Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Uwch-swyddog Gweinyddol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni’n awr yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol i ymuno â’n campws yn Llambed ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gefnogi’r Profost yn ei waith o ddydd i ddydd gan sicrhau bod cynlluniau a phrosiectau penodol yn cael eu gwireddu’n rheolaidd. Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a fydd yn cynnwys trefnu dyddiadur y Profost, trefnu a chefnogi cyfarfodydd ar y campws ac yn y gymuned, trefnu digwyddiadau ar y campws gan gynnwys y rheini a drefnir ar y cyd ag asiantaethau a grwpiau allanol, ymgysylltu ag ystod o bartneriaid allanol, ymgymryd â thasgau ymchwil priodol, cymryd cofnodion yn ôl y gofyn ynghyd â gweinyddiaeth ariannol. Byddwch yn ddarparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer Cyfarwyddwr Bwyd ac Economi Wledig Canolfan Tir Glas a phrosiectau cysylltiedig megis Yr Arsyllfa Wledig.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Uwch-swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Gradd israddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
- Profiad perthnasol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng
- Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tynn
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Profiad o weinyddu pwyllgorau ar lefel sefydliadol
- Hyfedredd da yn y defnydd o Microsoft a phecynnau meddalwedd eraill
- Y gallu i gyfathrebu’n hyderus a chywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig*
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid
- BUDDION –
Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Uwch-swyddog Gweinyddol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 10 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.