Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol wrth ymgymryd â gweithgareddau gweinyddol rheolaidd o fewn tîm gweinyddol y Gofrestrfa Academaidd yng Nghyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yng Nghyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol neu yng Nghyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ac wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymgeiswyr, myfyrwyr a staff. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addasu a gwella gweithdrefnau, prosesau, systemau a safonau’r gwasanaeth yn rheolaidd.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sarah Whitehead ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
1. Goruchwylio gwaith pobl eraill o ddydd i ddydd ar lefel weithredol, yn unol â’r dyletswyddau a bennir gan y rheolwr llinell, a/neu gydlynu prosiectau bach a allai gynnwys goruchwylio gwaith tîm y prosiect, monitro canlyniadau a rhoi adborth
2. Cydlynu trefniadau ar gyfer pwyllgorau (a all gynnwys Byrddau Arholi) a/neu weithgorau/cyfarfodydd, a chymryd cofnodion
3. Cyfrannu at grwpiau a rhwydweithiau perthnasol, yn fewnol ac yn allanol, i feithrin perthynas waith effeithiol yn ogystal â throsglwyddo neu dderbyn gwybodaeth neu ddata
4. Cynnal gohebiaeth â staff, myfyrwyr/ymgeiswyr ac eraill i drosglwyddo gwybodaeth yn ogystal â diweddaru deunyddiau ysgrifenedig yn rheolaidd, er enghraifft, llawlyfrau adrannol
5. Ymgymryd â thasgau gweinyddol i gyflawni amcanion a chwblhau gwaith erbyn amser penodol, blaenoriaethu gwaith yn annibynnol a'i ail-flaenoriaethu mewn ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl
6. Darparu cymorth ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cofrestru a sefydlu myfyrwyr, Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, arholiadau, gwrandawiadau panel a lleoliadau myfyrwyr; bydd hyn yn golygu cydweithio'n agos ag ystod o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth proffesiynol ar draws y Brifysgol ac, yn achlysurol, unigolion/sefydliadau allanol yn ôl yr angen
7. Cyflwyno eraill i wybodaeth a gweithdrefnau safonol, er enghraifft, trwy esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio i ymgeiswyr neu sut mae rheoliad yn berthnasol i fyfyriwr
8. Cyfrannu'n weithredol at brosiectau bach yn ymwneud â'r maes gwaith perthnasol
9. Gwneud gwaith datrys problemau yn rheolaidd er mwyn datrys materion yn effeithiol
10. Cynnal ymchwil a dadansoddi data neu wybodaeth reolaidd gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, er enghraifft, dadansoddi a rhoi sylwebaeth ar ganlyniadau arolygon mewnol
11. Gweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ogystal â gwella ac addasu’r safonau gwasanaeth, lle bo'n briodol
12. Datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd priodol yn barhaus er mwyn cyflawni gofynion y swydd, yn rhannol trwy ymgymryd â hyfforddiant a datblygu proffesiynol perthnasol
13. Dirprwyo ar ran y rheolwr llinell fel y bo’n briodol
14. Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
15. Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd
16. Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnydd effeithiol o Gynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol
17. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.