Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol
Mae S4C yn edrych am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol fydd yn gweithio o fewn S4C i wneud y mwyaf o’r cyfle masnachol ar gyfer comisiynau S4C a’r enillion ohonyn nhw, gan weithio’n agos gyda thimau comisiynu S4C a chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae'r rôl yn gyfrifol am weithrediad a llwyddiant Cronfa Cynnwys Masnachol S4C.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys gweithredu fel ffynhonnell awdurdodol o arbenigedd ar gynnwys masnachol i Grŵp S4C, goruchwylio Cronfa Cynnwys Masnachol S4C gydag atebolrwydd am ei pherfformiad a datblygu presenoldeb gweladwy yn y diwydiant wrth greu rhwydwaith o bartneriaid cynhyrchu ac ariannu, a hyrwyddo Grŵp S4C.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.
Gallwn rannu manylion o’r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain. Plîs cysylltwch ag [email protected].
Disgrifiad:
Manylion Eraill
**Lleoliad: **Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
**Cyflog: **Cyflog a bonws yn unol â phrofiad.
**Oriau gwaith: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 13.00 ar ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r tîm Prosesu Grantiau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i weinyddu a chydlynu’r gwaith o gyflawni gweithgarwch ehangach tîm Ariannu’r Celfyddydau. Mae’r Cydlynwyr Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cynnal y wybodaeth sydd yn y systemau rheoli grantiau’r Cyngor Celfyddydau.
Mae hyn yn cynnwys:
- cynorthwyo gyda sefydlu systemau i sicrhau bod cynlluniau ariannu ar gael i ymgeiswyr;
- prosesu grantiau drwy’r system grantiau am oes y grant;
- sicrhau bod y data sydd ar y system grantiau yn gywir;
- cynorthwyo a chynghori ymgeiswyr a staff ar brosesau sy’n ymwneud â systemau a chanllawiau ariannu;
- adolygu cyllidebau ceisiadau; a
- sicrhau bod ceisiadau yn cadw at reolaethau llywodraethu’r Cyngor Celfyddydau.
Mae’r disgrifiad swydd ar gyfer y Cydlynydd Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu’r tasgau o ddydd i ddydd yn fwy cywir, ond ni fydd hyn yn lleihau’r cynnig cyflog cychwynnol.
Amdanoch chi
Rydych yn dda yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl ac yn arbennig o gyfforddus yn gweithio gyda ffigurau. Rydych yn hoffi’r cymysgedd o ddadansoddiad rhifiadol a gweinyddol ac yn gallu cyfathrebu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn glir i eraill.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Mae’r rôl hon yn rôl llawn amser, ond wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’n llawn amser yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 Cyflog cychwynnol o £24,063
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.