Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Arweinydd Tim
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Tim
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi eisiau datblygu caffi Meinir i fod yn gyrchfan ar gyfer bwyd, ac yn sicrhau bod trefniadau staffio ar waith i gyflwyno cynnig llwyddiannus i ddysgwyr, priodasau a sesiynau galw heibio? Ydych chi yn medru adnabod anghenion hyfforddi cydweithwyr o fewn y tîm Arlwyo? Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth arlwyo yn bodloni'r holl safonau a rheoliadau iechyd a diogelwch ac iechyd yr amgylchedd gofynnol. A ydych chi eisiau bod yn aelod allweddol o dîm gweithredol Nant Gwrtheyrn, gan helpu i sicrhau bod pob archeb yn cael ei chyflwyno’n ddidrafferth ac yn llwyddiannus?
Prif gyfrifoldebau
- Arwain a rheoli tîm arlwyo Nant Gwrtheyrn i ddarparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel
- Cydweithio gyda’r Rheolwr Atyniadf a Digwyddiadau i sicrhau bod y caffi yn cyrraedd targedau incwm i ariannu cenhadaeth ehangach y mudiad
- Sicrhau bod rotâu staff yn cael eu rheoli a'u cyfathrebu'n gywir
- Recriwtio a sefydlu aelodau newydd o staff yn ôl yr angen
- Rhoi adborth rheolaidd i aelodau’r tîm arlwyo, gan sicrhau eu bod yn gallu ymgymryd â dysgu a datblygu
- Creu cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewnol lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol
- Cydweithio gyda’r cogyddion i ddylunio bwydlenni a fydd yn tyfu'r busnes arlwyo yn Nant Gwrtheyrn a'i alluogi i ddod yn gaffi cyrchfan i'r gymuned leol ac ymwelwyr
- Cydweithio gyda’r cogyddion i adlewyrchu hynodrwydd Nant Gwrtheyrn o fewn y seigiau a gynigir, gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd tra'n gwneud y mwyaf o elw
- Rheoli dognau i sicrhau bod targedau elw yn cael eu cyflawni
- Datblygu cynigion newydd o fewn y busnes arlwyo i gynyddu incwm a chodi proffil y busnes bwyd a diod
- Gweithredu fel model rôl i weddill y tîm
- Monitro prisiau cyflenwyr yn barhaus i sicrhau caffael gwerth gorau
- Datblygu perthnasoedd cryf gyda chyflenwyr sy'n caniatáu hyblygrwydd ac ystwythder cyflenwad yn ôl gofynion y busnes
- Mynd ati i geisio, gwerthuso a gweithredu ar adborth gan ymwelwyr i greu diwylliant o welliant parhaus o fewn y caffi
- Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid o fewn yr adran arlwyo, cadw'n gyfoes â rheoliadau Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod Nant yn cyflawni i'r safonau uchaf
- Cydweithio ac yn agos ag arweinwyr, rheolwyr a chydweithwyr eraill o fewn tîm ehangach Nant Gwrtheyrn fel bod archebion yn cael eu cyflwyno'n llwyddiannus mewn ffordd gydgysylltiedig
- Gweithio’n rhagweithiol gyda’r Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a sianeli cysylltiadau cyhoeddus eraill er mwyn hyrwyddo’r arlwy arlwyo yn y Nant a sicrhau presenoldeb da ar gyfer digwyddiadau arbennig a.y.b.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected]
Cyflog
💰 £28,822 - £33,143
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.