Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Prosiect Porth Ymwelwyr
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Reolwr Prosiect Porth Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
Rheoli a gweithredu Prosiect Porth Ymwelwyr Rhyngwladol Ynys Gybi’r Cyngor Sir (gan gydymffurfio'n llwyr â rheoliadau'r cyllidwr) er mwyn sicrhau y cyflawnir yr holl allbynnau’n llwyddiannus.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau buddsoddiad gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (SCEC) a Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu pecyn integredig ar gyfer gwella’r profiad i ymwelwyr ym Mhorthladd Caergybi a lleoliadau allweddol penodol ar Ynys Gybi, gan gynnwys yn Hen Dref Caergybi. Bydd hefyd yn hyrwyddo Ynys Gybi, Ynys Môn a Gogledd Cymru fel atyniadau i ymwelwyr rhyngwladol, ynghyd â’r ymwybyddiaeth o Gymru, ei threftadaeth, ei thirwedd a’i diwylliant. Mae cyllideb y prosiect oddeutu £2.9m. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys darparu cynlluniau adfywio treftadaeth cysylltiedig sy'n cael eu hariannu ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mewn ymateb, mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) yn awr yn dymuno penodi Rheolwr Prosiect gyda’r profiad addas a fydd yn gyfrifol am gydlynu, gweithredu a chyflawni’r cynllun hwn a sicrhau bod yr holl ganlyniadau’n cael eu gwireddu. Bydd y rheolwr prosiect a benodir yn gyfrifol am reoli a chydlynu pecyn integredig o welliannau fel y disgrifir yng nghynllun busnes y prosiect.
Cyflog
💰 £30,095 - £33,486
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.