Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.
O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.
Disgrifiad:
Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 9 mis
Cyfnod prawf: 4 mis
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.