Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd
Mae Gweinyddiaeth Cyfiawnder yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r cyfieithydd yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi GLlTEF a phartneriaid eraill o fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflawni’r goblygiadau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg unigol. Bydd angen i’r deiliad swydd fod â sgiliau ieithyddol o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gallu cyfieithu’n gywir a rhoi’r sylw priodol i ramadeg a chystrawen y ddwy iaith. Disgrifiad Swydd **Prif gyfrifoldebau: ** Cyfieithu pob math o waith e.e. agendâu, adroddiadau, cofnodion, llythyrau, e-byst i sicrhau bod GLlTEF ac aelodau o deulu ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydymffurfio â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Wrth i WLlTEM barhau i ddigideiddio nifer o’i wasanaethau, i gynorthwyo gyda chyfieithu’r cynnwys, treialu’r cynnwys gyda siaradwyr Cymraeg a gwirio bod y cynnwys Cymraeg yn ymddangos yn gywir ar y platfform Cymraeg. Prawf ddarllen gwaith eich hun a gwaith cyfieithwyr eraill yn y tîm.
Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a maes o law mewn achosion llys neu dribiwnlys.
Helpu i gynnal cyfryngau cymdeithasol Cymraeg GLlTEF trwy drydar yn y Gymraeg neu gyfieithu is-deitlau. Cyflwyno gwaith wedi’i gyfieithu mewn fformat dwyieithog os yw’n ofynnol. Bydd hyn yn golygu bod yn gyfarwydd â dylunio dwyieithog. Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygiadau ym maes terminoleg Cymraeg a chymorth technegol i gyfieithwyr. Cynorthwyo i ddiweddaru banc terminoleg Uned yr Iaith Gymraeg. Cyfrannu i waith yr Uned Gymraeg yn ehangach a bod yn barod i helpu i wella ffyrdd o weithio trwy ddefnyddio technegau gwelliant parhaus.
Sgiliau a Chymwysterau Gradd yn y Gymraeg, cymhwyster cydnabyddedig ym maes Cyfieithu h.y. Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu, neu brofiad yn gweithio fel cyfieithydd cymwys. Gallu i weithio gyda rhaglenni Microsoft megis Word, Outlook a chof cyfieithu fel TRADOS. Cyflog, Trefniadau Gweithio a Gwybodaeth Bellach Cyflog cychwynnol
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar waelod yr ystod cyflog. Math o Gontract
Tymor Penodol Oriau gweithio hyblyg
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig system gweithio hyblyg mewn llawer o swyddfeydd. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn gweithio mewn modd ‘hybrid’ sy’n cynnwys cyfuniad o weithio mewn swyddfa ac o gartref h.y 3 diwrnod yr wythnos o gartref a 2 o’r swyddfa. Buddion Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder amrediad o fuddion: Gwyliau Blynyddol
Lwfans hael ar gyfer gwyliau â thâl, yn dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn ac yn cynyddu i 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd. Ceir hefyd gynllun sy’n caniatáu i staff brynu neu werthu hyd at dri diwrnod o wyliau y flwyddyn. Amser ychwanegol i ffwrdd, gyda thâl, ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 2.5 diwrnod braint. Cyfrifir gwyliau ar gyfer swyddi rhan amser a swyddi a rennir ar sail pro-rata. Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o gynlluniau pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn gorau i chi. Hyfforddiant
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymroddedig i ddatblygu staff ac mae'n cynnig amrediad o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Cefnogaeth
· Amrediad o bolisïau ystyriol o deuluoedd, megis cyfleoedd i weithio llai o oriau neu rannu swydd.
· Hawl i fuddion hyblyg, megis trefniadau aberthu cyflog am dalebau gofal plant, a buddion gwirfoddol megis talebau siopa a disgownt ar amrediad o nwyddau a gwasanaethau.
· Absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu a mamolaeth gyda thâl.
· Prawf llygaid am ddim i weithwyr sy'n defnyddio sgrîn cyfrifiadur. Rhwydweithiau
Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr, sydd wedi’u sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth ac er mwyn gallu mynegi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol yn uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, ceir rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr o darddiad ethnig lleiafrifol, gweithwyr sydd ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n ferched, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Cod y Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1996, yn gosod gwerthoedd craidd y Gwasanaeth Sifil a safon yr ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cynnal y gwerthoedd hyn. · Uniondeb – gosod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol.
· Gonestrwydd – bod yn onest ac yn ddidwyll.
· Gwrthrychedd - seilio eich cyngor a’ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trwyadl o’r dystiolaeth.
· Didueddrwydd – gweithredu yn unol â rhinweddau’r achos yn unig a gwasanaethu llywodraethau o wahanol bleidiau gwleidyddol yn gyfartal. I weld Cod y Gwasanaeth Sifil, ewch i: http://www.civilservice.gov.uk/about/values Pwy sy'n gymwys
Rhaid recriwtio staff a benodir yn barhaol drwy gystadleuaeth deg ac agored.
Cyflog
💰 £31,265 - £34,446
Lleoliad
📍 Hybrid, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Cymraeg SQE
Mae Kaplan yn edrych am Gyfieithydd Cymraeg SQE
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfieithydd Cymraeg i ymuno â’n Tîm SQE yn llawn amser.
Byddwch yn ein helpu i gyflwyno asesiadau drwy sicrhau bod cynnwys arholiad yn cael ei gyfieithu’n gywir i’r Gymraeg.
Dyma gyfle gwych i Gyfieithydd Cymraeg sydd am ehangu eu sgiliau ac adeiladu eu gyrfa gydag arweinydd diwydiant.
Amdanat ti:
-Rhuglder a hyfedredd yn y Gymraeg (Gweler Atodiad I yn y disgrifiad swydd) gan gynnwys cymhwyster ffurfiol yn y Gymraeg
-Profiad proffesiynol o gyfieithu ysgrifenedig
-Profiad o waith cyfreithiol/cyfieithu
-Profiad o ddefnyddio offer cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur
-Sylw cryf i fanylion gyda'r gallu i weithio gyda lefel uchel o gywirdeb
-Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog
- Profiad o reoli banciau cwestiynau arholiad (dymunol ond nid yn hanfodol)
-Y gallu i weithio'n annibynnol ac o dan bwysau, ac fel rhan o dîm
-Y gallu i reoli rhaglen waith a blaenoriaethu tasgau yn unol â hynny
-Y gallu i nodi a lliniaru risgiau yn effeithlon
-Ymagwedd ragweithiol at ddatrys problemau
-Y gallu i gyfathrebu'n glir â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
-Ymrwymiad i welliant parhaus
- Parodrwydd i fod yn hyblyg a gweithio o fewn oriau gofynnol y busnes.
- Aelodaeth cyfieithu testun o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cymdeithas cyfieithwyr ar y pryd) (aelodaeth sylfaenol yn hanfodol, aelodaeth lawn yn ddymunol)
Beth rydym yn ei wneud:
Mae Kaplan yn ddarparwr asesiadau proffesiynol sy'n arwain y byd. Yn 2018, cawsom ein penodi fel y sefydliad asesu annibynnol ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) newydd, a lansiwyd gennym wedyn yn 2021. Yr arholiad hwn bellach yw’r unig lwybr i gymhwyso fel Cyfreithiwr Cymru a Lloegr a bydd yn cael ei gymryd yn y pen draw gan mwy na 13,000 o ymgeiswyr y flwyddyn.
Rydym yn rhan o grŵp Kaplan, un o ddarparwyr addysg ac asesu mwyaf a mwyaf amrywiol y byd. Rydym yn gweithredu mewn dros 30 o wledydd ac yn cynnal perthnasoedd a phartneriaethau â mwy na 1,000 o ardaloedd ysgol, colegau a phrifysgolion, cyrff proffesiynol a dros 10,000 o fusnesau. Mae ein ehangder a'n cwmpas helaeth o ran galluoedd ac asedau yn ein gosod ar wahân.
Yr hyn yr ydym yn credu ynddo:
Mae Kaplan yn sefydliad byd-eang y mae ei genhadaeth wedi'i gwreiddio mewn darparu mynediad cyfartal i addysg a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiad i bobl o bob cefndir. Credwn fod amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant - diwylliant, profiadau, safbwyntiau - yn hollbwysig i greu llwyddiant a chyfle mewn byd sy'n newid yn barhaus. Fel addysgwr, partner a chyflogwr, mae Kaplan wedi ymrwymo i hyrwyddo byd teg lle gall talent amrywiol ddatblygu, datblygu a ffynnu.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael y cyfle i ddod â'u gorau. Felly, os oes angen unrhyw addasiadau arnoch, neu gymorth ychwanegol o fewn y broses recriwtio, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ac fe wnawn ein gorau i helpu.
Ein gwerthoedd:
Rydyn ni'n byw, yn anadlu ac yn dathlu ein gwerthoedd - maen nhw'n gyrru'r hyn rydyn ni'n ei gredu ynddo, sut rydyn ni'n ymddwyn ac yn ein harwain wrth greu diwylliant o lwyddiant.
- Gweithredu gydag uniondeb
- Grymuso a chefnogaeth
-Creu cyfle
-Tyfu gwybodaeth
-Gyrru canlyniadau gyda'i gilydd
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, strwythurau cyflog tryloyw, gwaith hybrid/cartref lle bo modd, a llwybrau ar gyfer dilyniant gyrfa, rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sy’n cynnwys:
-28 diwrnod o wyliau blynyddol + opsiwn i brynu mwy
-Benthyciad tocyn tymor a chynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiadau mawr ar gyrsiau Kaplan i chi a'ch teulu
- Yswiriant meddygol, diogelu incwm ac yswiriant bywyd preifat
-Llinell gymorth gyfrinachol 24/7 yn darparu cwnsela a gwasanaethau cefnogi eraill
-Cyfraniadau pensiwn cwmni
-Tâl Mamolaeth, Mabwysiadu, Rhiant a Rennir a Thadolaeth/Partner sydd ymhell uwchlaw lefelau statudol
Sylwch, bydd y swydd yn cau pan fyddwn wedi derbyn nifer addas o geisiadau. Byddem yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Cyflog
💰 £35,000 - £45,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag ymagwedd hyblyg gyfrannu at waith pwysig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr, waeth beth fo’u hamgylchiadau neu eu lleoliad daearyddol. Mae ein pencadlys modern wedi’i leoli wrth gyffordd 41 yr M4 ar bwys gorsaf trên Baglan, ac yno rydyn ni’n hyrwyddo gweithio hyblyg. Er mai hwn yw lleoliad swyddogol ar gyfer y swydd, bydden ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau hyblygrwydd yn eu lleoliad gwaith. Hefyd byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd eisiau rhannu swydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau Cymraeg cadarn, ac yn hyderus i’w defnyddio i greu dogfennau ysgrifenedig. Dylech chi gynnwys tystiolaeth o gyfieithu mewn lleoliad ffurfiol ar eich cais. (Cymraeg/Saesneg. Saesneg/Cymraeg).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwahanol ddulliau o gyfieithu. Y dull pwysicaf yw trosi dogfennau o’r naill iaith i’r llall, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau a thaflenni gwybodaeth. Hefyd, bydd gwaith trawsgrifio achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r Saesneg i’r Gymraeg.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n fanwl gywir, a meddu ar ddealltwriaeth dda o becyn Microsoft Office. Byddai profiad blaenorol o feddalwedd cyfieithu proffesiynol hefyd yn fuddiol.
Byddai profiad blaenorol a gwybodaeth o waith y GIG yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad o a/neu gymhwyster mewn cyfieithu ar y pryd, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu ein staff a sicrhau bod gan yr holl dîm gydbwysedd priodol rhwng eu bywydau a’u gwaith.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle gwych wedi codi yn ein tîm cyfieithu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hoffem benodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm ymroddedig sydd wedi'i hen sefydlu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu i hwyluso gwasanaethau Cymraeg i GIG Cymru, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, dyma'r swydd i chi!
Crynodeb o'r swydd
Fel Cyfieithydd byddwch yn gweithio o fewn tîm cyfieithu sefydledig yn Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu gyda dwy brif swyddogaeth. Y cyntaf yw cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i adrannau a meysydd gwasanaeth y sefydliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ail mae Uned y Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu i bob adran a maes darparu gwasanaeth ar draws PCGC ac i sefydliadau GIG eraill trwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Rydym am recriwtio Cyfieithydd cymwys a phrofiadol ble mae o leiaf dwy flynedd o brofiad ym maes cyfieithu yn hanfodol, gyda'r gallu i gyfieithu a phrawfddarllen testun rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau'r dydd ar amrywiaeth o wahanol bynciau.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd ble mae trosiant gwaith yn gyflym, lle byddwn yn trosi mwy na 100,000 o eiriau yr wythnos fel tîm craidd. Bydd y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tyn sy'n gwrthdaro yn hynod o bwysig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i apiau Microsoft Office a'r defnydd o dermau a meddalwedd cof cyfieithu.
Prawfddarllen a sicrhau ansawdd eich gwaith a gwaith eraill yn y tîm cyn ei gyhoeddi.
Cydgysylltu ag aelodau'r tîm a chleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau bob dydd.
Dilyn protocolau a gweithdrefnau adrannol a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
Ymchwilio a sicrhau cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir.
Amdanom ni
Sefydlwyd Uned Iaith Gymraeg Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2016. Mae'r adran wedi datblygu a thyfu ers hynny, i fodloni'r galw o fewn GIG Cymru am wasanaethau cyfieithu. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r radd flaenaf i PCGC a Sefydliadau GIG eraill.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, lle na fydd unrhyw ddiwrnod yr un fath, yn cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth o ddogfennau a chynnwys testun.
Rydym yn dîm proffesiynol a chefnogol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn y rôl.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg, Unrhyw swyddfa yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.