Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Gweithrediadau
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma rôl newydd fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a gweithredu ein prosesau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o greu theatr Cymraeg eithriadol i bawb. Pwrpas y swydd hon yw rheoli materion gweithredol y cwmni, yn cynnwys adnoddau dynol; rheoli asedau; systemau a chytundebau gweinyddol; systemau TG; a chasglu a dadansoddi data.
Mae’r cwmni’n anelu at fod mor gynhwysol â phosib, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir ac o bob oedran, ac mae lles pobl yn holl bwysig i ni. Rydym felly yn edrych am berson sy’n rhannu’r gwerthoedd yma, yn enwedig gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar faterion adnoddau dynol, yn cynnwys recriwtio a gofalu am les staff.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, sy’n ymfalchïo mewn systemau a phrosesau effeithiol, ac sy’n gallu rheoli eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Os nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad perthnasol ar gyfer y swydd hon eisoes, byddem yn fodlon ystyried darparu hyfforddiant a chyfleoedd i weithio tuag at gymwysterau perthnasol.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Cyflog
💰 £33,036
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.