Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais.
3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth.
4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin.
5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cymorth, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu.
6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad.
7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Cyfrifoldeb am ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.
10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus.
11. Bod yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr.
12. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr.
13. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol.
14. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd.
15. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion.
16. Cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau.
17. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.