Swyddi Cymraeg
7 swydd yn cyfateb
Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Olygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif orchwyl fydd llywio rhaglen blant a phobl ifanc Y Lolfa drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Rydym yn ystyried ymgeiswyr sydd am weithio isafswm o dri diwrnod ac uchafswm o bum diwrnod yr wythnos. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu o gartref neu gyfuniad o’r ddau, yn gyflogedig i’r Lolfa.
Disgrifiad:
Dyletswyddau
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer o deitlau Cymraeg Y Lolfa i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd y posibilrwydd gweithio ar rai llyfrau i oedolion.
· Rheoli a llywio nifer penodol o lyfrau trwy’r wasg.
· Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.
· Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen.
· Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)
· Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.
· Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant).
· Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.
· Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd.
· Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant).
· Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi.
· Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.
· Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.
· Darllen a mynegi barn ar lawysgrifau sydd wedi dod i law.
· Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.
· Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.
· Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Talybont, O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Isdeitlau a Safonau
Mae Cyfatebol yn edrych am Olygydd Isdeitlau a Safonau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfatebol sy'n gyfrifol am isdeitlo'r rhan helaeth o raglenni S4C, yn ogystal â gwaith isdeitlo tu hwnt i hynny, mae'r tîm yn tyfu. Rydym yn chwilio am olygydd isdeitlydd Cymraeg a Saesneg i ymuno â'r tïm.
Disgrifiad:
Fel rhan o’r swydd byddwch yn golygu a sicrhau safonau isdeitlau ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni, a chefnogi datblygiad y cwmni. Byddwch yn gweithio ar raglenni sy'n cyrraedd ymhell o flaen y dyddiad darlledu, rhaglenni sy'n cyrraedd yn agos at y dyddiad darlledu a rhaglenni byw. Mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.
Yn amlwg mae llygad am fanylder a sgiliau ieithyddol Cymraeg a Saesneg o safon uchel yn bwysig iawn i’r swydd. Yn ogystal, mae angen gallu gweithio yn gywir o dan bwysau amserlen dynn ar adegau. Ydych chi'n frwdfrydig?
Rydym yn barod i ystyried hyblygrwydd o ran y math o gytundeb a pherthynas.
Cysylltwch os am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol
Mae Rily Publications yn edrych am Olygydd Creadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych yn frwd dros lyfrau plant Cymraeg a bod gennych brofiad o olygu creadigol, anfonwch eich CV atom cyn gynted â phosibl.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda chyhoeddwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau.
Bydd rôl y golygydd creadigol yn cynnwys gweithio o gartref yn ogystal â bod yn rhan o dîm ehangach, cyfeillgar.
Cefnogir y swydd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae'n rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys addasiadau o lyfrau cymeriad poblogaidd fel Paw Patrol a Roald Dahl hyd at ddatblygu cynnwys gwreiddiol gydag awduron a darlunwyr uchel eu parch.
Rydym yn cynnig rôl barhaol gyda 22.5 awr yr wythnos, gyda phatrwm gweithio hyblyg, a’r cyflog yw £15.40 yr awr (tua £30K pro rata).
Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys lefel uchel o Gymraeg ysgrifenedig ac yn ddelfrydol, y profiad o olygu yn y cyfrwng hwn. (Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer gwblhau ymarfer golygu cyn mynychu cyfweliad.)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 19eg Medi 2022. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn Gymraeg a Saesneg, i [email protected]
Mae Rily Publications yn hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn gyrfaoedd cyhoeddi. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bobl o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau bywyd amrywiol. Mae ein proses recriwtio yn rhydd rhag gwahaniaethu, gan gynnwys ar sail hil, ethnigrwydd, oedran, crefydd, rhyw a rhywioldeb.
Cyflog
💰 £30,000 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn edrych am Gyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg Prifysgol Cymru, Gwasg genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyhoeddwr i arwain gwasgnod ffeithiol a lansiwyd ganddi yn ddiweddar, Calon.
Bydd y Cyhoeddwr yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu’r gwasgnod newydd hwn, gan gynnwys comisiynu a datblygu cynnwys llyfrau newydd cyffrous i’r portffolio. Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr, bydd y Cyhoeddwr yn cymhwyso ei wybodaeth a’i brofiad o’r farchnad fasnachol yn y fenter ddiweddar hon.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn egnïol, yn greadigol ac yn ymroddedig i wneud y cyfle cyffrous hwn yn llwyddiant. Bydd ganddo brofiad solet mewn comisiynu ar gyfer marchnad ffeithiol, bydd yn gallu adnabod a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer llyfrau newydd, a datblygu cynnwys yn greadigol â chynulleidfa ryngwladol mewn golwg. Dylai darpar ymgeiswyr fod â sgiliau rheoli awduron rhagorol, dylent fod â ffocws masnachol, a dylent fod â phrofiad o weithio gyda swyddogion cyhoeddusrwydd a phartneriaid allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r farchnad fasnachol yn rhagweithiol â chydweithwyr ym mhob rhan o’r Wasg. Byddai rhwydweithiau perthnasol ag awduron a phartneriaid allanol, a diddordeb brwd mewn pynciau Cymreig, yn ddymunol. Mae’r gallu i sgwrsio a chyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddymunol am y swydd hon.
Mae’r Wasg yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr amrywiol. Mae’r swydd dros gyfnod mamolaeth Cyhoeddwr Calon. Gall y swydd fod yn swydd amser llawn ac wedi’i lleoli yn adeilad urddasol Cofrestrfa’r Brifysgol yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae hyblygrwydd yn bosibl i’r ymgeisydd priodol.
Y cyflog yw hyd at £33,500 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn, gan ddibynnu ar brofiad, â gwyliau hael o 25 diwrnod ynghyd ag 8 diwrnod statudol a 7 diwrnod arferol y flwyddyn, pro rata. Bydd deiliad y swydd yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y Brifysgol.
Os oes gennych ymholiadau am y swydd ac i ofyn am gopi o'r swydd ddisgrifiad, cysylltwch â[email protected] Os hoffech wneud cais am y rôl, anfonwch lythyr esboniadola CV at Eleri Lewis, Partner Busnes Adnoddau
Dynol:[email protected]
Dyddiad cau: dydd Mawrth 13 Medi 2022
Cyflog
💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyhoeddiadau
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Cyhoeddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mi fyddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio o bell (er yn aros yn y DU) neu batrwm gweithio'n hyblyg.
Bydd y Swyddog Cyhoeddiadau’n darparu gwasanaeth ysgrifennu testun i’r Brifysgol, gan ddatblygu testun clir a chryno i gyhoeddiadau print a digidol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgriptiau ar gyfer cynnwys fideo a sain yn ogystal â gwirio ansawdd y cynnwys sy’n bod eisoes a chynnwys sy'n cael ei ddatblygu.
Bydd y Swyddog Cyhoeddiadau yn atebol i Bennaeth Cyhoeddiadau Digidol a Phrint. Bydd yn rheoli pob agwedd ar y cynnwys digidol a phrint gyda’r adrannau academaidd a’r adrannau gwasanaeth proffesiynol er mwyn sicrhau cywirdeb y testun.
Mae gallu cyfathrebu ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Joseph Smith, Pennaeth Cyhoeddiadau Digidol a Phrint, trwy e-bostio [email protected].
Cyf: GMSR.22.4336
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i https://jobs.aber.ac.uk/cy/home.html. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig ac ymgeiswyr sydd ag anableddau.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Hyblyg, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Offlein (Swyddfa Caerdydd)
Mae Rondo yn edrych am Olygydd Offlein (Swyddfa Caerdydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo n gwmni sy'n cynhyrchu cynnwys aml-genre ac aml-lwyfan gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Caerdydd, Porthaethwy a Llangefni.
Mae adran ôl-gynhyrchu'r cwmni yn edrych benodi nifer o swyddi newydd. Dyma adran sy'n gyfrifol am ôl-gynhyrchu cannoedd o oriau gynnwys bob blwyddyn, ar draws sawl genre - chwaraeon i drama; o adloniant i gynnwys ffeithiol a digwyddiadau cerddorol.
Mae'r allbwn yn cynnwys rhai o brif cyfresi S4C, fel Sgorio, Rownd a Rownd, Dechrau Canu Dechrau Canmol a Cynefin ac hefyd cyfresi rhwydwaith cwmni Yeti - fel Find it Fix it Flog it i Channel 4, The Great Big Tiny Design Challenge i More 4 ynghyd à rhaglenni i ddarlledwyr fel Channel 5, y BBC, itv, Sky, CBS ac eraill.
O'r Ilwytho ir cyfleu; o'r recordio i'r darlledu, mae'n adran allweddol o fewn y cwmni ac mae'n adran sy'n ehangu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Gofynnwn am barodrwydd a hyblygrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn y galw, ac ar benwythnosau'n ôl y galw gyda'r gallu hefyd i weithio'n hyblyg ar adegau.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Contract: Blwyddyn y gychwyn
Os oes ganddoch chi ddiddordeb, anfonwch lythyr byr yn nodi pa un o'r swyddi sydd ddiddordeb i chi a pham, a'i anfon gyda chopi o'ch CV cyfredol at [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol a Rheolwr Cyhoeddi Oedolion
Mae Atebol yn edrych am Olygydd Creadigol a Rheolwr Cyhoeddi Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n berson brwdfrydig, llawn egni? Mae hon yn wîr yn gyfle i lunio rhaglen waith dy hun.
Rydym am creu gwasgnod newydd i oedolion fydd yn cyfleu brand bywiog a chyfoes.
Dy fwriad fydd adnabod a meithrin talentau newydd, o amrywiaeth o gefndiroedd, a chreu cyhoeddiadau newydd fydd a phwyslais ar fod yn cynnig arlwy newydd fydd yn creu marchnadoedd newydd.
Bydd dy lygad bob amser ar dalent a sicrhau rhagoriaeth, cysondeb ac ansawdd golygyddol.
Am fwy o fanylion neu sgwrs anffurfiol cysylltwch ag [email protected]
Lleoliad hyblyg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.