Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes pensiynau i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Strategol o’r Ysgol Fusnes ac Economeg, Prifysgol Loughborough.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Bydd y hyfforddai proffesiynol yn cael profiad helaeth o gyfrifo a prosesu buddion megis ymddeoliadau ac marwolaethau. Mae cyfrifo buddion pensiwn aelodau yn gywir ac yn brydlon yn rhan mawr o waith y Gwasanaeth Pensiynau.
Bydd yr hyfforddai yn cael bod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu prosesau priodol er mwyn gwella lefel y gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol. Mae'r Gwasanaeth yn ymroddedig i wella ei ddarpariaeth o wasanaeth a bydd yn adolygu'r mesurau sydd mewn lle i fonitro perfformiad er mwyn adnabod lle y gellir gwneud gwelliannau.
Mae sicrhau bod aelodau yn deall y cynllun pensiwn yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir mewn perthynas a’u buddion pensiwn. Felly mae cyfathrebu yn effeithiol gyda’r aelodau yn hollol bwysig i sicrhau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyflwyniadau rheolaidd, diweddaru’r safle we yn gyson ac cymryd rhan mwn digwyddiadau hyrwyddo. Mi fydd rhan o rôl yr hyfforddai yn helpu gyda’r agwedd yma o’r gwaith.
Bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o ddatblygiad safle we a porth Hunan Wasanaeth Aelodau’r gwasanaeth. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am waith ehangach y Cyngor fel rhan o’r swydd a fydd yn cyfoethogi profiad yr hyfforddai o weithio i’r Cyngor.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.