Swyddi Cymraeg — Llanfair-ym-Muallt
2 swydd yn cyfateb
Pennaeth Gweithrediadau
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Bennaeth Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd sy’n gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.
Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol.
Gan edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau.
Felly, mae Pennaeth Gweithrediadau yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain y Gymdeithas, gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, a gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr Digwyddiadau Anrhydeddus y Gymdeithas, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion a Phwyllgorau.
Cyfrifoldebau Allweddol
Bydd gan Bennaeth Gweithrediadau gyfrifoldeb am gynllunio, cydlynu, a chyflawni holl agweddau gweithredol ein digwyddiadau mewnol, yn cynnwys:
· paratoi Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau,
· caffael a rheoli contractau gwasanaethau allweddol a hurio yn cynnwys diogeledd, rheoli traffig, parcio, giatiau a mynedfeydd, pebyll, glanhau, rheoli gwastraff, cyfathrebu a system sain ayb.
· arolygu’r holl gystadlaethau da byw a goruchwylio’r Adran Dda Byw,
· arolygu a goruchwylio’r Adran Stondinau Masnach,
· diogelwch digwyddiadau a chyswllt â’n Cynghorydd Iechyd a Diogelwch,
· trwyddedu a chydymffurfiaeth,
· cynllunio at argyfyngau,
· rheolaeth llinell staff a gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, aelodau, pwyllgorau a grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu yn ôl y gofynion.
Pennaeth Gweithrediadau yw’r swyddog arweiniol sy’n gyfrifol am ddarparu’r Ffair Aeaf hefyd.
Mae hon yn swydd gyffrous ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.
Ynglŷn â Chi
Mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau pwysig ar gyfer y swydd. Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon.
Profiad
· Hanes o lwyddiant blaenorol yn rheoli digwyddiadau.
· Profiad o weithrediadau y gellir ei ddangos.
· Rheoli contractau a chyflenwyr.
· Gwybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoli risg.
· Cynhyrchu, rheoli a gwerthuso cyllidebau.
· Rheoli staff a gweithio fel tîm.
Sgiliau a gwybodaeth
· Llythrennedd TG rhagorol
· Yn dra threfnus.
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
· Sgiliau rheoli amser rhagorol, gallu i flaenoriaethu, gweithio dan bwysau ac amldasgio.
· Sgiliau cyflwyno rhagorol yn Saesneg (hanfodol) a Chymraeg (dymunol) – ar lafar ac yn ysgrifenedig.*
· Menter a chreadigrwydd.
· Sylw astud i fanylion.
· Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch a hyderus.
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones ([email protected]).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 3 Ionawr 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023.
Gweler manylion y pecyn buddion a’r telerau cyflogaeth cyffredinol yn y ddogfen ategol.
* Ystyrir sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad i’r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle.
Cyflog
💰 Tua £40,000
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt, Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)
Mae Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn edrych am Gynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Teitl swydd
Cynorthwyydd Gweinyddol
Nod y swydd:
I ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol i Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig a’i aelodau
Adrodd i:
Ymddiriedolwyr Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig
Rheolwr Llinell:
Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig
Lleoliad
Bydd deilydd y swydd yn gweithio yn swyddfa Llanfair ym Muallt ond mae’n bosib bydd angen teithio i leoliadau eraill yn rhinwedd gwaith y Gymdeithas o bryd i’w gilydd
Prif ddyletswyddau
Dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr, ymgymryd ag ystod o dasgau gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon busnes dydd i ddydd y Gymdeithas
Gweinyddu proses tanysgrifio aelodaeth blynyddol y Gymdeithas, gan gynnwys danfon anfonebau, derbynebau, nodiadau atgoffa, prosesu gohiriadau a datrys unrhyw ymholiadau dilynol
Gweinyddu cofrestriadau gwartheg a chysylltu gydag asiantaethau perthnasol
Cynorthwyo gyda choladu gwybodaeth ar gyfer eu cynnwys yn amrywiol gyhoeddiadau y Gymdeithas, gan gynnwys yr Herd Book and Journal
Darparu gwybodaeth angenrheidiol i Arwerthwyr Gwerthiant a Gwasgariad Cynnal cofnodion papur a chyfrifiadurol ynghylch aelodau, cofrestriadau, gwerthiannau ac ati
Cynorthwyo gyda chyfrifoldebau eraill yn ystod absenoldeb staff
Unrhyw dasgau rhesymol eraill a roddir yn achlysurol
Priodoleddau ychwanegol
Gallu rheoli amser yn effeithiol
Dangos ymroddiad i gyfartaledd ac amrywedd
Mynychu hyfforddiant, cyfarfodydd y Gymdeithas a digwyddiadau tim yn ol yr angen
Yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei hun
Manyleb Person
SGILIAU
Hanfodol
Profiad o weinyddiaeth swyddfa
Sgiliau llythrennedd a rhifedd addas
Sgiliau TG I lefel canolradd
Sgiliau cyfathrebu
Hunan-ysgogol
Gallu gweithio fel rhan o dim
Dymunol
Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Gwybodaeth elfennol o faterion ffermio
Nid yw proffil y rol yn drwyadl; bydd yn cael ei adolygu yn gyfnodol a gellir ei addasu er mwyn cwrdd ag anghenion newidiol y Gymdeithas, ond bydd y dyletswyddau wastad yn gymesur a gradd cyflog a’r profiad sy’n ofynnol i’r rol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £11 yr awr
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.