Swyddi Cymraeg — Llanbedr Pont Steffan
5 swydd yn cyfateb
Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Mae Barcud Cyf yn edrych am Gynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddarparu ystod eang o gyfathrebiadau digidol integredig fel y gall Barcud hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu ar ei denantiaid a chynulleidfaoedd allweddol. Bydd y rôl yn cefnogi’r tîm i gynllunio a chynhyrchu cynnwys ar draws sianeli digidol sy’n eiddo i Barcud a pharhau i godi ei broffil trwy gyfryngau ysbrydoledig, dyfeisgar a chreadigol.
Disgrifiad:
• Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau digidol sy'n galluogi Barcud i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd allweddol am ein gwasanaethau.
• Darganfod a chreu cynnwys cyfoethog o safon ar gyfer sianeli digidol Barcud e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-farchnata, blog, mewnrwyd ac ati.
• Ymgysylltu â chynulleidfaoedd a datblygu perthnasoedd â nhw ar-lein, gan sbarduno trafodaeth am faterion yn ymwneud â'r sector Tai ac ymgysylltu â thenantiaid, rhanddeiliaid a chymorth a chydweithwyr.
• Monitro cyfathrebiadau digidol Barcud yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Cynhyrchu dadansoddeg fisol i asesu effeithiolrwydd cynnwys a weithredwyd.
• Darparu cefnogaeth olygyddol a marchnata digidol i adrannau eraill Barcud.
• Nodi tueddiadau a mewnwelediadau, gwerthuso technolegau sy'n dod i'r amlwg, a gwneud y gorau o berfformiad presenoldeb digidol Barcud.
• Diweddaru a lanlwytho cynnwys i'n gwefan Wordpress.
Cyflog
💰 £19,020 - £20,994
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-swyddog Gweinyddol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni’n awr yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol i ymuno â’n campws yn Llambed ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gefnogi’r Profost yn ei waith o ddydd i ddydd gan sicrhau bod cynlluniau a phrosiectau penodol yn cael eu gwireddu’n rheolaidd. Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a fydd yn cynnwys trefnu dyddiadur y Profost, trefnu a chefnogi cyfarfodydd ar y campws ac yn y gymuned, trefnu digwyddiadau ar y campws gan gynnwys y rheini a drefnir ar y cyd ag asiantaethau a grwpiau allanol, ymgysylltu ag ystod o bartneriaid allanol, ymgymryd â thasgau ymchwil priodol, cymryd cofnodion yn ôl y gofyn ynghyd â gweinyddiaeth ariannol. Byddwch yn ddarparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer Cyfarwyddwr Bwyd ac Economi Wledig Canolfan Tir Glas a phrosiectau cysylltiedig megis Yr Arsyllfa Wledig.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Uwch-swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Gradd israddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
- Profiad perthnasol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng
- Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tynn
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Profiad o weinyddu pwyllgorau ar lefel sefydliadol
- Hyfedredd da yn y defnydd o Microsoft a phecynnau meddalwedd eraill
- Y gallu i gyfathrebu’n hyderus a chywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig*
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid
- BUDDION –
Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Uwch-swyddog Gweinyddol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 10 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgogydd de Ceredigion
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ysgogydd de Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn brwdfrydedd cymunedau de Ceredigion i ymuno â rhwydwaith Bro360, mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Ysgogydd de Ceredigion **
Mae’r swydd hon yn allweddol i ddatblygiad y cynllun – yn gweithio gyda chymunedau de Ceredigion i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Sbarduno gweithgarwch yn yr ardal dan sylw.
· Hyrwyddo’r prosiect yn y cymunedau lleol a thu hwnt.
· Ysgogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu’r prosiect.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Adnabyddiaeth dda o’r ardal.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Gweithio o adre a/neu o swyddfa Golwg yn Llanbed, gyda phwyslais ar weithio yn y bröydd
Cyflog: £20,040
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 O gartref, Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Mae Barcud Cyf yn edrych am Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**Cyfrifoldebau allweddol **
Cyfleusterau:
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid busnes ynghylch Creuddyn, gan geisio ymdrin â materion tenantiaid busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus ac mewn modd croesawgar, proffesiynol a chyfeillgar.
· Datblygu a chyflwyno dulliau gweithredu a strategaethau ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau yng nghyswllt rheoli cyfleusterau.
· Hyrwyddo a marchnata’n weithredol y cyfleusterau cynadledda a hyfforddi, gan ddefnyddio amryw ddulliau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
· Bod yn gyfrifol am drefnu’r ystafelloedd hyfforddi / cynadledda fel eu bod yn addas i anghenion y sawl sy’n cynnal digwyddiadau.
· Bod yn gyfrifol am gynnwys y wefan / sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ac am drefniadau archebu ystafelloedd neu ddesgiau a rennir, ar-lein a thros y ffôn.
· Yn gallu gweithio’n achlysurol gyda’r nos a phenwythnosau yn ddibynnol ar hyfforddiant/digwyddiadau cynadleddau.
· Cysylltu â sefydliadau arlwyo lleol er mwyn darparu gwasanaeth arlwyo allanol ar gyfer digwyddiadau yn ôl y gofyn.
· Trefnu te a choffi ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghreuddyn.
· Datblygu cydberthnasau â darparwyr llety lleol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n mynychu cynadleddau aros dros nos.
· Rhoi gwybod i denantiaid busnes am y prosesau a’r gweithdrefnau y bydd y Gymdeithas yn eu dilyn wrth ymdrin â’r materion y maent wedi’u codi ynghylch y cyfleusterau.
· Rhoi gwybod i denantiaid am gyfrifoldebau Barcud a’u cyfrifoldebau nhw o ran rheoli cyfleusterau ac eiddo.
· Cysylltu â’r Syrfëwr Cynnal a Chadw er mwyn ymchwilio i faterion a godir, a defnyddio’r weithdrefn gywir i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio.
· Bod yn gyfrifol am gario allan a recordio profion Iechyd a Diogelwch wythnosol megis larymau, goleuadau brys ag ati.
· Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad i ddatrys unrhyw faterion a godir gan denantiaid busnes yng nghyswllt problemau sy’n ymwneud â chyfleusterau ac elfennau hanfodol.
· Gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Ddatblygu a Rheoli Asedau i gyflawni gwaith cynnal a chadw a chydymffurfio sydd wedi’i gynllunio, gan sicrhau bod tenantiaid busnes yn gwybod am y gwaith cyn iddo ddechrau ac yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddo bara.
· Ymdrin â chwynion a chanmoliaeth ynghylch cyfleusterau Barcud, gan ddosbarthu’r cwynion a’r ganmoliaeth dan sylw i’r staff perthnasol fel y bo’n briodol.
· Cynnal a rheoli cronfeydd data ar gyfer ymholiadau tenantiaid ynghylch y cyfleusterau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir ac yn briodol.
· Cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach yn y swyddogaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau.
· Dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau pan fo angen.
Pobl:
· Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
· Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
· Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
· Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
· Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
· Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
· Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
· Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Cyflog
💰 £23,174 - £25,579
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgrifennydd Cyfreithiol
Mae Arnold Davies Vincent Evans yn edrych am Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfreithwyr Arnold Davies Vincent Evans, Llanbedr Pont Steffan
Nid yw profiad cyfreithiol yn angenrheidiol.
Mae sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu da, a sylw i fanylder yn hanfodol.
Bydd y gallu i deipio wrth wrando yn fantais ond ddim yn angenrheidiol, a’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at sylw Mrs E Davies erbyn dydd Mercher, 1af o Fehefin 2022.
Am sgwrs anffurfiol ffoniwch 01570 422 233
Cyflog
💰 £19,000 - £20,000
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.