Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn archwilio cartrefi a safleoedd adeiladu yn ystod gwaith a phan fydd gwaith wedi ei orffen i asesu sut y cydymffurfir ag Iechyd a Diogelwch, gofynion y contract a safonau ansawdd a sicrhau bod bob DPA yn cael eu monitro yn effeithiol ac effeithlon.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn cynorthwyo i ddatblygu a blaenoriaethu ffrydiau pecynnau a rhaglenni gwaith a fydd yn ateb anghenion buddsoddi sydd wedi’u hadnabod o fewn yr arian sydd ar gael, mewn ffordd sy'n diwallu amcanion Adra.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.