Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd.
Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.