coleg neu brifysgol)?
A fyddech yn hoffi dysgu ac ennill arian?
Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, yna gallai'r rôl hon fod yn addas ar eich cyfer chi!
Mae'r rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i ddod yn Nyrs Gofrestredig trwy ddysgu seiliedig ar waith. Byddwch yn dechrau arni trwy gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Iechyd Clinigol (lefel 2), cyn parhau i Brentisiaeth mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol (lefel 3), ac yna'n ymgymryd ag addysg prifysgol ar drefniant rhan-amser, gan ddechrau ar lefel 4.
Sut y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn wahanol i unrhyw raglen brentisiaeth arall?
Mae’r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn cyfuno llawer o raglenni dysgu mewn un, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo i brofi llwybr uniongyrchol i nyrsio. Ni fydd angen i chi ailymgeisio am y cymwysterau gwahanol wrth fynd ymlaen. Pan fyddwch wedi cwblhau'r rhaglen, byddwch yn Nyrs Gofrestredig gymwys, ac ni fyddwch wedi gorfod talu am unrhyw ffioedd prifysgol. Byddwch yn ennill arian trwy gydol yr amser y byddwch yn dysgu.
Pan fyddwch wedi dod yn Nyrs Gofrestredig, disgwylir i chi barhau'n gyflogedig gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf dwy flynedd. Prif ddyletswyddau'r swydd
**Gofal iechyd **
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar ofal ar lefel ragarweiniol, yn cynnwys gweithio gyda mentor yn ardaloedd y cleifion, gan eich paratoi i ddarparu gofal i gleifion. Gwaith Domestig/Porthora
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â chynllun yr ysbyty, yn ogystal â'r safonau a ddisgwylir mewn amgylchedd gofal iechyd. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu, gan amlygu'r rhinweddau y mae eu hangen i ddod yn nyrs y dyfodol. Bydd yn rhoi cipolwg ar y modd y mae gwasanaethau cymorth yn chwarae rhan bwysig mewn gofal cleifion, trwy ddarparu amgylchedd hylan. Gan fod maeth a hydradiad yn rhan hanfodol o ofal cleifion, bydd hyn yn rhoi cipolwg ar wasanaeth bwyd, 'Bwydlen Cymru Gyfan', gofynion deietegol a phrosesau adrodd.
Gwaith gweinyddol sy'n canolbwyntio ar gleifion
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â'r systemau gweinyddol mewn amgylchedd gofal iechyd. Rhoddir sylw i brosesau cofnodi a'r angen am gyfrinachedd a pharch mewn perthynas â gwybodaeth cleifion. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu llafar, gan ddatblygu eich cydnerthedd wrth ddelio â chleifion a staff. Bydd y lleoliad yn rhoi cipolwg ar systemau TG amrywiol, gan roi profiad o gyfathrebu trwy e-bost, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn rhoi profiad cyfannol, i ddatblygu nyrsys y dyfodol. Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Beth y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn ei olygu?
Byddwch yn ymgymryd â chwrs ymsefydlu cynhwysfawr, a fydd yn eich paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith yn y Bwrdd Iechyd
Byddwch yn cael cymorth gan fentor yn y gweithle
Byddwch yn cael yr hyn sy'n gyfwerth â diwrnod yr wythnos o 'hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith', er mwyn meithrin eich dysgu
Byddwch yn cael mentor o'r coleg
Byddwch yn mynd i weithdai, lle bydd gennych gyfle i drafod a rhannu syniadau
Byddwch yn gweithio tuag at gael cymwysterau galwedigaethol, gan ddatblygu trwy'r lefelau wrth i chi feithrin hyder a phrofiad
Byddwch yn cwblhau pedwar lleoliad gwaith ar gylchdro yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, a hynny yn y meysydd canlynol:
- Gwaith Domestig/Porthora
- Gwaith Gweinyddol sy'n Canolbwyntio ar Gleifion
- Gofal Iechyd
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael?
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Iechyd Clinigol
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Llythrennedd Digidol
Prentisiaeth Lefel 3
- Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol
Tystysgrif Lefel 4 mewn Gofal Iechyd
BSc (Gradd) mewn Nyrsio Cyffredinol Oedolion
Beth yw'r gofynion mynediad?
Rhaid i chi fod yn unigolyn caredig a gofalgar sy'n frwd dros helpu pobl eraill
Rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn ym mis Medi 2022
Mae'n rhaid bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Rhaid i chi allu amlygu caredigrwydd a thosturi ac angerdd dros helpu eraill
Rhaid i chi allu amlygu parodrwydd i weithio'n galed
Ni ddylech feddu ar gymhwyster lefel 3 llawn ym maes iechyd (os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni)
Ni ddylech fod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd
Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais sydd wedi'i hatodi, a hynny cyn y dyddiad cau. Yn yr adran 'Gwybodaeth Ategol', dywedwch wrthym pam yr ydych yn credu y dylech gael eich dethol ar gyfer y cyfle hwn, a hynny mewn dim mwy na 100 gair y cwestiwn.
Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?
Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?
Ar ôl y dyddiad cau, estynnir gwahoddiad i’r rheiny a fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus fynd i ddiwrnod asesu. Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn gyfle i chi gwrdd â ni, yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am y rhaglen. Bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddarparu fideo byr yn cyflwyno eu hunain i’r Academi Prentisiaethau. Os cewch eich recriwtio’n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth o fod yn Brentis Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2022. Bydd y rheiny nad oeddent yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gennym ni, eu Coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.
Pam y dylech wneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Dyma rai o'r rhesymau dros wneud hynny
Mae prentisiaethau'n ffordd wych o ddechrau ar yrfa yn y GIG
Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth sy'n talu (‘dysgu wrth ennill’)
Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol a fydd yn eich cefnogi ac yn eich helpu i feithrin y sgiliau ymarferol y mae arnoch eu hangen
Byddwch yn ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a hynny heb orfod talu ffioedd dysgu
Mae prentisiaethau'n gam cyntaf posibl at hyfforddiant proffesiynol (e.e. i fod yn nyrs, yn beiriannydd)
Mae'n brofiad gwych – gweithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth go iawn
Manyleb y person
Cymwysterau a gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Saesneg a Mathemateg i safon resymol
Gwybodaeth Ategol
Meini prawf hanfodol
Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?
Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?
Profiad
Meini prawf hanfodol
Y gallu i weithio mewn amgylchedd tim
Deall pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
Profiad y gellir ei ddangos mewn amgylchedd gofalgar – gall fod o wirfoddoli neu brofiad gwaith
Profiad y gellir ei ddangos o weithio gyda gosodiadau TG yn cynnwys Microsoft Office
Cyflog
💰 £4.81 yr awr
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.