Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag ymagwedd hyblyg gyfrannu at waith pwysig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr, waeth beth fo’u hamgylchiadau neu eu lleoliad daearyddol. Mae ein pencadlys modern wedi’i leoli wrth gyffordd 41 yr M4 ar bwys gorsaf trên Baglan, ac yno rydyn ni’n hyrwyddo gweithio hyblyg. Er mai hwn yw lleoliad swyddogol ar gyfer y swydd, bydden ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau hyblygrwydd yn eu lleoliad gwaith. Hefyd byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd eisiau rhannu swydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau Cymraeg cadarn, ac yn hyderus i’w defnyddio i greu dogfennau ysgrifenedig. Dylech chi gynnwys tystiolaeth o gyfieithu mewn lleoliad ffurfiol ar eich cais. (Cymraeg/Saesneg. Saesneg/Cymraeg).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwahanol ddulliau o gyfieithu. Y dull pwysicaf yw trosi dogfennau o’r naill iaith i’r llall, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau a thaflenni gwybodaeth. Hefyd, bydd gwaith trawsgrifio achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r Saesneg i’r Gymraeg.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n fanwl gywir, a meddu ar ddealltwriaeth dda o becyn Microsoft Office. Byddai profiad blaenorol o feddalwedd cyfieithu proffesiynol hefyd yn fuddiol.
Byddai profiad blaenorol a gwybodaeth o waith y GIG yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad o a/neu gymhwyster mewn cyfieithu ar y pryd, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu ein staff a sicrhau bod gan yr holl dîm gydbwysedd priodol rhwng eu bywydau a’u gwaith.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle gwych wedi codi yn ein tîm cyfieithu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hoffem benodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm ymroddedig sydd wedi'i hen sefydlu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu i hwyluso gwasanaethau Cymraeg i GIG Cymru, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, dyma'r swydd i chi!
Crynodeb o'r swydd
Fel Cyfieithydd byddwch yn gweithio o fewn tîm cyfieithu sefydledig yn Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu gyda dwy brif swyddogaeth. Y cyntaf yw cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i adrannau a meysydd gwasanaeth y sefydliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ail mae Uned y Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu i bob adran a maes darparu gwasanaeth ar draws PCGC ac i sefydliadau GIG eraill trwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Rydym am recriwtio Cyfieithydd cymwys a phrofiadol ble mae o leiaf dwy flynedd o brofiad ym maes cyfieithu yn hanfodol, gyda'r gallu i gyfieithu a phrawfddarllen testun rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau'r dydd ar amrywiaeth o wahanol bynciau.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd ble mae trosiant gwaith yn gyflym, lle byddwn yn trosi mwy na 100,000 o eiriau yr wythnos fel tîm craidd. Bydd y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tyn sy'n gwrthdaro yn hynod o bwysig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i apiau Microsoft Office a'r defnydd o dermau a meddalwedd cof cyfieithu.
Prawfddarllen a sicrhau ansawdd eich gwaith a gwaith eraill yn y tîm cyn ei gyhoeddi.
Cydgysylltu ag aelodau'r tîm a chleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau bob dydd.
Dilyn protocolau a gweithdrefnau adrannol a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
Ymchwilio a sicrhau cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir.
Amdanom ni
Sefydlwyd Uned Iaith Gymraeg Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2016. Mae'r adran wedi datblygu a thyfu ers hynny, i fodloni'r galw o fewn GIG Cymru am wasanaethau cyfieithu. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r radd flaenaf i PCGC a Sefydliadau GIG eraill.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, lle na fydd unrhyw ddiwrnod yr un fath, yn cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth o ddogfennau a chynnwys testun.
Rydym yn dîm proffesiynol a chefnogol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn y rôl.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg, Unrhyw swyddfa yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.