Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Bennaeth Democratiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol i fod yn Bennaeth Democratiaeth sy'n deall sefyllfa unigryw Ynys Môn fel sir ac a fydd yn gallu gweithio gyda'n Haelodau Etholedig, y tîm arweinyddiaeth, ein staff yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol.
Fel arweinydd Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod, prif rôl deilydd y swydd yw ymgymryd â rôl statudol Pennaeth Democratiaeth yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Bydd y Pennaeth Democratiaeth yn arwain a rheoli gweinyddiaeth effeithiol Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.
Rydym yn chwilio am unigolyn o ansawdd uchel i ymuno â ni, sy'n dal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus ac sy'n angerddol am ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau.