Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae Adran yr Eisteddfod a’r Celfyddydau yn cynnal un o’r gwyliau teithiol mwyaf ar gyfer plant a phobl ifanc yn Ewrop, yn ogystal â chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol fydd yn gallu datblygu elfennau celfyddydol a chystadleuol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, gan gynnwys datblygiadau’r ŵyl, y cystadlaethau, a’r arlwy ar y maes.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Elain Maddocks: [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 17:00 Dydd Mawrth, 1af o Fawrth 2023
Dyddiad Cyfweld – Dydd Mawrth, 14eg o Fawrth 2023
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Gweithrediadau
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Bennaeth Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd sy’n gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.
Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol.
Gan edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau.
Felly, mae Pennaeth Gweithrediadau yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain y Gymdeithas, gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, a gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr Digwyddiadau Anrhydeddus y Gymdeithas, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion a Phwyllgorau.
Cyfrifoldebau Allweddol
Bydd gan Bennaeth Gweithrediadau gyfrifoldeb am gynllunio, cydlynu, a chyflawni holl agweddau gweithredol ein digwyddiadau mewnol, yn cynnwys:
· paratoi Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau,
· caffael a rheoli contractau gwasanaethau allweddol a hurio yn cynnwys diogeledd, rheoli traffig, parcio, giatiau a mynedfeydd, pebyll, glanhau, rheoli gwastraff, cyfathrebu a system sain ayb.
· arolygu’r holl gystadlaethau da byw a goruchwylio’r Adran Dda Byw,
· arolygu a goruchwylio’r Adran Stondinau Masnach,
· diogelwch digwyddiadau a chyswllt â’n Cynghorydd Iechyd a Diogelwch,
· trwyddedu a chydymffurfiaeth,
· cynllunio at argyfyngau,
· rheolaeth llinell staff a gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, aelodau, pwyllgorau a grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu yn ôl y gofynion.
Pennaeth Gweithrediadau yw’r swyddog arweiniol sy’n gyfrifol am ddarparu’r Ffair Aeaf hefyd.
Mae hon yn swydd gyffrous ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.
Ynglŷn â Chi
Mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau pwysig ar gyfer y swydd. Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon.
Profiad
· Hanes o lwyddiant blaenorol yn rheoli digwyddiadau.
· Profiad o weithrediadau y gellir ei ddangos.
· Rheoli contractau a chyflenwyr.
· Gwybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoli risg.
· Cynhyrchu, rheoli a gwerthuso cyllidebau.
· Rheoli staff a gweithio fel tîm.
Sgiliau a gwybodaeth
· Llythrennedd TG rhagorol
· Yn dra threfnus.
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
· Sgiliau rheoli amser rhagorol, gallu i flaenoriaethu, gweithio dan bwysau ac amldasgio.
· Sgiliau cyflwyno rhagorol yn Saesneg (hanfodol) a Chymraeg (dymunol) – ar lafar ac yn ysgrifenedig.*
· Menter a chreadigrwydd.
· Sylw astud i fanylion.
· Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch a hyderus.
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones ([email protected]).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 3 Ionawr 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023.
Gweler manylion y pecyn buddion a’r telerau cyflogaeth cyffredinol yn y ddogfen ategol.
* Ystyrir sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad i’r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle.
Cyflog
💰 Tua £40,000
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt, Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.