Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Reolwr Gyfarwyddwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Byw’n Iach yn awyddus i recriwtio unigolyn arbennig i arwain y cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae angen arweinydd galluog, profiadol a deinamig. Mae’n gyfle cyffroes i arwain tîm arbennig a datblygu’r gwasanaethau bresennol. Os ydych chi’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant cymunedau lleol, cymerwch olwg ar y pecyn gwybodaeth a chysylltwch am sgwrs os am wybod mwy.
Mae gan Cwmni Byw’n Iach becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cwmni Byw’n Iach yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r cwmni i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cyfweliadau: I'w cynnal yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 27.01.2025. Mae'n bosib y bydd angen cwblhau asesiad yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 20.01.2025
Cyflog
💰 £67,603 - £70,841
Lleoliad
📍 Caernarfon, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Strategol
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Strategol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Strategol i fod yn gyfrifol am lywio a chynllunio gwaith y Comisiynydd ar draws un o ddwy gyfarwyddiaeth yn y sefydliad a bod yn rhan o dîm rheoli uchelgeisiol.
Disgrifiad:
Prif ddyletswyddau
**AELOD O’R TÎM RHEOLI **
Cymryd rhan weithredol ym mhenderfyniadau’r tîm rheoli gan gynnwys:
· cymeradwyo cyfeiriad strategol gwaith y Comisiynydd a gosod amcanion heriol
· cynnig arweiniad strategol effeithiol fel gall y Comisiynydd fodloni ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg gan ganolbwyntio ar ddeilliannau mewn ffordd effeithiol a phriodol
· hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
· goruchwylio a monitro perfformiad lefel uchaf, er mwyn sicrhau bod y Comisiynydd yn llwyr gyflawni ei amcanion
· arddangos safonau uchel o ran llywodraethau corfforaethol ac uniondeb a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd o ran rheoli risg a rheolaeth fewnol
· arddangos gwerthoedd y Comisiynydd ym mhob peth a wneir
ARWAIN CYFARWYDDIAETH
Arwain gwaith y gyfarwyddiaeth gan ddefnyddio dull hyblyg o weithio a modelu gwerthoedd y sefydliad. Yn benodol:
· gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr a rhan-ddeiliaid allanol er mwyn galluogi’r Comisiynydd i gyflawni ei gynlluniau strategol a busnes, gan sicrhau aliniad parhaus â’r nodau strategol
· cadw atebolrwydd mewn perthynas â'r meysydd gwaith o dan ei gyfrifoldeb cynllunio busnes a rhaglennu gwaith gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod gweithgareddau'r Comisiynydd yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol
· rhagweld rhwystrau posibl rhag cyflawni nodau strategol y Comisiynydd a gweithio i gael gwared arnynt a llyfnhau’r ffordd o’u cyflawni
· monitro'r dirwedd wleidyddol a busnes i sicrhau bod amcanion y Comisiynydd yn cael eu gwireddu fel y nodir yn strategaeth a chynlluniau gwaith y Comisiynydd
· Rhoi cyngor a chefnogaeth i holl staff y gyfarwyddiaeth
**Dyletswyddau penodol **
DYLANWADU AR BOLISI
Bod yn gyfrifol am waith y tîm polisi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros:
· graffu a dylanwadu ar strategaethau allweddol, deddfau neu bolisïau sy’n effeithio ar y Gymraeg
· gydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg
· ymchwilio ac adrodd ar sefyllfa’r Gymraeg a siaradwyr Cymraeg mewn meysydd polisi er mwyn gosod sail tystiolaeth ar gyfer safbwyntiau’r Comisiynydd
YMCHWIL AC ISADEILEDD
Bod yn gyfrifol am waith y tîm ac isadeiledd ac ymchwil sydd â chyfrifoldeb dros:
· gynllunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg a fydd yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ac asesiad o’r goblygiadau
· feithrin dealltwriaeth o waith comisiynwyr iaith ac asiantaethau eraill ledled y byd a rhoi llwyfan i arferion llwyddiannus o Gymru
· ddarparu cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru gan roi amlygrwydd iddynt a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd
HYBU DARPARU CYFLEOEDD I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG
Llywio gwaith Comisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwaith y tîm Hybu a Hwyluso. Hybu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sectorau anstatudol drwy:
· hwyluso defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau drwy gynnal hyfforddiant, darparu canllawiau a rhannu arfer dda
· sicrhau mwy o ymrwymiadau i ddefnyddio’r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau gan gymeradwyo cynlluniau datblygu a’r Cynnig Cymraeg
· gydweithio gyda chyrff ariannu a rhwydweithiau er mwyn dylanwadu ar ragor o fusnesau ac elusennau i ddefnyddio’r Gymraeg
**CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS **
Bod yn gyfrifol dros waith y tîm cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y sefydliad sy’n benodol gyfrifol dros:
· sicrhau fod y sefydliad yn ymgysylltu’n allanol mewn modd effeithiol a chyd-gysylltiedig. Arwain ar y berthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau, gan gynnwys cynghori’r Comisiynydd ar y materion hyn
· llywio’r gwaith o gysylltiadau cyhoeddus y sefydliad gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau
· cyfathrebu allanol effeithiol y sefydliad
· presenoldeb gwefan y Comisiynydd a’r cyfryngau cymdeithasol
· gweithredu strategaeth gyfathrebu fewnol y sefydliad
CYLLID, ADNODDAU A THECHNOLEG
Bod yn gyfrifol am y tîm cyllid, adnoddau a thechnoleg sydd â chyfrifoldeb penodol dros sicrhau:
· rheoli, ar ran y swyddog cyfrifyddu, gyllid ac adnoddau yn unol â Llawlyfr Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a llawlyfr Managing Public Money sy’n gosod yr egwyddorion a safonau uchel a ddisgwylir ar gyfer ymdrin ag adnoddau cyhoeddus
· paratoi cyfrifon blynyddol, cyllidebau ac adroddiadau cyllid cywir ac amserol
· adnoddau ffisegol y sefydliad yn cael eu cynnal a rheoli yn effeithiol
· technoleg gwybodaeth briodol er mwyn hwyluso gwaith y sefydliad a sicrhau diogelwch seibr
Arbenigeddau
Mae gan y Cyfarwyddwr arbenigeddau a chyfrifoldebau neilltuol fel a ganlyn:
· ** Cynllun Strategol **
Llunio papurau strategol, a’u cyflwyno er mwyn galluogi’r Comisiynydd i wneud penderfyniadau wrth i ni gynllunio fel sefydliad. Ysgrifennu strategaeth y sefydliad gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth, estyn allan, ymgynghori ac archwilio adborth yn fewnol ac yn allanol. Llywio’r broses o gyflawni, monitro a dangos ein bod yn cyflawni ein canlyniadau strategol er mwyn sicrhau bod ein hamcanion strategol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus dros oes y strategaeth a thu hwnt. Datblygu ein hymagwedd o ran adrodd ar ganlyniadau a'r buddion yr ydym wedi bwriadu yn ein hadroddiad blynyddol. Gwerthuso llwyddiant cyffredinol yn erbyn targedau corfforaethol a dangosyddion eraill.
· Perchennog Risg Corfforaethol
Ysgwyddo cyfrifoldeb dros risgiau strategol y sefydliad fel y Rheolwr Risg Corfforaethol.
· Perchennog Risg Gwybodaeth (SIRO)
Yr uwch swyddog sy’n gyfrifol am risg gwybodaeth y sefydliad. Cyfrifoldeb am sicrhau trefniadau diogelwch seibr a diogelwch gwybodaeth briodol.
Cymwyseddau
· Meddwl yn strategol: Byddwch yn berson strategol sy'n gweld y darlun ehangach ac yn gallu arwain a chefnogi cydweithwyr i gyflawni amcanion strategol
· Ysbrydoli a rheoli eraill: Yn arweinydd creadigol, bydd gennych brofiad o reoli a datblygu tîm. Gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn cydweithio'n effeithiol ag ystod eang o bobl ar draws meysydd amrywiol, i gyflawni ein strategaeth
· Cyflwyno syniadau a dwyn perswâd: Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a phapurau strategol ar lefel uchel i fyrddau a phwyllgorau gydag uwch arweinwyr
· Hunan-ysgogiad a sicrhau ansawdd: Yn ogystal â mwynhau gweithio fel rhan o dîm byddwch hefyd yn gallu gweithio ar eich pen eich hun a defnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser ac i’r ansawdd priodol · Angerdd at hybu’r Gymraeg a monitro cynnydd: Yn benodol, rydym yn chwilio am berson a all arwain ar ein dull o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan nodi, monitro ac arddangos y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni
· Rheoli rhaglenni gwaith amrywiol: Profiad o arwain rhaglenni gwaith ar draws meysydd eang, allai gynnwys cyllideb, rheoli risg neu feysydd eraill
· Mesur y Gymraeg: Byddwch yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion Mesur y Gymraeg a chyfeiriad polisi iaith yng Nghymru
· Bywyd cyhoeddus: Bydd gennych ddealltwriaeth o fywyd cyhoeddus yng Nghymru
Cyflog
💰 £53,440 - £63,900
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i arwain a rheoli sefydliad cenedlaethol a helpu i ddatblygu proffesiwn sy’n hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg. Os oes gennych chi
- y weledigaeth i ddatblygu’r Gymdeithas ar lefel strategol
- y fenter i gyfrannu at broffesiwn sy’n tyfu a hynny mewn cyfnod o newid
- y brwdfrydedd i hyrwyddo’r diwydiant a bod yn llais cryf a dylanwadol yn y byd cyfieithu
- sgiliau cyfathrebu da
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Mae’r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr i’w gael ar y dudalen Swyddi ar wefan y Gymdeithas. Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Geraint, y Prif Weithredwr presennol, ar [email protected] neu 07872 102944. Dyddiad cau: dydd Mercher, 10 Awst 2022, am 1pm.
Cyflog
💰 £32,000 - £36,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Menter a Busnes yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau. Mae’r Cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghorol yn ymwneud â materion datblygu economaidd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r gweithlu yn cwmpasu 140 o staff sydd wedi eu lleoli mewn 5 swyddfa ar draws Cymru ac mae tua 60 o weithwyr llawrydd yn cyflawni gwaith i’r cwmni ar unrhyw adeg.
Yn dilyn cyhoeddi ymddeoliad Prif Weithredwr cyfredol y cwmni, mae Menter a Busnes yn nawr yn awyddus i benodi Prif Weithredwr newydd. Dyma gyfle cyffrous i arwain cwmni mor flaenllaw ar adeg hollbwysig. Bydd angen i’r unigolyn llwyddiannus:
· arwain datblygiad parhaus Menter a Busnes trwy ddarparu gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth gadarn
· gweithredu fel prif lysgennad y cwmni, trwy feithrin cysylltiadau allweddol ar bob lefel, gan sicrhau ymddiriedaeth yng ngallu’r cwmni i gyflawni targedau uchelgeisiol
· cydweithio gyda Cadeirydd y Bwrdd i sicrhau llywodraethiant effeithiol a sefydlu fframweithiau atebolrwydd cadarn ar draws y cwmni, ac i sicrhau fod y Bwrdd yn derbyn cyngor, argymhellion a gwybodaeth mewn modd effeithlon
· gofalu fod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael i weithredu gweledigaeth a rhaglen waith y cwmni a gofalu fod holl waith Menter a Busnes yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac yn unol gyda nod, amcanion, ethos a gwerthoedd y cwmni
· goruchwylio gweithgareddau datblygol a chyfrannu tuag at borffolio gwasanaethau masnachol y cwmni yn ôl arbenigedd a phrofiad a gofalu fod y defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i ddatblygu ymhob agwedd ar waith y cwmni
Yn ogystal â dealltwriaeth drwyadl o’r maes datblygu economaidd yng Nghymru, bydd gan yr unigolyn llwyddiannus brofiad dangosadwy:
· ym maes rheolaeth ac arweinyddiaeth
· o allu i ysbrydoli a datblygu staff
· o gynllunio strategol a rheolaeth ariannol
· o ffurfio partneriaethau a rhwydweithiau
· o lunio ceisiadau a pharatoi tendrau llwyddiannus
· o ad-drefnu
I drafod yn anffurfiol ac am gopi o’r Pecyn Ymgeiswyr, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu [email protected] . I ymgeisio defnyddiwch y botwm 'Cyflwyno Nawr/Apply Now' ar wefan Goodson Thomas (www.goodsonthomas.com/opportunities/2387) i gyflwyno eich CV a llythyr eglurhaol.
Cydnabyddir pob cais.
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Cyfweliadau Panel Terfynol: 27/28/29 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 tua £90,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.