Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Cynorthwyydd TG (x2)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm TG deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr.
Disgrifiad:
Manyleb Swydd Teitl Swydd: Cynorthwyydd TG x2
Adran: Technoleg Gwybodaeth
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes,
**Hybrid (50/50) ** Bydd staff sy’n byw mwy na 40 milltir o’u swyddfa Menter a Busnes agosaf yn gallu gweithio o gartref yn barhaol
Rheolwr Atebol: Rheolwr Gweithrediadau TG
Graddfa: 2
Cyflog: £20,919 - £22,367 (dibynnol ar brofiad)
Mae cynllun bonws hefyd yn weithredol
Cytundeb: Parhaol
Ystyrir ceisiadau i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr. Mae’r tîm TG yn gyfrifol am:
· Gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio’n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· Darparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff
Nod y Swydd Bydd y Cynorthwyydd TG yn cefnogi’r Adran TG i ddarparu gwasanaeth i’r cwmni, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo’u gwaith. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio’n agos gyda’r tîm i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon drwy ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, gan gynnig cyngor a hyfforddiant sylfaenol
· Paratoi at aelodau staff sy’n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau gan ddilyn prosesau yr adran
· Gosod a dosbarthu cyfarpar o fewn amserlen benodol, gan sicrhau bod staff newydd yn medru gweithio’n hwylus ar eu diwrnod cyntaf
· Gofalu am holl gyfarpar TG y cwmni, cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus
· Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis – Diweddaru meddalwedd a chaledwedd; Gweithredu copïau wrth-gefn; Gwaith gweinyddol
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddatrys digwyddiadau (incidents), a gweithio ar ddatblygiadau/prosiectau TG
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddiogelu data’r cwmni, gan weithio i leihau’r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynorthwyo staff i ddehongli a gweithio yn ôl ein polisiau TG
· Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni’n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol Arall
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a Busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a datrys problemau TG eich hunain ac eraill. (Gall hyn fod hefo teulu neu ffrindiau, yn hytrach nag yn y gwaith)
· Cymhwyster addysg bellach (e.e. NVQ / Lefel AS) neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Gwybodaeth a sgiliau da efo rhai o’r canlynol:
- Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android - Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion
- Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office)
· Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu
· Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein
· Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd
· Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff
· Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau
· Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
· Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
· Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
· Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
· Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
· Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr). Dymunol
· Cymhwyster proffesiynol TG
· Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl
· Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.
Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10:00 y bore, 28/11/2022 Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol yn yr wythnos sy’n cychwyn 05/12/2022. Os yw’r wythnos hon yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.
**Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Nod y Cwmni Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â’n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy’n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy’n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o’r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy’n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Mae Estyn yn edrych am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n frwd am TG a gwasanaeth cwsmeriaid? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog. Fel rhan o’n tîm Systemau Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn y Gwasanaethau Canolog, bydd gennych chi rôl hanfodol mewn cefnogi cyflawni ein hamcanion allweddol.
Mae ein Gweinyddwyr Systemau Gwybodaeth yn helpu i gynnal a chefnogi’r systemau busnes hanfodol sy’n ategu ein gwaith arolygu a chyngor.
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal a chadw ein cofnodion a’n systemau rheoli gwybodaeth (gan gynnwys SharePoint ar-lein, yr allrwyd a systemau pwrpasol eraill) ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth TG technegol i ddefnyddwyr systemau i sicrhau y caiff ein swyddogaethau allweddol eu cyflawni. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gwahanol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd a systemau TG, er enghraifft:
· Darparu cymorth gweinyddol a thechnegol effeithiol a defnyddiol ar gyfer yr holl systemau TG wyneb-yn-wyneb, drwy’r e-bost a thros y ffôn, gan gymryd camau angenrheidiol, lle bo hynny’n briodol
· Ychwanegu, tynnu a diweddaru caniatâd defnyddwyr a strwythurau safleoedd
· Awgrymu gwelliannau i brosesau gan ddefnyddio technoleg
· Datrys unrhyw faterion y rhoddir gwybod amdanynt
· Ymateb i ymholiadau technegol a helpu defnyddwyr systemau TG i ddatrys problemau
· Paratoi nodiadau arweiniad a fideos ‘sut i’ i gynorthwyo defnyddwyr a datrys problemau cyffredin
· Paratoi a darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr
· Darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau systemau gwybodaeth
· Sicrhau diogelwch safleoedd drwy reolyddion mynediad, creu copïau wrth gefn a chynnal a chadw polisïau diogelwch
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol:
· bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da
· eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office 365
· eich bod yn drefnus, yn gallu rheoli amser yn dda a’ch bod yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn terfynau amser cytûn
· eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol
· eich bod yn deall sut i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd da
· eich bod yn gallu nodi a datrys problemau’n gyflym gan ddilyn prosesau sefydledig
· eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff
· eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad ar yr un pryd
· eich bod yn gallu canolbwyntio a chyflawni mewn amgylchedd gweithio hybrid
Mae’n fanteisiol:
· bod gennych brofiad o greu cynnwys a gweinyddu SharePoint Online
· bod gennych brofiad o weinyddu systemau gwybodaeth ac egwyddorion diogelwch
· bod gennych brofiad o ddatblygu/cymhwyso dangosfyrddau Microsoft Power Apps, Power Automate a Power BI
· eich bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun cyflawn
· Newid a gwella
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni’n gyflym
Cyflog - £21,300 - £24,630 (codiad cyflog yn yr arfaeth)
Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim.
Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, ddydd Llun, 14 Tachwedd 2022.
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Cymorth Digidol (Dwyieithog - Cymraeg/Saesneg)
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Cymorth Digidol (Dwyieithog - Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid trwy gynnig gwasanaeth cwsmer a chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr.
Mae cyfathrebu effeithiol rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol yn rhan anatod o gyflawni hyn.
Mae’r Tîm Cymorth Digidol o fewn Ardal Gynghori y Gwasanaethau Myfyrwyr yn gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw’r Parth Myfyrwyr - UniLife, sef system ddigidol y Brifysgol a’r System Rheoli Ymholiadau ar gyfer darparu cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r Tîm Cymorth Digidol yn gweithio’n agos gyda staff ar hyd a lled y Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth gyfredol ac amserol i’w cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau.
Bydd y Cynorthwyydd Cymorth Digidol yn meddu ar sgiliau TG, digidol a chyfathrebu rhagorol, gyda gallu amlwg i flaenoriaethu gwaith, ymdrin a gofynion lu, a gweithio'n fanwl gywir o dan pwysau.
Disgrifiad: Mae'r brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar gampws Trefforest am ran o'r wythnos.
Mae hon yn swydd barhaol llawn amser.
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus, ac mai dyma’ch swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf o fewn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Kelly Symonds, Uwch Swyddog Cymorth Digidol: [email protected].
Cyflog
💰 £26,396
Lleoliad
📍 Hybrid, Campws Trefforest, Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd TG (x2 swydd)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau.
Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.
Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.
Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus.
Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:
· reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff
Nod y Swydd
Bydd y Cynorthwyydd TG yn cyd-weithio yn agos gyda chydweithwyr TG i ddarparu'r gwasanaeth TG, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo gwaith cynnal.
** Prif Gyfrifoldebau** · Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli mewn da bryd ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant sylfaenol a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn
· Gwaith cysylltiedig â newidiadau staffio, gan gynnwys: paratoi at aelodau'n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau, gosod a threfnu dosbarthu neu gasglu cyfarpar o fewn amserlen benodol, anwytho a hyfforddi staff newydd ar offer a systemau TG
· Gofalu am holl asedion caledwedd TG drwy'r Cylchred Bywyd (caffael, gosod a ffurfweddu, dosbarthu, cynnal a datgomisiynu)
· Cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, llungopiwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus
· Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis - Diweddaru systemau gweithredu, meddalwedd a chaledwedd; Monitro ac adolygu systemau craidd ac isadeiledd; Gweithredu copïau wrthgefn; Prosesu anfonebau a gwaith gweinyddol
· Cydweithio'n agos â'r tîm TG yn ôl yr angen i gynorthwyo ar ddatrys digwyddiadau, a datblygiadau/prosiectau TG
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi
· Cynorthwyo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol
**Arall **
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad
Cymwysterau / Profiad
Hanfodol
Cymhwyster NVQ lefel 3 neu’n uwch, neu gyfatebol, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a rhoi cymorth i eraill efo’u gofynion TG
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol TG
Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl TG
Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer
Gwybodaeth / Sgiliau
Hanfodol
Gwybodaeth a sgiliau da efo nifer o’r canlynol:
– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android
– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion
– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau
Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu
Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, diogelu data a GDPR
Nodweddion Personol
Hanfodol
Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff
Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau
Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dymunol
Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg) Arall
Hanfodol
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes
Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.
Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar naill ai dydd Mercher, 26 Hydref 2022 neu dydd Iau, 27 Hydref 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 17 Hydref, 2022 Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.