Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Dylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cywain, rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg i ymuno â ni. Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig. Bydd y swydd wedi ei rhannu ar gyfartaledd 90% ar brosiect Cywain, a 10% ar waith corfforaethol Menter a Busnes.
Disgrifiad:
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd **Nod y Rôl **
● Arwain ar ddatblygu briffiau dylunio a chefnogi’r Arweinydd Marchnata a Digwyddiadau a staff eraill y prosiect gyda datrysiadau a chysyniadau creadigol yn ôl yr angen ar gyfer ystod gwahanol o ofynion prosiect a chwmni, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddiadau, adroddiadau, stondinau arddangos, cynnwys marchnata sy’n wynebu’r defnyddwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
● Arwain a rheoli gwaith dylunio a phrosiectau ei hun, gan weithio’n agos gyda’r rheolwr llinell i sicrhau fod prosiectau ar y trywydd iawn ac o fewn y gyllideb a’n alinio gyda gweithgareddau eraill y tîm marchnata
● Creu dogfennau ac ymateb i ofynion eraill Menter a Busnes yn ôl y galw Prif Ddyletswyddau
● Amrediad llawn o wasanaethau dylunio graffeg i Cywain, gan gynnwys creu cysyniadau, graffeg a chynlluniau ar gyfer yr arddangosfeydd a chyhoeddiadau trosglwyddo gwybodaeth
● Aelod canolog yn y tîm marchnata a digwyddiadau gan gymryd rôl ragweithiol wrth reoli ystod o brosiectau dylunio ac arwain ar gynhyrchu gofynion digidol a chynnwys creadigol y cwmni
● Creu a rheoli gwaith dylunio ar gyfer ei argraffu, y we a’r cyfryngau hyrwyddo electronig a sioeau byw, digwyddiadau ac arddangosfeydd
● Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata ac aelodau eraill y tîm i ddatblygu syniadau creadigol, i ffurfio briffiau dylunio a chwblhau prosiectau dylunio o’r dechrau hyd y diwedd
● Helpu i hybu brand Cywain a Menter a Busnes drwy gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol
● Defnyddio technegau creadigol ac arloesol i gyrraedd cynulleidfa eang i hyrwyddo’r gwaith
● Gwerthuso gofynion dylunio’r prosiect ac awgrymu’r fformat / opsiynau gorau sydd ar gael o fewn yr amser
● Rheoli’r berthynas gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr, yn arbennig cwmniau argraffu, datblygwyr ac ati i sicrhau gwerth am arian ac ansawdd uchel cyson
● Gweithio i amserlen y prosiect, sydd yn aml yn ddyddiadau tynn, gan sicrhau ansawdd a safon uchel
● Sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac arddangosfeydd sy’n wynebu’r cwsmer yn cwrdd â safonau brandio corfforaethol Llywodraeth Cymru
● Cyfrifoleb am ddatblygu a chynnal canllawiau brand Cywain, gan gynnwys cynorthwyo i sicrhau cysondeb brand ar draws oll brosiectau Cywain a gwaith dylunio allanol
● Cynorthwyo’r tîm ehangach i ddatblygu cynnwys creadigol a datrysiadau i broblemau a syniadau dylunio ac i weithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata, copi a chyfres o ddeunyddiau ar gyfer gweithgareddau ac ymgyrchoedd
● Hwyluso’r broses greadigol ar gyfer y gwahanol ffrydiau gwaith o fewn prosiect Cywain, prosiectau corfforaethol Menter a Busnes a gwaith dylunio prosiect eraill, gan gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau effeithiolrwydd o fewn y cwmni ac i sicrhau cysondeb brand Menter a Busnes ar draws y prosiectau a gwahanol adrannau
● Sicrhau fod y prosesau caffael cywir yn cael eu dilyn a bod anfonebau yn cael eu derbyn a’u prosesu yn amserol ar gyfer gwaith dylunio a gofynion creadigol fel ffotograffeg a fideograffeg brand **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a iechyd a diogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’n ofynnol
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Gradd mewn dylunio graffeg neu gymhwyster wedi’i seilio yn y gwaith neu brofiad cyfatebol
● Profiad o reoli a darparu atebion creadigol
● Agwedd ffres a phortffolio dylunio arloesol a chreadigol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector bwyd a diod
● Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys rheoli amser, ar gyfer yr holl ohebiaeth copi caled ac electronig
● Profiad o reoli ffeiliau gan gynnwys defnyddio meintiau a fformatau amrywiol
● Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) gwych i unigolion a grwpiau o amrywiol feintiau
● Profiad a gwybodaeth am holl Gyfres Greadigol Adobe - yn benodol Illustrator Photoshop ac InDesign
● Sgiliau rhyngbersonol gwych
● Gallu gweithio ar ei b/phen ei hun yn ogystal ag o fewn tîm
● Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithiol
● Agwedd hyblyg a’r gallu i weithio i amserlenni tynn
● Gallu cadw data’n gyfatebol â deddfau diogelu data perthnasol
● Gallu gweithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun i weithio, gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun
● Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Fwyd a’r cwmni
● Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
● Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod. Manteisiol
● Profiad o reoli perthynas â chwmnïau argraffu a chyflenwyr eraill
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (llafar ac ysgrifenedig)
● Gwybodaeth am raglen Cywain
● Car i’w ddefnyddio a pharodrwydd i deithio
● Profiad o ddylunio graffeg symud Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Alex James ar 07539 173 732. Cyfweliadau
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn rhithiol. Os yw’r dyddiad yma yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10yb, dydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.