Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl. Rydyn ni eisiau sicrhau nad oes neb yn wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Rydyn ni'n rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Rydyn ni’n ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.
Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi nes bod pawb sy'n cael problem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch.
Gwybodaeth am y swydd
Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio gyda’r tîm yng Nghaerdydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth a’n safbwyntiau polisi gyda’r canlyniad o wella bywydau a phrofiadau pobl â phroblemau iechyd meddwl. Ar adeg pan fydd strategaeth iechyd meddwl deng mlynedd Llywodraeth Cymru yn cael ei lansio, bydd y swydd hon yn cefnogi’r tîm i ddylanwadu ar y strategaeth nesaf, gan sicrhau bod anghydraddoldebau iechyd meddwl yn cael sylw a bod pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.
Byddwch yn cefnogi gwaith polisi ac ymgyrchoedd o ddydd i ddydd drwy gynnal gwaith ymchwil, ysgrifennu briffiau, cyfrannu at ymgysylltiad y tîm â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl a chefnogi’r gwaith o ddatblygu teithiau ymgyrchwyr Cymraeg. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r adran Cysylltiadau Allanol i ddarparu digwyddiadau a chanlyniadau ymgyrchoedd.
Hoffem glywed gennych chi os oes gennych y pethau canlynol:
Profiad o weithio mewn swydd gyhoeddus sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu da a meddwl yn ddadansoddol.
Gallu deall a dadansoddi gwybodaeth gymhleth, ee adroddiadau ymchwil, dogfennau polisi, deddfwriaeth a data.
Profiad o ddatblygu a chynnal perthynas waith effeithiol yn fewnol ac yn allanol.
Gallu gweithio mewn tîm a gydag agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau.
Ein hymrwymiad
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn wrth-hiliol ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud. Mae hyn yn flaenoriaeth hollbwysig i Mind. Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth ac yn deall y byddwn, drwy fod yn sefydliad cynhwysol sy’n cydnabod gwahanol safbwyntiau, yn gallu darparu gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gwaith ac i hyrwyddo tegwch i bawb o ran iechyd corfforol a meddyliol.
Mae Mind yn croesawu pob ymgeisydd ac yn awyddus i sicrhau bod eu tîm yn adlewyrchu amrywiaeth y DU a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Hoffent annog ceisiadau gan bobl anabl, LGBT ac o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Manylion y cais
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Dydd Mawrth 7fed Mawrth - 12.00 canol dydd
Cyflog
💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad)
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr (Siaradwr Cymraeg)
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Weinyddwr (Siaradwr Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Weinyddwr dwyieithog i ymuno â'n tîm. Mae gennym nifer o rolau ar gael, rhai ohonynt yn barhaol, rhai am gyfnod penodol a rhai rhan amser.
Y Manteision
- Cyflog o £26,894 - £29,080 y flwyddyn (pro rata ar gyfer rhan amser)
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth) (pro rata ar gyfer rhan-amser)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Gweinyddwr, byddwch yn darparu cymorth prosiect i'n prosiectau Gwella a Datblygu, grwpiau prosiect, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Gan gydlynu cynllunio prosiect, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i gyfarfodydd ac yn sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.
Byddwch hefyd yn drafftio ac yn dosbarthu papurau, manylebau a chynlluniau ac yn sicrhau cysondeb tôn, brandio a chyfieithu.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Coladu data a dadansoddi canlyniadau
- Trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd
- Adolygu a diweddaru cynnwys y fewnrwyd a'r wefan
Amdanoch Chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Weinyddwr, bydd angen:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weinyddu busnes
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
- Gwybodaeth o'r sector cyhoeddus
- Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu ysgrifenedig rhagorol
- Hyfedredd TG, gan gynnwys Teams a Zoom
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu cyflawni pob tasg a chyfrifoldeb gyda hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Mawrth 2023.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu wrth iddynt ddod i mewn felly gall y rôl hon gau yn gynt na’r dyddiad a hysbysebir.
Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Gydlynydd Prosiect, Cydlynydd Datblygu Rhaglen, Cydlynydd Gwella Rhaglen, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gweinyddwr Prosiect, Cynorthwyydd Personol, Cynorthwyydd Personol, EA, Cynorthwyydd Gweithredol, Ysgrifennydd, Derbynnydd, neu Swyddog Gwella a Datblygu.
Felly, os ydych chi am ymuno â ni fel Gweinyddwr, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,080 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
£31,031 yn cynnwys pwysoliad rhanbarthol
35 awr yr wythnos
Cyfnod penodol tan fis Chwefror 2026
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru (gweithio hybrid am ddau ddiwrnod yr wythnos) neu'n gweithio gartref.
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf.
Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu.
Wnewch chi ymuno â ni?
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr hyderus sy’n siarad Cymraeg ac sy’n mwynhau cyfarfod â phobl ac adrodd eu straeon mewn ffyrdd cymhellol. Yn y rôl hon byddwch yn cyflwyno gweithgareddau marchnata a chyfathrebu effeithiol i helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio cymorth iechyd meddwl Mind yng Nghymru, helpu i ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru a chefnogi'r gwaith o godi arian. Byddwch yn gyfathrebwr amlochrog sydd yr un mor gyfforddus yn ysgrifennu copi ag yr ydych yn briffio cyflenwyr neu'n ymweld â safleoedd lleol Mind a chyfarfod â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl wyneb yn wyneb. Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl gyfathrebu amrywiol sydd â phwrpas iddi, cysylltwch â ni.
Dyddiad cau: 12pm, 1 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 6 Chwefror 2023
Mae Mind yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar os byddwn yn cael llawer iawn o ymgeiswyr cryf – felly rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais yn gynnar.
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Cyflog
💰 £31,031
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn chwilio am Gyfieithydd.
Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) /Rhan amser (unai 22.5 neu 30 awr yr wythnos) parhaol.
Mae swydd llawn amser parhaol gyda ni. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan unigolion sydd yn edrych am waith cyfieithu yn rhan-amser neu i rannu swydd.
Rydym yn dymuno recriwtio cyfieithwyr i ymuno â Thîm Cyfieithu o fewn yr Uned Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Rydym yn dîm o ieithyddion a chyfieithwyr sy'n tyfu, er mwyn cefnogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a sefydliadau eraill GIG Cymru gyda gwasanaethau cyfieithu. Bydd y gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol, wrth i ni gyfieithu ystod eang o gynnwys yn amrywio o gynnwys tudalennau gwe, taflenni gwybodaeth i gleifion, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, swydd-ddisgrifiadau, polisïau, rhyngwynebau ar gyfer systemau a chymwysiadau a llawer mwy. Rhaid bod gennych brofiad sylweddol mewn cyfieithu a phrawfddarllen o'r Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb, yn ddelfrydol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid bod gennych feistrolaeth ardderchog ar ramadeg yn y ddwy iaith a bydd gennych radd yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill a/neu ieithyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog rhagorol, ac i'r ymgeisydd iawn sy'n gallu dangos bod ganddo'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol rydym yn gallu cynnig cyflog teg i adlewyrchu'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad hynny. Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu a chronfeydd termau, a byddwch yn gallu cyfieithu rhwng 2,500 a 3,500 o eiriau o leiaf mewn diwrnod gwaith, yn dibynnu ar gymhlethdod y dogfennau hynny. Mae gennym swyddfeydd ym Mhont-y-pwl, Caerdydd, Nantgarw, Abertawe, Caerfyrddin, Dinbych a Llanelwy. Rydym hefyd yn cynnig gweithio hybrid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ar ffurf ysgrifenedig o wahanol ddogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Saesneg, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Microsoft Word, PowerPoint, Excel, Outlook, In-design, gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu fel Memsource. Fel aelod o'r tîm, bydd y cyfieithydd yn cyfieithu ystod eang o ddogfennau diddorol, cymhleth, technegol, cyfrinachol a sensitif. Bydd y cyfieithydd hefyd yn gyfrifol am gyfieithu cyhoeddiadau, adroddiadau, polisïau, agendâu, cofnodion, papurau bwrdd, datganiadau i'r wasg, llythyrau, ffurflenni, papurau recriwtio a chynnwys gwe/cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Cyfieithu gwybodaeth, dogfennau a ffurflenni ar gyfer cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n gofyn am gywirdeb a'r defnydd o'r iaith, terminoleg, arddull a chystrawen fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r derbynwyr.
Prawf-ddarllen eich gwaith eich hun a gwaith aelodau eraill o'r tîm. Sicrhau bod cyfieithiadau'n bodloni ansawdd golygyddol. Dilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Uned y Gymraeg i ddarparu gwasanaethau cyfieithu prydlon a chywir o ansawdd uchel i'n cleientiaid o fewn GIG Cymru.
Paratoi pob dogfen cyn ei chyfieithu, gan sicrhau bod y ddogfen yn ramadegol gywir. Bydd hyn yn golygu cyfathrebu ag awdur y ddogfen er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r pwnc, e.e. polisïau a gweithdrefnau.
Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch gydag Oliver Owen (Rheolwr Cyfieithu) am fwy o wybodaeth: [email protected]
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.