Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.
Disgrifiad:
Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC: https://wcva.cymru/cy/gweithio-i-cggc/
SWYDDOG CYMORTH CYFATHREBIADAU DIGIDOL
Cymraeg yn hanfodol
35 awr yr wythnos
£23,307 yn cynyddu i £24,830 pro rata y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad:
Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.
Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol
Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg
Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10am
Cyflog
💰 £23,307 - £24,830 pro rata
Lleoliad
📍 Hybrid, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).
Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.
- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd.
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch.
- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch.
- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol.
- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol.
- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.
Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.
- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol.
- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Cynnwys Digidol
Mae S4C yn edrych am Olygydd Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys Digidol i ymuno a’r Adran Cyhoeddi. Gyda phlatfformau digidol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae’r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi’n ymateb i’r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi wrth lunio a gweithredu strategaeth S4C ar blatfformau digidol. Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi, cwestiynu ac addasu strategaethau cynnwys digidol, a llif gwaith digidol (organig a phartneriaethau), yn fewnol yn S4C ac yn allanol ar draws yr holl gwmnïau cynhyrchu annibynnol yr ydym yn comisiynu cynnwys ganddynt.
Byddwch yn arwain tîm digidol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith ac allbwn creadigol y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon digidol cyfresi S4C, yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i’r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Gan weithio’n agos gyda’r tîm digidol, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o fewn S4C (y Prif Swyddog Cynnwys, y timau comisiynu, y wasg, newyddion a marchnata) a’r cwmnïau cynhyrchu, byddwch yn arwain, datblygu a sefydlu llais S4C ar y platfformau digidol - yn perchnogi’r cyfrifon trwy fod yn chwareus, creu sŵn, a neidio ar “trends” ehangach (o fewn Cymru, Prydain ac yn fyd-eang).
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, goruchwylio a hwyluso ffrydio cynnwys byw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen, a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon uchel gyda staff ag eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin/S4C Caerdydd/S4C Caernarfon. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 16.45 ar ddydd Gwener 27 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.
O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.
Disgrifiad:
Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 9 mis
Cyfnod prawf: 4 mis
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Pynciau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Cefnogi Pynciau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau penodol i roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion. Mae’r rôl yn cynnwys datblygu ymgyrchoedd i hyrwyddo pynciau penodol a sicrhau presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.