Dewiswch dag neu chwiliwch am swydd
Dim tagiau’n cyfateb — gallwch barhau i chwilio am swyddi.
Yn cynnwys ystodau cyflog sy’n cyrraedd y swm hwn.
Cynnwys y rhain hefyd, yn ogystal â’r isafswm blynyddol.
👉 Llogi? Dangoswch i 1,000+ o weithwyr ar Fwrdd Swyddi Cymraeg #1 🏆
Defnyddir gan
1 swydd yn cyfateb
Credyd o £50 am newid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y Gohebydd yn gweithio’n rhan o dîm golwg360, yn cynhyrchu straeon newyddion ar gyfer y gwefannau bro a gwasanaeth golwg360.
Mae’r gwefannau bro presennol mewn dwy ardal – Arfon a Cheredigion – ac yn y broses o ehangu ar draws y gorllewin.
Y gwaith
Mae’r swydd yma’n gyfle i fod yn rhan o un o’r cynlluniau newyddiadurol mwya’ arloesol yng Nghymru.
Fe fydd y gwaith yn golygu:
- dod o hyd i straeon lleol gwreiddiol a’u datblygu nhw ar gyfer y gwefannau bro;
- addasu a datblygu straeon cenedlaethol i’w gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa leol;
- addasu straeon o’r gwefannau bro ar gyfer gwasanaeth newyddion cenedlaethol golwg360.
Fe fydd angen gweithio ar draws nifer o wahanol gyfryngau, o brint i fideo, blogiau byw a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser a chyfnod: Swydd lawn-amser, ar gontract penodol tan ddiwedd mis Medi 2023.
Cyflog: £20,040
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion ac ymgeisio: [email protected]
💰 £20,040
📍 I'w drafod
23 Medi 2022
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.