Swyddi Cymraeg — Llithfaen
4 swydd yn cyfateb
Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd hon yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd ddod i Nant Gwrtheyrn i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y cyfleoedd yn digwydd yn bennaf o fewn ffrwd ddysgu Cymraeg Gwaith y Nant ac yn gyfle i’r tiwtor ddatblygu arbenigedd gyda dysgwyr o fewn y sector iechyd yn benodol. Mae datblygu sgiliau iaith yn y sector yma yn holl bwysig o safbwynt cefnogi’r byrddau iechyd i fedru darparu’r Cynnig Rhagweithiol yn effeithiol.
Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Magu perthynas agos gyda’r byrddau iechyd er mwyn hwyluso mynediad eu dysgwyr at wasanaethau Nant Gwrtheyrn
- Tiwtora ar gyrsiau preswyl a rhithiol Cymraeg Gwaith Nant Gwrtheyrn – o lefel Sylfaen hyd at lefel Gloywi gyda chefnogaeth uwch diwtoriaid
- Darparu cyngor ac arweiniad wrth ddelio gydag ymholiadau gan ddarpar ddysgwyr o’r sector iechyd
- Cynnig gwasanaeth ôl ofal i ddysgwyr o’r sector iechyd
- Cefnogi dysgwyr (sector iechyd) ar lefel 1:1 yn achlysurol ac yn ôl y galw
- Cyfrannu at y broses gynllunio rhaglen mewn modd rhagweithiol
- Paratoi deunydd ategol / ychwanegol i helpu i gyflwyno gwersi bywiog, dyfeisgar a chynhwysol
- Bugeilio’r dosbarthiadau cyn, yn ystod ac ar ôl cwrs, gan ddarparu anogaeth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sy’n cyfrannu at ddarparu profiad effeithiol, gwerthfawr a chynhwysol i’n dysgwyr
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd yr Adran Addysg ac unrhyw gyfarfodydd eraill perthnasol i’r swydd yn ôl y galw
- Mynychu cyfarfodydd perthnasol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar faterion perthnasol
- Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol cysylltiedig
- Darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr sy’n ansicr ynghylch eu lefel bresennol gan ddarparu cyngor doeth ac adeiladol.
- Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y galw
- Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn rheolau’r Ddeddf Gwarchod Data
- Unrhyw waith rhesymol arall
Am fwy o wybodaeth a manyleb person, cysylltwch gyda Siwan Tomos ar [email protected] neu ar 01758 719573.
Cyflog
💰 £28,459
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Adran Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno gyda'r criw.
Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y rhaglen addysgu ac yn ganolbwynt cadarn i weithdrefnau adran brysur, uchelgeisiol ac arloesol.
Bydd yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus holl gyrsiau Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn drwy’r tasgau gweinyddol canlynol:
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dysgwyr sy’n ffonio neu’n e-bostio’r adran;
- Cydlynu cofrestriadau drwy ddefnyddio systemau sydd wedi ei sefydlu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Adran Addysg yn y Nant;
- Cyfathrebu gyda dysgwyr cyn cyrsiau gan ddefnyddio ystod o dempledi e-bost e.e.cadarnhau cofrestru, cadarnhau gosod ar restr aros, e-bost 12 wythnos cyn cwrs ac ati;
- Argraffu ffeiliau ac adnoddau gan gefnogi tiwtoriaid cyn ac yn ystod cyrsiau;
- Cydlynu’r rhaglenni ymweliadau ac adloniant (archebu bysiau a chadarnhau argaeledd lleoliadau ayyb);
- Darparu cyngor effeithiol i ddarpar ddysgwyr (dros y ffôn / e-bost / wyneb yn wyneb);
- Paratoi a gyrru Pecyn Llongyfarch at bob dysgwr sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus;
- Cyfeirio dysgwyr at diwtoriaid yn ôl y galw gan baratoi amserlenni;
- Paratoi anfonebau a derbynebau yn ôl y galw (darperir hyfforddiant);
- Mynychu cyfarfodydd tîm a chofnodi yn ôl y galw;
- Cefnogi tasgau a digwyddiadau cyffredinol yr adran a’r ganolfan yn ehangach yn ôl y galw.
- Cyfathrebu a chefnogi dysgwyr yn ystod cyrsiau preswyl.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected] erbyn 9fed o Chwefror, 2024.
Cyflog
💰 £23,453
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tim
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Tim
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi eisiau datblygu caffi Meinir i fod yn gyrchfan ar gyfer bwyd, ac yn sicrhau bod trefniadau staffio ar waith i gyflwyno cynnig llwyddiannus i ddysgwyr, priodasau a sesiynau galw heibio? Ydych chi yn medru adnabod anghenion hyfforddi cydweithwyr o fewn y tîm Arlwyo? Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth arlwyo yn bodloni'r holl safonau a rheoliadau iechyd a diogelwch ac iechyd yr amgylchedd gofynnol. A ydych chi eisiau bod yn aelod allweddol o dîm gweithredol Nant Gwrtheyrn, gan helpu i sicrhau bod pob archeb yn cael ei chyflwyno’n ddidrafferth ac yn llwyddiannus?
Prif gyfrifoldebau
- Arwain a rheoli tîm arlwyo Nant Gwrtheyrn i ddarparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel
- Cydweithio gyda’r Rheolwr Atyniadf a Digwyddiadau i sicrhau bod y caffi yn cyrraedd targedau incwm i ariannu cenhadaeth ehangach y mudiad
- Sicrhau bod rotâu staff yn cael eu rheoli a'u cyfathrebu'n gywir
- Recriwtio a sefydlu aelodau newydd o staff yn ôl yr angen
- Rhoi adborth rheolaidd i aelodau’r tîm arlwyo, gan sicrhau eu bod yn gallu ymgymryd â dysgu a datblygu
- Creu cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewnol lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol
- Cydweithio gyda’r cogyddion i ddylunio bwydlenni a fydd yn tyfu'r busnes arlwyo yn Nant Gwrtheyrn a'i alluogi i ddod yn gaffi cyrchfan i'r gymuned leol ac ymwelwyr
- Cydweithio gyda’r cogyddion i adlewyrchu hynodrwydd Nant Gwrtheyrn o fewn y seigiau a gynigir, gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd tra'n gwneud y mwyaf o elw
- Rheoli dognau i sicrhau bod targedau elw yn cael eu cyflawni
- Datblygu cynigion newydd o fewn y busnes arlwyo i gynyddu incwm a chodi proffil y busnes bwyd a diod
- Gweithredu fel model rôl i weddill y tîm
- Monitro prisiau cyflenwyr yn barhaus i sicrhau caffael gwerth gorau
- Datblygu perthnasoedd cryf gyda chyflenwyr sy'n caniatáu hyblygrwydd ac ystwythder cyflenwad yn ôl gofynion y busnes
- Mynd ati i geisio, gwerthuso a gweithredu ar adborth gan ymwelwyr i greu diwylliant o welliant parhaus o fewn y caffi
- Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid o fewn yr adran arlwyo, cadw'n gyfoes â rheoliadau Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod Nant yn cyflawni i'r safonau uchaf
- Cydweithio ac yn agos ag arweinwyr, rheolwyr a chydweithwyr eraill o fewn tîm ehangach Nant Gwrtheyrn fel bod archebion yn cael eu cyflwyno'n llwyddiannus mewn ffordd gydgysylltiedig
- Gweithio’n rhagweithiol gyda’r Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a sianeli cysylltiadau cyhoeddus eraill er mwyn hyrwyddo’r arlwy arlwyo yn y Nant a sicrhau presenoldeb da ar gyfer digwyddiadau arbennig a.y.b.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected]
Cyflog
💰 £28,822 - £33,143
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol am gefnogi’r gwaith o gyflawni cenhadaeth ac amcanion Nant Gwrtheyrn. Bydd hynny drwy reoli brand, cyfathrebu mewnol ac allanol a rheoli llwyfannau digidol. Drwy weithgareddau Marchnata, bydd yr Arweinydd yn helpu i dyfu’r busnes ar draws holl weithrediadau’r Nant (Dysgu, Llety, Arlwyo, Priodasau a Digwyddiadau) gan rannu’r hyn sydd gan y Nant i’w gynnig ar y Cyfryngau Cymdeithasol, y wefan a thrwy’r wasg a chysylltiadau cyhoeddus. Bydd yr Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu yn arwain ar frandio o fewn y Nant gan sicrhau bod pob gweithgarwch sy’n ymwneud a’r cyhoedd yn cael ei gyflawni o fewn gwerthoedd y brand. Bydd deilydd y swydd yn arwain yr holl gyfathrebu mewnol, gan alluogi cydweithwyr ym mhob rhan o’r Sefydliad gael briff llawn ar yr hyn sydd yn digwydd yn y Nant. Bydd yr uchod yn cael ei gyflawni o fewn cyd-destun cynllun Marchnata blynyddol, Bu deilydd y Swydd yn ei ddatblygu a’i roi ar waith gan sicrhau bod yr holl gyd-weithwyr yn deall sut maent yn cyfrannu at y cynllun mawr a sut bydd y cynllun yn cyflawni ar gyfer eu rhan hwy o’r busnes.
Prif gyfrifoldebau
Cyfathrebu
- Arweinio holl gyfathrebu mewnol y Nant. Mynychu cyfarfod wythnosol gweithrediadau’r busnes a chynhyrchu nodyn briffio “beth sy ‘mlaen” wythnosol i’r holl staff. Cynorthwyo’r Prif Weithredwr gyda chyfarfodydd staff a chyfathrebu diweddariadau strategol pwysig i staff a phartneriaid. Cynhyrchu cylchlythyrau chwarterol i rhanddeiliaid (Bwrdd, staff, cyn-ddysgwyr ac eraill sydd wedi mynegi diddordeb yn y Nant)
- Gweithredu fel hyrwyddwr Brand Newydd y Nant a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfathrebiadau sy’n wynebu’r cyhoedd yn gyson a chefnogol o frand y Nant. Cefnogi cydweithwyr gydag unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud a’r brand.
- Canolbwyntio ar wella ymgysylltiad â’r gymuned leol gan gyd-weithio’n agos gyda’r Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau a’r tîm Dysgu a Threftadaeth i hyrwyddo digwyddiadau
- Gwerthuso ac adolygu holiaduron y Nant
- Creu cysylltiadau a phartneriaethau newydd gyda busnesau a chyrff gan ddatblygu cynnyrch i hyrwyddo’r Nant fel Canolfan arloesol Cymreig a Chymraeg ei naws
- Hyrwyddo’r Ganolfan mewn digwyddiadau allanol yn ôl y galw
- Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn reolau’r Ddeddf Gwarchod Data
- Cyrraedd targedau cytunedig a dangosyddion perfformiad ar draws pob rhan o’ch cyfrifoldebau.
- Darparu adroddiad chwarterol ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriadolwyr
Marchnata
- Rheoli cyllideb farchnata’r Ganolfan a chyfathrebu a pharatoi adroddiadau gan gynnwys yr elfen ariannol i’r Rheolwr Atyniad a Digwyddiadau’n fisol.
- Datblygu a gweithredu Cynllun Marchnata blynyddol sy’n gysylltiedig â’r cynllun busnes blynyddol . Bydd y cynllun yn amlinellu‘r dull o farchnata a ddefnyddir i gyflawni amcanion busnes y cwmni, cyrraedd targedau adrannol a sicrhau tŵf busnes.
- “Perchnogi” gwefan Nant Gwrtheyrn a sicrhau ei fod yn cael ei gadw’n gyfredol a’i fod yn cael ei ddefnyddio’n rhagweithiol i ysgogi tŵf busnes.
- Cyd-weithio efo’r Cydlynydd Busnes i hyrwyddo unrhyw gyfleoedd a bylchau o fewn y busnes llety er mwyn uchafu deiliadaeth.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected]
Cyflog
💰 £28,822 - £33,143
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.