Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Mae Barcud Cyf yn edrych am Gynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddarparu ystod eang o gyfathrebiadau digidol integredig fel y gall Barcud hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu ar ei denantiaid a chynulleidfaoedd allweddol. Bydd y rôl yn cefnogi’r tîm i gynllunio a chynhyrchu cynnwys ar draws sianeli digidol sy’n eiddo i Barcud a pharhau i godi ei broffil trwy gyfryngau ysbrydoledig, dyfeisgar a chreadigol.
Disgrifiad:
• Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau digidol sy'n galluogi Barcud i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd allweddol am ein gwasanaethau.
• Darganfod a chreu cynnwys cyfoethog o safon ar gyfer sianeli digidol Barcud e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-farchnata, blog, mewnrwyd ac ati.
• Ymgysylltu â chynulleidfaoedd a datblygu perthnasoedd â nhw ar-lein, gan sbarduno trafodaeth am faterion yn ymwneud â'r sector Tai ac ymgysylltu â thenantiaid, rhanddeiliaid a chymorth a chydweithwyr.
• Monitro cyfathrebiadau digidol Barcud yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Cynhyrchu dadansoddeg fisol i asesu effeithiolrwydd cynnwys a weithredwyd.
• Darparu cefnogaeth olygyddol a marchnata digidol i adrannau eraill Barcud.
• Nodi tueddiadau a mewnwelediadau, gwerthuso technolegau sy'n dod i'r amlwg, a gwneud y gorau o berfformiad presenoldeb digidol Barcud.
• Diweddaru a lanlwytho cynnwys i'n gwefan Wordpress.
Cyflog
💰 £19,020 - £20,994
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Mae Barcud Cyf yn edrych am Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**Cyfrifoldebau allweddol **
Cyfleusterau:
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid busnes ynghylch Creuddyn, gan geisio ymdrin â materion tenantiaid busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus ac mewn modd croesawgar, proffesiynol a chyfeillgar.
· Datblygu a chyflwyno dulliau gweithredu a strategaethau ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau yng nghyswllt rheoli cyfleusterau.
· Hyrwyddo a marchnata’n weithredol y cyfleusterau cynadledda a hyfforddi, gan ddefnyddio amryw ddulliau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
· Bod yn gyfrifol am drefnu’r ystafelloedd hyfforddi / cynadledda fel eu bod yn addas i anghenion y sawl sy’n cynnal digwyddiadau.
· Bod yn gyfrifol am gynnwys y wefan / sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ac am drefniadau archebu ystafelloedd neu ddesgiau a rennir, ar-lein a thros y ffôn.
· Yn gallu gweithio’n achlysurol gyda’r nos a phenwythnosau yn ddibynnol ar hyfforddiant/digwyddiadau cynadleddau.
· Cysylltu â sefydliadau arlwyo lleol er mwyn darparu gwasanaeth arlwyo allanol ar gyfer digwyddiadau yn ôl y gofyn.
· Trefnu te a choffi ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghreuddyn.
· Datblygu cydberthnasau â darparwyr llety lleol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n mynychu cynadleddau aros dros nos.
· Rhoi gwybod i denantiaid busnes am y prosesau a’r gweithdrefnau y bydd y Gymdeithas yn eu dilyn wrth ymdrin â’r materion y maent wedi’u codi ynghylch y cyfleusterau.
· Rhoi gwybod i denantiaid am gyfrifoldebau Barcud a’u cyfrifoldebau nhw o ran rheoli cyfleusterau ac eiddo.
· Cysylltu â’r Syrfëwr Cynnal a Chadw er mwyn ymchwilio i faterion a godir, a defnyddio’r weithdrefn gywir i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio.
· Bod yn gyfrifol am gario allan a recordio profion Iechyd a Diogelwch wythnosol megis larymau, goleuadau brys ag ati.
· Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad i ddatrys unrhyw faterion a godir gan denantiaid busnes yng nghyswllt problemau sy’n ymwneud â chyfleusterau ac elfennau hanfodol.
· Gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Ddatblygu a Rheoli Asedau i gyflawni gwaith cynnal a chadw a chydymffurfio sydd wedi’i gynllunio, gan sicrhau bod tenantiaid busnes yn gwybod am y gwaith cyn iddo ddechrau ac yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddo bara.
· Ymdrin â chwynion a chanmoliaeth ynghylch cyfleusterau Barcud, gan ddosbarthu’r cwynion a’r ganmoliaeth dan sylw i’r staff perthnasol fel y bo’n briodol.
· Cynnal a rheoli cronfeydd data ar gyfer ymholiadau tenantiaid ynghylch y cyfleusterau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir ac yn briodol.
· Cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach yn y swyddogaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau.
· Dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau pan fo angen.
Pobl:
· Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
· Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
· Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
· Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
· Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
· Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
· Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
· Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Cyflog
💰 £23,174 - £25,579
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.