Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Rheolwr Marchnata
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Cymru trwy ddatblygiad parhaus a gweithrediad strategaethau marchnata a rheoli brand CBDC.
Gan weithio a chysylltu â thimau CBDC ar draws y cymysgedd marchnata llawn byddwch yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn flaengar ac o safon fyd-eang yn ein dull marchnata yn unol â’n nod strategol cyffredinol o greu cenedl bêl-droed flaenllaw.
Cyflog
💰 £30,000 - £35,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Y Swydd
Mae’r Urdd yn edrych am unigolyn creadigol a brwdfrydig fydd yn arwain gweithgareddau marchnata’r mudiad ac yn chwarae rhan adeiladol i godi proffil gweithgareddau’r Urdd.
Rydym yn edrych am berson sydd a phrofiad o weithio ym maes marchnata a chyfathrebu gyda’r sgiliau a phrofiad i feddwl yn greadigol ac yn gynnil am syniadau i hyrwyddo yr Urdd a’u wasanaethau i gynulleidfaoedd newydd.
Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm yr Adran Gyfathrebu gan gydweithio gyda’r Cyfarwyddwr, Rheolwr Cyfathrebu, y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a’r dylunydd ar ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata aml gyfrwng gan sicrhau cyrhaeddiad cynyddol i brif negeseuon yr Urdd.
Am sgwrs bellach cysylltwch â Mali Thomas - Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol yr Urdd ar 07834 709082 / [email protected]
Dyddiad Cau – 23 Mehefin 2022
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Lleoliad: Hyblyg. Un o swyddfeydd yr Urdd ar draws Cymru.
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.