Swyddi Cymraeg — Gwynedd
12 swydd yn cyfateb
Mae Meithrin Ty Mabon (Tywyn) yn edrych am Arweinydd Cylch
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Y Caban, Neptune Road, Tywyn, Gwynedd, LL36 9ET
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd
Laura Griffiths
Ebost [email protected] Rhif ffon 07403762204
Cyflog
💰 £15.25 yr awr
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Clwb Plant Segontiwm yn edrych am Ddirprwy Arweinydd/Dirprwy Rheolwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: YSGOL YR HENDRE , FFORDD CAE PHILLIPS , CAERNARFON LL55 2AT
Mae’r Clwb yn chwilio am Ddirprwy arweinydd / Dirprwy Rheolwr ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Clwb.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Ddylsai’r ymgeisydd fod ar gael rhwng 08:15 a 18:00 rhwng dydd Llun I Ddydd Gwener.
Mae’r Rheolwr yn penderfynu pa shifftiau bydd staff yn gweithio.Bydd angen I’r ymgeisydd fod ar gael i shift bore neu shift prynhawn Clwb arol ysgol.
Cyfanswm oriau y swydd yma bydd 20 awr i gychwyn gyda posibilrwydd o ymestyn oriau.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Emma Healy
[email protected] – 0755264809
Cyflog
💰 Cychwyn o £13.77 yr awr hyd at £15.34 yn ddibynnol ar brofiad a chymhwyster
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Dolbadarn yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Y GANOLFAN , LLANBERIS, LL55 4UR
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu :
Susanne Bearman – [email protected]
07713878736
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Penrhyndeudraeth yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Y CABAN , YSGOL GYNRADD CEFN COCH , STRYD YR YSGOL , PENRHYNDEUDRAETH, LL48 6LS
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol i gweithio yn y Cylch a’r clwb ar ol Ysgol, sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – Caryl Lewis – [email protected] – 07745276052
Posibilrwydd o oriau ychwanegol i ymdrin a salwch/absenoldeb.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Deulu y Bala
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Canolfan Deulu y Bala, Hen Ysgol Bueno Sant, Heol y Castell, Bala, LL23 7UU.
Mae Canolfan Deulu y Bala yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Fydd disgwyl ir cynorthwyydd weithio gyda staff i:
trefnu amgylchedd y Cylch.
trefnu amrywiaith o weithgareddau y tu fewn a thu allan.
sicrhau bod croeso, sylw a gofal i bob plentyn.
sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn a bod yr ystafell yn lân.
cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o’u gwaith.
Am fanylion llawn cysylltwch â Lisa Jones, [email protected], 01678 528571
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Llanrug yn edrych am Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Llanrug, Llanrug, Caernarfon, LL55 4AL
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am rhagor o fanylion:
Nia Pierce (Cadeirydd): [email protected]
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Y Gorlan Fach yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Y Gorlan Fach, Ysgol Y Gorlan, Heol Dulyn, Tremadog , Gwynedd, LL49 9RN
Swydd dros dro - cyfnod mamolaeth hyd at Gorffennaf 2027
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Enw: Caryl Edwards
Swydd: Cadeirydd
Ebost: [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Catalyddion Cymunedol yn edrych am Gatalydd Micro-fenter Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Disgrifiad:
Byddwch yn arwain Prosiect Micro-fenter Cymunedol Gwynedd fydd yn cefnogi pobl entrepreneuraidd lleol a sefydliadau lleol i gynnig dewisiadau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth yn y cartref neu yn eu cymunedau. Fel hyn byddwn yn helpu pobl i gael y gefnogaeth maent ei hangen i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
· Gallu gweld cryfderau pobl a'u meithrin.
· Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd.
Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac yn gweithio yn ardal Gwynedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, [email protected].
Dilynwch y ddolen i lawrlwytho pecyn cais sy'n cynnwys y swydd ddisgrifiad a manylion y person.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 13 Chwefror 2023 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal ym Mangor ar 21 Chwefror 2023. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £32,960
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Barnardo's yn edrych am Arweinydd/Rheolwr Rhaglen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n chwilio am her newydd yn eich bywyd? Oes gennych chi'r angerdd a'r sgiliau i newid dyfodol llesiant pobl ifanc yn Ynys Môn a Gwynedd? A hoffech wneud hynny drwy sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gyrru'r newid hwn? Yna darllenwch ymlaen!
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig i fwrw ymlaen â phrosiect 5 mlynedd newydd y Loteri Genedlaethol sy'n cael ei ariannu gan y Gymuned ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd, lle mae'r weledigaeth yn creu dyfodol o fwy o lesiant a gwytnwch i bobl ifanc. Fel Arweinydd/Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn gyfrifol am ddechrau a rheoli'r prosiect arloesol drwy gyfnod datblygu cychwynnol o 12 mis ac wedyn ymgorffori a dylanwadu ar newid am gyfnod pellach o 4 blynedd. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynllunio a'i ddefnyddio'n llawn gyda phobl ifanc, asiantaethau partner a chymunedau Ynys Môn a Gwynedd i sicrhau bod y systemau sy'n cael eu newid yn cyd-fynd ag anghenion lleol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 £46,380
Lleoliad
📍 Ynys Môn, Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atadl digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
- Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes cam-drin domestig gan ymateb i anghenion staff a plant a phobl ifanc fel bod Gorwel yn ffynnu.
- Gweithredu i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at hybu llesiant ac diogelwch.
- Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.
- Adnabod a chynllunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.
- Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad.
- Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.
- Arwain ac annog gwaith ataliol gan godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â trais yn y cartref sy’n effeithio plant a phobl ifanc.
- Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon, Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
- Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynllun cefnogi plant a phobl ifanc.
- Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr.
- Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Llywodraeth Cymru) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd.
- Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth comisiynwyr gan weithredu ar argymhellion. (gan gynnwys adrodd yn ôl a’r ddeilliannau Ar-Trac)
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
- Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref. Yn cynnwys cyfarfodydd ‘Early Hub’ a chyfarfod gweithredol Ar-Trac.
- Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi.
- Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynllun gan annog gwaith grŵp.
- Gwybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, cam-drin domestig a chefnogaeth.
- Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”
Yn rhinwedd y swydd; parhau i gefnogi ‘llwyth achosion’ plant a phobl ifanc yn unol ac angen y cynllun.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Hyblyg, Gwynedd, Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau
Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes pensiynau i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Strategol o’r Ysgol Fusnes ac Economeg, Prifysgol Loughborough.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Bydd y hyfforddai proffesiynol yn cael profiad helaeth o gyfrifo a prosesu buddion megis ymddeoliadau ac marwolaethau. Mae cyfrifo buddion pensiwn aelodau yn gywir ac yn brydlon yn rhan mawr o waith y Gwasanaeth Pensiynau.
Bydd yr hyfforddai yn cael bod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu prosesau priodol er mwyn gwella lefel y gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol. Mae'r Gwasanaeth yn ymroddedig i wella ei ddarpariaeth o wasanaeth a bydd yn adolygu'r mesurau sydd mewn lle i fonitro perfformiad er mwyn adnabod lle y gellir gwneud gwelliannau.
Mae sicrhau bod aelodau yn deall y cynllun pensiwn yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir mewn perthynas a’u buddion pensiwn. Felly mae cyfathrebu yn effeithiol gyda’r aelodau yn hollol bwysig i sicrhau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyflwyniadau rheolaidd, diweddaru’r safle we yn gyson ac cymryd rhan mwn digwyddiadau hyrwyddo. Mi fydd rhan o rôl yr hyfforddai yn helpu gyda’r agwedd yma o’r gwaith.
Bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o ddatblygiad safle we a porth Hunan Wasanaeth Aelodau’r gwasanaeth. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am waith ehangach y Cyngor fel rhan o’r swydd a fydd yn cyfoethogi profiad yr hyfforddai o weithio i’r Cyngor.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn edrych am Reolwr Datblygu
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn mynd trwy newidiadau mawr ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau dyfodol cadarnhaol a disglair i’r ynys a’i chymuned. O ganlyniad i waith estynedig gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ychwanegol wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Gronfa Adferiad Gwyrdd a CGGC, mae YYE bellach yn gobeithio penodi Rheolwr Datblygu i gefnogi datblygiad y mudiad trwy gamau nesaf y newidiadau hyn, ac i arwain ar fidiau am arian a buddsoddiad sylweddol. Darperir crynodeb byr o’r gwaith datblygu cychwynnol a wnaed hyd yma fel atodiad i’r ddogfen hon, ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar gais.
Bydd y swydd hon yn golygu gweithio’n agos â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff a chontractwyr eraill YYE, cymuned yr ynys a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn cyflawni’r gwaith hwn mewn modd cydweithredol.
Cyflog
💰 £30,000 - £35,000
Lleoliad
📍 Gwynedd
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.