Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Adran Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno gyda'r criw.
Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y rhaglen addysgu ac yn ganolbwynt cadarn i weithdrefnau adran brysur, uchelgeisiol ac arloesol.
Bydd yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus holl gyrsiau Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn drwy’r tasgau gweinyddol canlynol:
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dysgwyr sy’n ffonio neu’n e-bostio’r adran;
- Cydlynu cofrestriadau drwy ddefnyddio systemau sydd wedi ei sefydlu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Adran Addysg yn y Nant;
- Cyfathrebu gyda dysgwyr cyn cyrsiau gan ddefnyddio ystod o dempledi e-bost e.e.cadarnhau cofrestru, cadarnhau gosod ar restr aros, e-bost 12 wythnos cyn cwrs ac ati;
- Argraffu ffeiliau ac adnoddau gan gefnogi tiwtoriaid cyn ac yn ystod cyrsiau;
- Cydlynu’r rhaglenni ymweliadau ac adloniant (archebu bysiau a chadarnhau argaeledd lleoliadau ayyb);
- Darparu cyngor effeithiol i ddarpar ddysgwyr (dros y ffôn / e-bost / wyneb yn wyneb);
- Paratoi a gyrru Pecyn Llongyfarch at bob dysgwr sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus;
- Cyfeirio dysgwyr at diwtoriaid yn ôl y galw gan baratoi amserlenni;
- Paratoi anfonebau a derbynebau yn ôl y galw (darperir hyfforddiant);
- Mynychu cyfarfodydd tîm a chofnodi yn ôl y galw;
- Cefnogi tasgau a digwyddiadau cyffredinol yr adran a’r ganolfan yn ehangach yn ôl y galw.
- Cyfathrebu a chefnogi dysgwyr yn ystod cyrsiau preswyl.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected] erbyn 9fed o Chwefror, 2024.
Cyflog
💰 £23,453
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.