Swyddi Cymraeg — Llandudno
3 swydd yn cyfateb
Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn siaradwr Cymraeg?
A fyddech yn mwynhau'r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynnal a chadw plant ac mae'n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a gwarchod rhai o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Yn DWP rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.
Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau'r DWP
Swydd ddisgrifiad
Bydd eich rôl yn cynnwys
- Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
- Cynnig cyngor a chefnogaeth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a lle bo angen eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad swydd mewn amgylchedd digidol e.e. gwefannau chwilio am swydd, e-bost, uwchlwytho dogfennau ac ati
- Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.
Manyleb bersonol
Meini Prawf Allweddol
I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi
- Fod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg llafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Iaith)
- Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);
Ieithoedd
Y gallu i siarad a deall Cymraeg llafar
Safon Cymraeg Llafar –
Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:
- Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
- Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
- Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.
Safon Cymraeg Ysgrifenedig -
- Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-bost, neges destun, ac ati.
Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ar gyfer Swyddog Gweithredol o ffin fach, efallai y cynigir swydd ar lefel Swyddog Gweinyddol (AO) iddynt fel ymgeisydd a fu bron â methu. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Buddion
- Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl 1 flwyddyn)
- Holl wyliau’r banc
- Patrymau gweithio hyblyg ar gael
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
- Rhaglen Gymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les
- Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflenwi Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Gweinyddiaeth Busnes
- Cynlluniau disgownt i weithwyr
Cyflog
💰 £28,117
Lleoliad
📍 Y Fenni, Bargod, Y Barri, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Llanelli, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Tonypandy, Treorci, Aberhonddu, Bae Colwyn, Llandrindod, Llandudno, Machynlleth, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd, Y Trallwng
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Canolfan Gyswllt (x 4 swydd) - (18.5 / 37 Awr)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Ymgynghorydd Canolfan Gyswllt (x 4 swydd) - (18.5 / 37 Awr)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Ffit Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel rhan o’r tîm Canolfan Gyswllt sydd newydd ei sefydlu.
Cyflog
💰 £19,264 - £19,650
Lleoliad
📍 Llandudno, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Materion Allanol
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymgynghorydd Materion Allanol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i helpu i ledaenu neges elusen gadwraeth fwyaf y DU? Rydym yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol hynod frwdfrydig i hyrwyddo a dylanwadu ar ein gwaith eirioli a pholisi a meithrin cysylltiadau â chynrychiolwyr etholedig a rhanddeilaid allweddol.
Sut beth yw gweithio yma?
Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa ar ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb.
Fel Ymgynghorydd Materion Allanol, bydd eich cylch gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan, ac felly, gallwn fod yn hyblyg o ran lleoliad; byddwch wedi'ch lleoli o'ch hwb swyddfa agosaf, a gallwch weithio gartref; ond hefyd, bydd y rôl yn cynnwys crwydro o un man i'r llall, felly bydd angen ichi fod yn gyfforddus â theithio.
Eich Gwaith
Fel rhan o'r tîm Materion Allanol yng Nghymru, byddwch yn allweddol yn llywio sut mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael ei gweld yng Nghymru a ledled y byd. Byddwch yn meithrin cysylltiad â gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru; monitro a dehongli polisïau, a dylanwadu arnynt; datblygu crynodebau o ansawdd uchel a threfnu a chyflwyno digwyddiadau.
Byddwch yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd hynod drefnus a strwythuredig – yn rheoli ac yn cofnodi ein cysylltiadau â gwleidyddion allweddol, rhanddeiliaid ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu prosesau effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth gyda'r byd allanol.
Byddwch yn gyfathrebwr profiadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'n hachos, gan gynrychioli'r Ymddiriedolaeth i gynulleidfaoedd allanol.
Byddwch yn monitro a dehongli polisïau, ac yn dylanwadu arnynt, wrth gynnig cyngor am yr amgylchedd gwleidyddol i gydweithwyr, briffio staff ar y risgiau a chyfleoedd ar gyfer achos, strategaeth a gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyflym, ac at safon uchel. Byddwch yn gweithio'n agos â'n timau Marchnata a Chyfathrebu er mwyn sicrhau neges gyson ar draws sawl sianel.
Byddwch yn gweithio a chydweithwyr i feithrin cysylltiadau hirdymor gydag unigolion allweddol yn y meysydd gwleidyddol, polisi a grwpiau rhanddeiliad, gan ganolbwyntio ar adnabod pwy sy'n ddylanwadol ar gyfer ein hagenda ymysg seneddwyr a chynnig deunyddiau i feithrin eu hymddiriedaeth a hyder ynom ni.
Byddwch yn cyfrannu at brosesau mewnol ac yn datblygu cysylltiad da ledled yr Ymddiriedaeth, gan gynnwys gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Thîm Materion Allanol yr Ymddiriedolaeth Gyfan.
Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.
Dyddiad Cynnal y Cyfweliadau dros dro: Dydd Mercher 13 Gorffennaf
Am bwy rydym yn chwilio?
Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cynnwys manylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Profiad o weithio yn y maes eirioli, polisi neu weithio mewn partneriaeth allanol.
- Dealltwriaeth am y dirwedd randdeiliaid yng Nghymru.
- Gwybodaeth a phrofiad o dirwedd wleidyddol Cymru.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau rhyngbersonol gwych.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio'n gyflym a blaenoriaethu.
- Y gallu i gynnal, dehongli ac ymateb i ymchwil, deallusrwydd a dadansoddiad allanol a mewnol.
Y Pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £35,022
Lleoliad
📍 Llandudno
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.