Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i ymuno â thim bywiog a blaengar AD Comisiynydd y Gymraeg. Prif bwrpas y swydd fydd darparu cyngor, cefnogaeth ac ymagwedd at wella'n barhaus at bob agwedd o AD yng nghylch bywyd gweithwyr; anwytho, recriwtio, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, lles - yn ogystal â phrosiectau strategol AD.
Disgrifiad:
Dyletswyddau penodol
- Cadw ffeiliau cyfrinachol staff yn gyfredol, rheoli’r wybodaeth a gedwir a sicrhau gweithrediad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
- Paratoi gwaith papur cytundebol ar gyfer staff yn unol â gofynion yr US AD.
- Cydlynu gofynion y feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol trwy:
- sicrhau bod y data yn gyfredol, yn gywir ac yn gyflawn a chynnal trafodaeth barhaus gyda rheolwyr llinell a swyddogion
- goruchwylio’r elfen hunan wasanaeth o’r feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol a datrys problemau sy’n codi.
- datblygu a theilwra adroddiadau ar y data o fewn y system AD er mwyn darparu gwybodaeth ac ystadegau perthnasol i’r Tîm Rheoli.
- darparu hyfforddiant ac arweiniad i swyddogion ar ddefnydd effeithiol y system AD.
- Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol o ddarparu hyfforddiant – ymchwilio cyrsiau addas a chost effeithiol, trefnu dyddiadau a lleoliadau, a chodi archebion.
- Cydlynu’r drefn datblygu perfformiad , cynghori swyddogion ar weithrediad y broses, coladu data yn ôl y gofyn a dwyn unrhyw faterion o bwys i sylw’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol.
- Darparu cyngor ac arweiniad i swyddogion ar weithrediad polisïau adnoddau dynol, gan gyfeirio at yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol petai angen arweiniad pellach.
- Cydlynu’r broses o recriwtio staff, ymateb i ymholiadau, hysbysebu, redactio ceisiadau, dosbarthu ceisiadau i reolwyr llinell a threfnu cyfweliadau.
- Trefnu rhaglenni sefydlu ar gyfer staff sy’n newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith. Cydlynu’r broses gyda rheolwyr llinell a sicrhau bod rhaglen wedi’i drefnu’n amserol ynghyd â chydlynu trefniadau Technoleg Gwybodaeth.
- Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol gyda threfniadau iechyd a diogelwch ym mhob swyddfa.
- Gweithio ar y cyd gyda’r US Adnoddau Dynol i weithredu Cynllun Strategol yr adran. Golygir hynny i gynorthwyo gydag unrhyw dasg / prosiect yn ôl gofyn ac arweiniad yr US AD.
- Cymryd rôl flaengar ar faterion lles i staff: ymchwilio a chydlynu gweithgareddau a seminarau, a chyfrannu’n rheolaidd ar faterion lles yn y cylchlythyr mewnol.
- Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol
Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol).
Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.
- Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Gweinyddu ceisiadau am ddefnydd o’r offer cyfieithu ar y pryd, gan sicrhau bod yr offer wedi’i wefru ac yn barod i’w ddefnyddio yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.
- Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.
Dyletswyddau cyffredinol:
- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
- Ymgymryd â rhai tasgau gweinyddol i gynorthwyo gyda chynnydd mewn llwyth gwaith yr adran Llywodraethiant, ar gais yr Uwch Swyddog.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.