Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Cadeirydd/Aelodau Bwrdd Ymgynghorol
Mae Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych am Gadeirydd/Aelodau Bwrdd Ymgynghorol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynllunio a monitro pob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg i oedolion – o lunio cyrsiau ac adnoddau i hyfforddiant tiwtoriaid, ymchwil a data, marchnata a chyfathrebu.
Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda rhwydwaith o un ar ddeg o ddarparwyr, sy’n cynnal cyrsiau ar ei rhan yn rhithiol ac mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae’r Ganolfan wedi bodoli ers 2016, ac mae ganddi gytundeb gyda Lywodraeth Cymru i barhau gyda’i gwaith tan hyd at 31 Gorffennaf 2027. Mae’r Ganolfan yn cael ei chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Am fwy o fanylion, darllenwch Adroddiad Blynyddol diweddaraf y Ganolfan.
Rydym yn awyddus i benodi Gadeirydd ac aelodau annibynnol newydd i weithio ochr yn ochr â’r aelodau annibynnol sefydledig i wasanaethu ar ein Bwrdd Ymgynghorol sy’n ein cynghori ar ddatblygiadau yn y maes Dysgu Cymraeg.
Mae angen i'r aelodau a benodir drwy'r drefn ymgeisio fod yn rhai sydd â gwybodaeth am y system Dysgu Cymraeg ac yn awyddus i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r sector Dysgu Cymraeg ar sail eich gwybodaeth a’ch profiad.
Ceir rhagor o wybodaeth am y swyddi yn y swydd ddisgrifiad ategol a hefyd ar www.dysgucymraeg.cymru/swyddi.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth y Cyngor ac i sicrhau aelodaeth sy’n adlewyrchu proffil y Coleg a’i dysgwyr, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob oed a chefndir.
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy'r ddolen ymgeisio. Cesglir gwybodaeth monitro cydraddoldeb trwy’r broses hon hefyd.
Y dyddiad cau yw 1 Medi 2022. Disgwyliwn wahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer am gyfweliad ym mis Medi neu Hydref 2022.
Cyflog
💰 £150 (yn cynnwys TAW) y cyfarfod
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Rhanddeiliaid
Mae Menter Môn yn edrych am Gyfarwyddwr Rhanddeiliaid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bod yn gyfrifol am ddatblygai cyffredinol ymgysylltiad rhanddeiliaid a rheoli cynllun strategol ar gyfer datblygu ymgysylltiadau.
Rheoli staff: Cefnogi’r timau yn unol â systemau’r cwmni, datblygu gweithdrefnau a phrosesau presennol a dyfeisio Dangosyddion Perfformiad Allweddol a rheoli perfformiad y tîm er mwyn sicrhau bod unigolion a thimau'n cyflawni o fewn eu rolau ac yn cyfrannu at nodau ac amcanion ehangach Menter Môn.
Cyflwyniad: Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid ar gyfer y cwmni. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r strategaeth rhanddeiliaid ar lefel strategol ar gyfer y prosiect, gan gynnwys;
- Datblygwyr
- Hyfforddiant a Sgiliau
- Diwydiannau twristiaeth a hamdden
- Cadwyn Gyflenwi
- Datblygwyr Ffrwd Llanw
Adrodd: Paratoi a chyflwyno adroddiadau i'r bwrdd ac eraill ar wahanol agweddau ar gyfrifoldebau'r swyddi.
Datblygu prosiectau: Cefnogi'r Cyfarwyddwyr a'r rheolwyr eraill a rhannu profiad a gwybodaeth i gefnogi eu rolau yn ôl yr angen.
Llywodraethu corfforaethol: Chwarae rôl weithredol fel Cyfarwyddwr er mwyn cyfrannu at gyfeiriad strategol y Cwmni. Sicrhau bod archwiliadau masnachol a thechnegol yn cael eu cynnal a rhoi cynlluniau gwella ar waith.
Cynrychioli'r cwmni: Mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol i ddatblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid allanol er mwyn hyrwyddo'r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol a rhyngwladol.
Iechyd a Diogelwch: Cymryd cyfrifoldeb dros Iechyd a Diogelwch eu hunain ac eraill wrth gyflawni'r rôl.
Cyflog
💰 £61,497 - £69,028 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Is-Lywydd
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-Lywydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn edrych am:
· Arweinydd profiadol a diplomyddol sydd â phrofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol;
· Rhywun sy’n angerddol am Gymru a’i diwylliant, ac yn argyhoeddedig o’r effaith gadarnhaol y gall Amgueddfa Cymru ei chael ar les a hunaniaeth cenedl;
· Rhywun a fydd yn cefnogi ac yn helpu i lywio datblygiad sefydliad diwylliannol cenedlaethol, proffil uchel mewn ffordd sy'n gwella ei botensial a'i gyrhaeddiad a'i berthnasedd yng Nghymru, ar draws y DU, ac yn rhyngwladol.
Ymrwymiad: Ymrwymiad ar gyfartaledd o 12 diwrnod y flwyddyn am 4 blynedd yn y swydd. Mae hyn yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd bwrdd, digwyddiadau, dirprwyo ar ran y Llywydd, a gwasanaethu ar is-bwyllgorau. Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolyn eithriadol i ymgymryd â rôl Is-lywydd Amgueddfa Cymru.
Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol sgiliau arwain, llywodraethu a rheoli perthnasoedd profedig, ynghyd â meddylfryd strategol ac angerdd am ddiwylliant yng Nghymru.
Dylai pob ymgeisydd allu dangos diddordeb gwirioneddol yng ngweithgareddau’r Amgueddfa a’i datblygiad yn y dyfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau o fod yn ymddiriedolwr ac yn Is-lywydd.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn deall cymunedau amrywiol Cymru ac yn ymroddedig i sicrhau y gallant oll gymryd rhan yng ngwaith Amgueddfa Cymru, a’i chasgliadau, a mwynhau’r buddion o ymwneud ag ef.
Mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldeb unigol a chyfunol i Lywodraeth Cymru drwy’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.
Mae’r fanyleb person lawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeisydd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a allai fod yn rhugl o fewn 12 mis i gael eu penodi, gan gynnwys gyda chymorth/hyfforddiant ychwanegol.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am rôl yr Is-lywydd, cysylltwch â Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru [email protected] neu Catrin Hughes, Pennaeth Noddi, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru, Catrin. [email protected]
Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i integreiddio i bob agwedd ar eu busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp a sicrheir na chaiff unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu famolaeth.
Rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un anabl lle mae eu cais yn bodloni isafswm meini prawf y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn hanfodol.
Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, cysylltwch â [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00, 18 Gorffennaf 2022. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Byddwch yn cael eich hysbysu a ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad ai peidio o leiaf bythefnos cyn cynnal y cyfweliadau.
Cyflog
💰 Costau teithio a chynhaliaeth
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwr (x 2)
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Ymddiriedolwr (x 2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am ddau unigolyn sy’n frwd dros ddiwylliant a threftadaeth Cymru, ac fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr. A allai hyn fod yn chi?
Bydd ein hymgeiswyr delfrydol: • efo profiad byw a/neu proffesiynol o amrywiaeth ac anghydraddoldeb;
• yn gallu gweithio gyda ni i sicrhau bod ein gwaith yn cefnogi llesiant cymunedau amrywiol ledled Cymru yn gadarnhaol;
• yn cryfhau cynrychiolaeth ranbarthol ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr;
•yn gallu dangos eu hymrwymiad i ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio.
Rolau gwirfoddol yw'r rhain, ond ad-delir holl gostau rhesymol. Darperir hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant priodol, gyda chymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol. Mae’r fanyleb person lawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeisydd. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rolau hyn, cysylltwch â Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru [email protected] neu Catrin Hughes, Pennaeth Noddi, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected] Ymrwymiad: Ymrwymiad ar gyfartaledd o 12 diwrnod y flwyddyn am dymor o 4 blynedd yn y swydd.
Gofyniad Iaith Gymraeg: Rhaid i’r ymgeiswyr ddangos eu hymrwymiad clir i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Gan ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer un o’r rolau hyn.
Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i integreiddio i bob agwedd ar eu busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp a sicrheir na chaiff unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu famolaeth.
Rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un anabl lle mae eu cais yn bodloni isafswm meini prawf y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn hanfodol.
Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, cysylltwch â [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 18 Gorffennaf 2022. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddwch yn cael eich hysbysu a ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad ai peidio o leiaf bythefnos cyn cynnal y cyfweliadau. I gael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 02920 825454mailto:[email protected]
Cyflog
💰 Costau teithio a chynhaliaeth
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cadeirydd y Coleg
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gadeirydd y Coleg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.
Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.
Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.
Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.
Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.
Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.
Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022.
Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.
Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2022
Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022
Cyflog
💰 Honorariwm
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.