Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Cynghorydd 2, Rheolaeth Gynaliadwy o Nitrogen Atmosfferig (Gogledd)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Gynghorydd 2, Rheolaeth Gynaliadwy o Nitrogen Atmosfferig (Gogledd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad o’r swydd: Byddwch yn gweithio yn un o dimau lleol CNC gan ddefnyddio data wedi'i fodelu ar ffynonellau llygredd nitrogen sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig ac yna'n trafod opsiynau rheoli gyda ffermwyr lleol. Nod hyn yw mynd i'r afael â'r "Argyfwng Natur", gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a meithrin cydnerthedd ecosystemau. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff CNC, Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr i adeiladu Cynlluniau Gweithredu Nitrogen Safle ar gyfer pob un o’r chwe ardal yng Nghymru: Y Gogledd-Orllewin, Y Gogledd-Ddwyrain, Y Canolbarth, Y De-Ddwyrain, Canolbarth De Cymru a’r De-Orllewin. Bydd un swyddog yn gweithio yn y Gogledd a'r Canolbarth ac un arall yn y De.
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
1. Profiad o gadwraeth natur, bioamrywiaeth, safleoedd gwarchodedig a thirweddau morol a daearol.
2. Profiad o weithio gyda thirfeddianwyr a/neu rhanddeiliaid eraill.
3. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
4. Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad pobl eraill. Mae profiad o ddelio'n llwyddiannus â phobl / sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
5. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gyda ffocws ar gwsmeriaid.
6. Ardderchog o ran meithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid allanol.
7. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol cryno a chlir.
8. Y gallu i ddefnyddio systemau TG, megis GIS neu raglenni arbennig CNC.
9. Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm.
10. Trwydded yrru gyfredol, lawn a dilys y DU i yrru cerbydau fflyd CNC.
11. Gofynion y Gymraeg - Hanfodol: Siarad Cymraeg yn rhugl
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
· gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
· Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
· 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
· absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
· manteision a chymorth o ran iechyd a lles
· awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Cyflog
💰 £31,490 - £34,902
Lleoliad
📍 Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.
Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu.
Hanfodol
Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.
Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol. Sgiliau TG sylfaenol.
Manteisiol
Trwydded yrru lawn.
Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prosiect: Cyswllt Ffermio
Adran: Gwledig
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes. Gellir gweithio o adref yn y lle cyntaf.
Rheolwr Atebol: Swyddog Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Graddfa: 3
Cyflog: £21,979 - £23,748
Cytundeb: Dros Dro
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Cyswllt Ffermio
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru.
Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Nod y Rôl
Cefnogi’r Rheolwr Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth i gydlynu a threfnu rhaglen o gymorthfeydd ac ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau
Meithrin perthynas gyda gwahanol siaradwyr ac ymgynghorwyr, yn ogystal â Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio er mwyn denu unigolion a busnesau i gymryd rhan â manteisio ar ddarpariaeth gwasanaethau Cyswllt Ffermio
Ymdrin ag ymholiadau cyson gan ffermwyr a choedwigwyr fydd am fynychu cymorthfeydd
Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Menter a Busnes
Prif Gyfrifoldebau
**Cymorthfeydd **
Cydlynu rhaglen o gymorthfeydd / ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau mewn cydweithrediad â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Cyfrifoldeb am drefniadaeth a rheolaeth y cymorthfeydd o ddydd i ddydd gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth ac yn darparu gwerth i’r cwsmer
Sicrhau bod y manylion cywir/addas yn cael ei basio at yr ymgynhorwyr can cadw at gofynion diogelu data
Sicrhau cyswllt cyson gyda’r Swyddog Datblygu lleol i sicrhau llwyddiant cymorthfeydd
Sicrhau bod cynghorwyr perthnasol wedi eu trefnu yn ôl pwnc ar y cyd â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Sicrhau wrth drefnu cymorthfeydd fod pob cymhorthfa yn cael ei chadw o fewn cyllideb fesul cymhorthfa
Rhoi’r manylion ar y system archeb er mwyn i’r swyddog cymorthfeydd awdurdodi gwariant
Sicrhau bod pob cymhorthfa a clinig yn cael eu cynnwys ar y CMS yn amserol
Sicrhau bod manylion y cymorthfeydd sydd ar gael yn dyddiol ar y wefan e.e rhestr pynciau wedi diweddaru, adnabod yr angen a thrafod gyda’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth ynglyn ag unrhyw anghenion marchnata pellach
Ymdrin ag ymholiadau cyn y gymhorthfa a chanfod anghenion y cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cofrestru ar gyfer cymhorthfa sy’n ateb eu gofynion
Sicrhau bod y gwaith papur angenrheidiol wedi’i gwblhau ac yn cwrdd â gofynion y prosiect a gofynion Llywodraeth Cymru
Sicrhau bod dilyniant a gwerthusiad wedi gwneud gyda pob busnes sydd wedi cael cymhorthfa
Cyfathrebu efo aelodau perthnasol o’r tîm Cyswllt Ffermio efo ymholiadau ar ôl gwneud ffurflenni gwerthuso
Mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio os bod angen – digidol neu wyneb yn wyneb
Sicrhau bod mynychwyr cymorthfeydd yn cael eu cofnodi’n gywir drwy gyflwyno cronfeydd data mynychwyr i’r Ganolfan Gwasanaethau’n brydlon a’u mewnbynnu i CMS
Sicrhau bod adroddiadau wedi derbyn gan yr ymgynhorwr a’i danfon ymlaen at y busnes o fewn amser perthnasol
Cyfathrebu gyda’r asiantaethau allanol perthnasol ac adeiladu perthnasau gyda phartneriaid allweddol
Gwirio adborth mynychwyr y cymorthfeydd a chynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i fewnbynnu adborth er mwyn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru
Dadansoddi, cydlynu a chrynhoi gwybodaeth ynglŷn â’r cymorthfeydd trwy werthuso yn erbyn targedau a darparu’r wybodaeth addas i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth yn ôl yr angen
Cyfrannu’n gywir ac amserol i adroddiadau misol i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth er mwyn monitor targedau cymorthfeydd
Darparu cymorth a chefnogaeth swyddfa sy’n ddibynadwy ac effeithiol
Cynorthwyo’r tîm marchnata a’r Ganolfan Wasanaeth yn ôl y galw gan gynnwys gweithio nes 5yh yn achlysurol os oes angen.
Arall
Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
Addysg hyd o leiaf NVQ lefel 3 neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
Profiad o drefnu digwyddiadau proffil uchel ar lefel leol a chenedlaethol
Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol rhagorol
Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym a phrydlon
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
Sgiliau gwasanaeth y cwsmer rhagorol
Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaeth a choedwigaeth yng Nghymru
Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data’n gyfatebol gyda deddfau diogelu data perthnasol
Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol
Gallu bwrw ymlaen gyda’ch gwaith eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, yr e-bost a’r Rhyngrwyd
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
Ar gael i weithio gyda’r nos pan fo angen hynny
Manteisiol
- Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio
Cyflog
💰 £21,979 - £23,748
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.