Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).
Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.
- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd.
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch.
- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch.
- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol.
- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol.
- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.
Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.
- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol.
- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.